Mae Fforwm Landlordiaid Blynyddol Ynys Môn ar y gorwel. Eleni, cynhelir y fforwm rhithiol ar ddydd Mawrth, 22 Mehefin a hynny rhwng 2pm a 3.30pm.
Mae’r pynciau ar yr agenda yn cynnwys
- Strategaeth Tai Lleol Ynys Môn 2022 i 2027
- Diweddariad NRLA – gorchmynion troi allan
- Grantiau Cefnogi Tai
- Gwasanaeth Cynhwysiant Ariannol
Mae pob un o’r pynciau hyn yn cael effaith sylweddol ar y sector rhentu preifat ac felly mae landlordiaid yn cael eu hannog i fynychu.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, y deilydd portffolio Tai, “Mae’r Fforwm landlordiaid yn dangos y bartneriaeth sy’n bodoli rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a landlordiaid lleol a hynny er mwyn datrys yr heriau sy’n codi o fewn y sector tai preifat.”
Ychwanegodd, “Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol a hefyd yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i helpu landlordiaid fodloni’r heriau llety unigryw a wynebir ar yr ynys.”
Unwaith eto, bydd cyfle i landlordiaid rwydweithio â landlordiaid eraill. Bydd amrywiaeth o gynrychiolwyr wrth law er mwyn ateb unrhyw ymholiadau a bydd cyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd pob sesiwn.”
Os hoffech ymuno â’r gweminar am ddim hwn, cofrestrwch ymlaen llaw drwy ddilyn y ddolen Zoom isod: https://zoom.us/meeting/register/tJ0rcuygpz0vHNONiuFUHNM3tsLEOq_57PRK
Os na allwch fynychu ond yr hoffech gyflwyno cwestiwn neu os hoffech fwy o wybodaeth anfonwch neges e-bost at: StrategolTai@ynysmon.llyw.cymru
Diwedd 17.6.21