Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Fflatiau wedi eu hadnewyddu fel rhan o gynllun tai

Wedi'i bostio ar 8 Mai 2019

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnig y cyfle i unigolion a chyplau dros 60 oed i wneud cais am dai cymdeithasol yn Fflatiau llawr y Dref sydd newydd gael eu hadnewyddu yn Llangefni.

Mae’r cynllun, sydd wedi galluogi Gwasanaethau Tai'r cyngor i ailwampio'r 29 fflat, wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol, ac mae’r fflatiau wedi cael eu trawsnewid i ddarparu llety byw cyfforddus a modern.

Dywedodd deilydd portffolio Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Alun Mummery, “Mae hwn gyfnod cyffrous i’r Gwasanaeth wrth i ni anelu at gynyddu a gwella ein stoc tai fel rhan o’n cynllun 30 mlynedd uchelgeisiol.”

“Prif nod y cynllun yw helpu trigolion Môn, a hoffwn ddiolch i staff y gwasanaeth a’n partneriaid am eu gwaith caled hyd yn hyn  er mwyn ein cynorthwyo ni i gyflawni ein nod.”  

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai, Ned Michael, “Cyngor Sir Ynys Môn yw un o 11 cyngor yng Nghymru sydd wedi dal gafael yn eu stoc tai ac rydym yn cydnabod yr angen am dai fforddiadwy ar gyfer rhentu.”

“Mae fflatiau lawr y Dref wedi cael eu hailwampio yn ddiweddar,  a bydd y tenantiaid  yn elwa o amrywiaeth o ddarpariaethau a fydd yn cynnwys gwres canolog nwy, drysau patio yn agor i erddi cymunedol nad oes angen gwneud gwaith cynnal arnynt, balconïau juliet ar gyfer y fflatiau ar y llawr cyntaf, a lifft ar gyfer y llawr cyntaf.”

“Mae’r gwaith adnewyddu hwn hefyd wedi ein galluogi ni i sicrhau bod yr adeilad yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn ac yn cynnig mynediad a lle storio ar gyfer sgwteri. Mae cyfleusterau cymunedol  hefyd yn rhan o’r pecyn, sy’n cynnwys gerddi, golchdy ar y safle a lolfa ar gyfer cymdeithasu.”

Mae’r Gwasanaethau Tai wedi trefnu diwrnod gwybodaeth ar gyfer darpar denantiaid  fel y gallant ddod i weld y cyfadeilad, a chael y cyfle i gwrdd â’r tîm a gweld yr eiddo. Bydd y diwrnod gwybodaeth yn cael ei gynnal ar yr 19eg o Fai o 10yb i 2yp.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â’r Gwasanaethau Tai trwy e-bost, ADRANTAI@ynysmon.llyw.cymru, neu drwy ffonio 01248 752200.

DIWEDD: 08.05.2019


Wedi'i bostio ar 8 Mai 2019