Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gofyn am fewnbwn y cyhoedd fel rhan o adolygiad Afon Menai

Wedi'i bostio ar 10 Mehefin 2021

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi comisiynu adolygiad o weithgareddau morwrol ar Afon Menai.

Bydd y cyhoedd yn cael cyfle i fynegi barn – fel rhan o’r adolygiad a gynhelir gan yr ymgynghorwyr morwrol arbenigol ABPmer. Bydd y gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar yr ardal rhwng Pont Menai ac Ynys Seiriol.

Mae dyfrffordd Afon Menai, rhwng Ynys Môn a thir mawr Cymru, yn cael ei defnyddio’n rheolaidd gan weithredwyr badau masnachol, defnyddwyr cychod hamdden, defnyddwyr sgïau jet, pysgotwyr a badau padlo. Mae ganddi ecoleg unigryw ac amrywiol hefyd a dynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Ar hyn o bryd mae ABPmer yn asesu gweithgareddau morwrol ar y Fenai ac yn gwneud argymhellion ynghylch lle gellir gwella ei rheolaeth.

Yfory (Dydd Gwener, 11 Mehefin) rhwng 10am a 2pm, gall aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb yn y Fenai ymweld â Swyddfa Meistr y Pier ym Mhorthaethwy i drafod yr adolygiad gydag ABPmer.

Eglurodd y deilydd portffolio Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr y Cyngor, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Mae’r Fenai yn ddyfrffordd eiconig ac mae ganddi rôl holl bwysig fel amwynder lleol, yn ogystal â chefnogi ein heconomi, yr amgylchedd a’r diwydiant twristiaeth.

“Mae pwysigrwydd ecolegol y Fenai, ynghyd â’i phoblogrwydd cynyddol fel adnodd hamdden yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod angen i ni ailedrych ar ei rheolaeth ac ar ddiogelwch morwrol.

“Bydd yr adolygiad newydd a gomisiynwyd gan y Cyngor Sir yn caniatáu i ni ymgysylltu â rhanddeiliaid amrywiol wrth i ni weithio i sicrhau dull cytbwys o reoli’r Fenai yn y dyfodol a fydd yn cynnal bywoliaethau, gweithgareddau hamdden a defnydd cymunedol am flynyddoedd i ddod.”

Mae gan arbenigwyr morwrol ABPmer brofiad helaeth o gynnal Asesiadau Risg Morwrol a gwiriadau eraill er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch rheolaeth a chydsyniadau. Disgwylir y bydd adroddiad yn manylu ar argymhellion rheoli yn cael ei gyflwyno ym mis Awst 2021.

Ychwanegodd Harry Aitchison, Rheolwr Prosiect gyda ABPmer, “Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn allweddol i’r adolygiad hwn. Mae angen i ni ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â defnydd cynyddol o’r Fenai a nodi mesurau rheoli. Byddwn yn nodi hefyd sut i leihau effeithiau negyddol ar y cymunedau lleol.

“Bydd yr adolygiad yn rhoi ystyriaeth i weithgareddau morwrol a’r rhyngweithio rhwng ardaloedd amgylcheddol a warchodir, diogelwch morwrol, yn ogystal â gwerth economaidd y Fenai a’r buddion y mae’n ei darparu i gymunedau lleol a’u llesiant.”

Cewch ragor o wybodaeth am yr adolygiad o weithgareddau morwrol ar Afon Menai drwy gysylltu gyda EfanMilner@ynysmon.llyw.cymru

Diwedd 10.6.21


Wedi'i bostio ar 10 Mehefin 2021