Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwrthlif dros dro yr A55 yng Nghaergybi yn dechrau heddiw

Wedi'i bostio ar 28 Rhagfyr 2020

Bydd gwrthlif dros dro ar yr A55 rhwng cyffyrdd 2 – 4 tua’r dwyrain yn dechrau o heddiw ymlaen (dydd Llun, 28 Rhagfyr) fel rhan o gynlluniau wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer diwedd y cyfnod Pontio â’r UE.

Nod y cynlluniau yw lleihau unrhyw darfu posibl yn y porthladd, y dref a’r gymuned yn ehangach.

O’r 1 Ionawr, bydd yn rhaid i gwmnïau fferi ar y ffordd i Iwerddon gysylltu gwybodaeth am dollau i’w harcheb ac os ydynt yn cyrraedd heb wneud hynny ni fydd yn bosibl iddynt gael mynediad i’r porthladd.

Mae’r sefyllfa waethaf resymol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith y gallai 40-70% o’r Cerbydau Nwyddau Trwm sy’n cyrraedd y porthladdoedd wedi diwedd y Cyfnod Pontio gael eu gwrthod gan nad oes ganddynt y dogfennau iawn. Mae disgwyl i’r uchafswm fod yng nghanol Ionawr, ond mae angen gwneud trefniadau erbyn diwedd y cyfnod Pontio o hanner nos ar y 1af Ionawr.

Bydd pob Cerbyd Nwyddau Trwm sy’n cael eu gwrthod yn y porthladd yn cael eu hail-gyfeirio yn ôl i’r gwrthlif i fynd oddi ar y ffordd ar Gyffordd 4 ac ymuno â’r gerbytffordd tua’r gorllewin, sydd wedi ei neilltuo ar gyfer Cerbydau Nwyddau Trwm sydd wedi eu hail-gyfeirio. Byddant naill ai’n cael eu hail-gyfeirio i safle arall, neu os nad oes safle arall ar gael byddant yn cael eu cadw ar yr A55 wrth iddynt drefnu y gwaith papur cywir.

Mae’r gwaith eisoes ar y gweill ar Blot 9 Parc Cybi ac mae’r safle i fod yn barod i dderbyn Cerbydau Nwyddau Trwm erbyn canol mis Ionawr.

Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae angen inni weithredu’r cynlluniau wrth gefn hyn er mwyn gwneud popeth y gallwn i leihau unrhyw darfu posibl yn y porthladd, cymuned Caergybi a’r ardal ehangach.

“Rydyn ni wedi wynebu y math yma o sefyllfa o’r blaen, ac mae gennym ddyletswydd i baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf bosibl. Rydyn ni’n disgwyl i’r amser prysuraf ar gyfer Cerbydau Nwyddau Trwm fod tuag at ganol Ionawr, ac mae’n bosibl, ond nid yn bendant, y bydd y diwrnodau cyntaf ym mis Ionawr yn gymharol ddistaw. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni fod yn barod am unrhyw beth.

“Byddwn yn adolygu ein cynlluniau yn barhaus a chyn gynted ag y daw yn glir nad ydym bellach angen gwrthlif, byddwn yn dod â’r cynllun i ben.

“Rydym wedi bod yn gweithio gyda partneriaid ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys Cyngor Ynys Môn, ar y cynlluniau hyn. Bydd unrhyw adolygiadau a newidiadau i’r cynlluniau yn cael eu gwneud mewn ymgynghoriad llawn â hwy.

“O’r dechrau rydym wedi bod yn glir y byddai dull gweithredu Llywodraeth y DU ar ein perthynas fasnachu yn y dyfodol â’r UE yn golygu y perygl o darfu sylweddol yng Nghymru, yn enwedig ar y ffin.”

Am yr wybodaeth ddiweddaraf am y traffig yng Nghaergybi ewch i Trafnidiaeth Cymru ar https://traffig.cymru/ @TrafficWalesN.

Mae cwestiynau cyffredin ar y cynlluniau ar gyfer Caergybi ar gael ar safle Paratoi Cymru https://llyw.cymru/porthladd-caergybi-cwestiynau-cyffredin

Cyhoeddir y datganiad yma ar ran Llywodraeth Cymru.


Wedi'i bostio ar 28 Rhagfyr 2020