Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth Cofrestru’n symud i gartref newydd

Wedi'i bostio ar 25 Medi 2019

O 30ain Medi 2019, bydd Gwasanaeth Cofrestru’r Cyngor yn cael ei leoli yng Nghanolfan Fusnes Ynys Môn, Parc Busnes Bryn Cefni, Llangefni, LL77 7XA.

Ni fydd unrhyw newid i’r rhifau ffôn ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd y Swyddfa Gofrestru ym mhen pellaf y Ganolfan Fusnes a bydd ganddi ei maes parcio ei hun a fydd ar gael yn rhad ac am ddim a mynedfa ar wahân a bydd yno arwyddion clir a bydd yn gwbl hygyrch i’r henoed, yr anabl a phobl gyda chadeiriau gwthio a bygis.

Mae’r cyfleusterau yn y swyddfa newydd yn cynnwys ystafell fawr ar gyfer seremonïau priodas ble mae lle i 45 o bobl, Swyddfa’r Cofrestrydd Arolygol ar gyfer seremonïau bychan gyda hyd at 6 o bobl, swyddfa gofrestru ble gellir cofrestru genedigaethau a marwolaethau mewn amgylchedd preifat a sensitif a man aros preifat.  

Y tu allan, bydd ardal wedi ei thirlunio ble gellir tynnu lluniau a maes parcio penodol sydd ar gael yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid y Cofrestryddion.

Hefyd, mae man gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar gael ym maes parcio’r Ganolfan Fusnes sydd gerllaw.

Bydd ail-leoli’r Swyddfa Gofrestru yn golygu y bydd toriad byr iawn yn y gwasanaeth ac ni fydd unrhyw apwyntiadau yn cael eu gwneud ar gyfer y cyfnod hwn a hoffem gymeryd y cyfle i ymddiheuro am unrhyw anhwylustod y bydd hyn yn ei achosi ond yn cynghori fydd y gwasanaeth yn ail gychwyn ar y 2/10/2019.

AM fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwarchod y Cyhoedd ar 01248 752 322 / 3.

Gweler map


Wedi'i bostio ar 25 Medi 2019