Yn ddiweddar, cafodd plant ysgolion cynradd Ynys Môn gyfle i fwynhau gweithgareddau cyfeiriannau a drefnwyd gan y tîm Môn Actif.
Roedd yr ŵyl gyfeiriannau, a gynhaliwyd ar Stad Carreglwyd, Llanfaethlu, yn llwyddiant ysgubol gyda channoedd o blant yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfeiriannu wrth weithio fel rhan o dîm.
Dywedodd Barry Edwards, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymunedol Ynys Môn,
“Mae’n wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel hyn. Roedd dros 500 o blant yn cymryd rhan – ac o’r adborth a gafwyd hyd yma gan y plant a’r athrawon, roedd pob un ohonyn nhw wedi mwynhau’r sesiynau!”
Mae Môn Actif yn brysur yn paratoi ar gyfer gwyliau hanner tymor ac wedi cyhoeddi y bydd y gwersylloedd chwaraeon poblogaidd i blant yn cael eu cynnal unwaith eto! Dim ond £10 yw cost y gwersylloedd chwaraeon diwrnod cyfan ac maent yn cynnig gweithgareddau chwaraeon strwythuredig gan gynnwys; Pêl-droed, Pêl-rwyd, Rygbi, Athletau a Nofio - mae rhywbeth i ddiddanu pob plentyn. Yn ogystal, bydd pob plentyn yn cael brecwast maethlon.
Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Hamdden:
“Mae’r sesiynau cyfeiriannu wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rydym yn falch iawn bod y plant wedi cael gymaint o fwynhad.”
Ychwanegodd, “Mae’r gwersylloedd chwaraeon fydd yn cael eu cynnal eto yn ystod y gwyliau hanner tymor yn gyfle i’r plant roi cynnig ar weithgareddau chwaraeon amrywiol. Rydym yn argymell eich bod yn archebu lle ar gyfer eich plentyn cyn gynted â phosib rhag ofn i chi gael eich siomi.”
Bydd y Gwersylloedd Chwaraeon poblogaidd i blant yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni: 28.10.19 – 01248 722966
Canolfan Hamdden Amlwch: 29.10.19 – 01407 830060
Canolfan Hamdden David Hughes: 30.10.19 – 01248 715653
Canolfan Hamdden Caergybi: 31.10.19 – 01407 764111
Mae’n hanfodol archebu lle ar gyfer y diwrnodau Gwersyll Chwaraeon, felly ffoniwch eich canolfan hamdden leol i archebu lle i’ch plentyn.
Diwedd 21.10.19