Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwirfoddolwyr ar Ynys Môn yn cymryd camau yn erbyn perygl llifogydd

Wedi'i bostio ar 5 Ionawr 2021

Ar ôl cael eu heffeithio gan lifogydd, mae gwirfoddolwyr mewn tair cymuned ar yr ynys wedi dod at ei gilydd i geisio gwella pethau iddyn nhw eu hunain ac eraill sy'n byw mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd.

Sefydlwyd Grwpiau Partneriaeth Llifogydd yn Llangefni, Dwyran a Biwmares er mwyn dod â phobl leol ac asiantaethau perthnasol at ei gilydd i drafod rheoli risg llifogydd ac ymateb i achosion o lifogydd pan fyddant yn digwydd.

Mae'r Grwpiau wedi creu Cynlluniau Llifogydd Cymunedol sy'n hwyluso ymateb cyflym i rybuddion a rhybuddion lleol ar lawr gwlad. Mae hyn yn cynnwys dosbarthu bagiau tywod a mesurau eraill a fydd yn helpu i ddiogelu preswylwyr a busnesau os bydd llifogydd.

Dywedodd Rhian Sinnott, Cadeirydd Grŵp Llangefni a Warden Llifogydd: "Ar ôl y llifogydd dinistriol ym mis Tachwedd 2017, a gafodd effaith sylweddol ar drigolion a busnesau Llangefni, daethom at ein gilydd fel gwirfoddolwyr i ffurfio Grŵp Partneriaeth Llifogydd Llangefni.

"O fewn y grŵp mae gennym Gynllun Llifogydd Cymunedol, yn ogystal â Chynllun Bagiau Tywod yr ydym wedi'i lunio i ddiogelu cartrefi a busnesau yn y dref rhag y perygl o ddioddef llifogydd.

"Rydym mor falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni fel cymuned, ac rydym yn ddiolchgar i bob gwirfoddolwr am yr hyn y maent yn ei gyfrannu i'r grŵp ac am eu hymrwymiad parhaus i ddiogelu eiddo rhag llifogydd."

Dywedodd y Cynghorydd Cymuned Dafydd Roberts, Uwch Warden Llifogydd - Dwyran: "Mae'r bartneriaeth rhwng y gymuned, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wedi hyrwyddo dealltwriaeth lawnach o'r ddynameg llifogydd yn Nwyran.

"Mae hyn wedi galluogi cydweithio i ddod o hyd i ymyriadau wedi'u targedu a'u hariannu er mwyn ceisio lliniaru llifogydd yn y dyfodol a datblygu mwy o wydnwch cymunedol."

Mae Grŵp Partneriaeth Llifogydd Biwmares yn grŵp gwirfoddol lleol arall sy'n cynnwys gwirfoddolwyr o sbectrwm eang o oedrannau a galwedigaethau. Dywedodd Jason Zalot, Cadeirydd ac Uwch Warden Llifogydd: "Mae gan aelodau'r Grŵp wybodaeth fanwl am y dref ac ar adegau o law trwm a gwyntoedd cryfion byddant yn dod at ei gilydd i ddiogelu'r dref a'i thrigolion rhag llifogydd."

Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi canmol ymdrechion gwirfoddolwyr lleol i helpu i reoli ac ymateb i berygl llifogydd yn eu cymunedau.

Dywedodd Huw Percy, Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd Gwastraff ac Eiddo, Cyngor Sir Ynys Môn: "Rydym yn gweithio'n gydag eraill yn barhaus i wella'r broses o reoli perygl llifogydd ar yr ynys ac i ymateb yn effeithiol i achosion o lifogydd.

"Mae'r gwaith a wneir gan y Grwpiau Partneriaeth Llifogydd yn wirioneddol amhrisiadwy. Fel cynrychiolwyr cymunedol, mae'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y Grwpiau hyn yn rhoi gwybodaeth a safbwyntiau lleol i ni sy’n llywio penderfyniadau ynghylch sut y rheolir y perygl o lifogydd. Byddant hefyd yn darparu cymorth ar lawr gwlad mewn cymunedau pan gyhoeddir rhybuddion llifogydd.

"Hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu hamser a'u hymdrechion clodwiw i helpu i feithrin gwydnwch yn erbyn llifogydd."

Ychwanegodd Siân Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru CNC: "Gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar deuluoedd, busnesau a chymunedau fel y gwelsom ledled Cymru eto eleni.

"Wrth i newid hinsawdd ddwysáu, byddwn yn profi digwyddiadau tywydd mwy eithafol, gan gynnwys cyfnodau gwlyb dwys fel y rhai a brofwyd y gaeaf diwethaf. Mae hyn yn gwneud rheoli perygl llifogydd yn her gynyddol yn y blynyddoedd i ddod, a bydd yr angen i weithio mewn partneriaeth yn dod yn bwysicach fyth.

"Gall ymateb yn gyflym ar lefel leol cyn ac yn ystod llifogydd helpu i leddfu a lleihau rhai o'r effeithiau ar breswylwyr a busnesau. Mae'r Grwpiau Partneriaeth Llifogydd yn chwarae rhan eithriadol o bwysig yn hyn o beth, ac rydym yn diolch i’r holl wirfoddolwyr sy'n gwneud cymaint i helpu’r gwaith o ddiogelu cymunedau Ynys Môn."

DIWEDD 05.01.2020


Wedi'i bostio ar 5 Ionawr 2021