Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Diogelwch cymunedau lleol yn ganolog i gynlluniau wrth gefn Caergybi wrth adael yr UE

Wedi'i bostio ar 23 Rhagfyr 2020

Mae diogelwch cymunedau a thrigolion lleol a effeithir gan y newidiadau tebygol i Borthladd Caergybi yn ganolog i’r cynlluniau wrth gefn hynny sydd â’r nod o leihau aflonyddwch traffig wrth i ddiwedd cyfnod Pontio’r UE agosáu.

Cafodd Cynghorwyr Ynys Môn ddiweddariad am baratoadau Llywodraeth Cymru bnawn ddoe (Dydd Mawrth, 22 Rhagfyr), a hynny ar faterion yn ymwneud â ffiniau gan CThEM, diogelwch y ffyrdd gan Heddlu Gogledd Cymru ac wrth iddynt glywed mwy am gynlluniau i amddiffyn cymunedau ar hyd yr A5 a’r A5025 ynghyd â thref Caergybi.

Caergybi yw'r pwynt mynediad a gadael allweddol ar gyfer nwyddau a gludir rhwng y DU ac Iwerddon ac mae ei statws fel y porthladd fferi rholio ymlaen/rholio i ffwrdd prysuraf ond un yn y DU yn golygu ei fod yn gyswllt hanfodol yn y gadwyn gyflenwi i fusnesau ledled Cymru, y DU ac Iwerddon. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd porthladd Caergybi.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli'r rhwydwaith cefnffyrdd ac mae'n cynllunio ar gyfer effaith bosibl oedi i gludwyr sy'n teithio i Iwerddon, pan fydd yr UE yn rhoi'r rheolaethau ffin newydd ar waith ar gyfer traffig y DU ar 1 Ionawr 2021. Bydd traffig y gefnffordd a’r traffig lleol yn dod ynghyd ger mynedfa’r Porthladd (ar y bont) gydag oedi a thagfeydd eisoes yn rhywbeth arferol.

Bydd gweithredwyr fferi yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid cludo llwythi sydd ar eu ffordd i Iwerddon atodi gwybodaeth tollau i'w harcheb, ac os byddant yn cyrraedd heb wneud hynny ni fyddant yn gallu dod i mewn i'r porthladd. Fe ddylai system ddigidol newydd CThEM bellach fod yn fyw.

Bu’r sesiwn friffio edrych ar y mesurau sy’n cael eu cymryd i ddiogelu cymunedau a thrigolion lleol; gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau cyflymder a mesurau atal parcio. Bydd arwyddion ychwanegol hefyd yn cael eu codi er mwyn annog cerbydau trwm (HGV) i beidio â gadael yr A55.

Croesawodd y deilydd portffolio Priffyrdd, y Cynghorydd Bob Parry, yr ail sesiwn briffio aelodau rhithiol sydd wedi’i chynnal yn yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd, “Mae’n hanfodol ein bod ni fel aelodau etholedig yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac rwy’n ddiolchgar i gydweithwyr o Lywodraeth Cymru am ein diweddaru â’r wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn ateb y pryderon sy’n cael eu codi gan ein trigolion. Rydym yn falch iawn o glywed am y cynlluniau ychwanegol ar gyfer amddiffyn cymunedau oddi ar yr A55 o ystyried y pryderon y gallai rhai lorïau a thraffig arall sydd ar ei ffordd i Gaergybi yrru drwy Gaergeiliog a’r Fali er mwyn ceisio osgoi tagfeydd.”

“Byddwn yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Traffig Cymru a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd. Mae diogelwch cymunedau a thrigolion lleol yn parhau i fod yn ganolog i’r cynlluniau wrth gefn hyn.”

“Mae’r sefyllfa yn bell o fod yn ddelfrydol ond mae’n rhaid i ni gydweithio a bod yn wyliadwrus. Rwy’n annog trigolion i gymryd gofal ychwanegol, i yrru’n ofalus ac i ddilyn arwyddion y ffordd dros yr wythnosau nesaf.”

Mae’r sefyllfa waethaf resymol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn nodi y gallai rhwng 40 a 70% o loriau HGV sy’n cyrraedd porthladdoedd ar ddiwedd y Cyfnod Pontio gael eu troi i ffwrdd gan na fydd ganddynt y ddogfennaeth gywir. Disgwylir y cyfnod prysuraf tua chanol Ionawr. Gellid hefyd gweld oedi o ganlyniad i wiriadau newydd ar y ffiniau yn Nulyn, a allai achosi oedi ar y llongau ac yna oedi i loriau yng Nghaergybi.

Fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau aflonyddwch. Mae’r mesurau canlynol yn cael eu cyflwyno:

  • caiff gwrthlif dros dro ei gyflwyno ar yr A55 rhwng Cyffordd 2 – 4 o’r A55 tua’r Dwyrain gyda’r briffordd tua’r Gorllewin yn cael ei chadw ar gyfer hidlo ac efallai stacio’r loriau HGV sy’n cael eu troi i ffwrdd o’r Porthladd. Bydd hyn ar waith o 28 Rhagfyr ac yn barod i'w ddefnyddio o 1 Ionawr
  • caiff pob cerbyd na chaiff fynediad i'r porthladd ei ailgyfeirio i'r gwrthlif lle y caiff ei stacio ac yna bydd yn ymuno â’r briffordd tua’r Gorllewin yng Nghyffordd 4. Bydd cerbydau sydd â’r ddogfennaeth gywir yn gallu teithio yn syth i’r porthladd a chofrestru ar gyfer teithio fel arfer
  • mae gwaith wedi dechrau ar Blot 9 Parc Cybi er mwyn galluogi’r safle i gael ei ddefnyddio fel safle stacio o ganol mis Ionawr
  • mae Llywodraeth Cymru hefyd yn trafod y posibilrwydd o ddefnyddio safle RoadKing ger y Porthladd
  • mae arwyddion bellach yn eu lle ar yr A55 er mwyn hysbysu modurwyr am oedi posibl o 1 Ionawr

Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Gogledd Cymru, Ken Skates: “Rydym wedi rhoi cynlluniau wrth gefn yn eu lle er mwyn amddiffyn y porthladd, cymuned Caergybi a’r ardal ehangach. Ein nod yw sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosibl. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r holl bartneriaid ledled Gogledd Cymru, yn cynnwys Cyngor Môn, wrth i ni roi’r cynlluniau hyn ar waith.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Byddwn yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill er mwyn ceisio lleihau unrhyw aflonyddwch posibl i Gaergybi a chymunedau eraill ledled Ynys Môn wrth i’r cyfnod pontio ddod i ben ar 31 Rhagfyr. Wrth wneud hynny, rydym yn dymuno helpu i amddiffyn safle Porthladd Caergybi fel un o’r prif gysylltiadau rhyngwladol.”

“Gyda’r amser i adael yr UE bron a chyrraedd, ein blaenoriaeth yn dal i fod yw sicrhau symudiadau masnach a thraffig effeithiol drwy Borthladd Caergybi tra’n amddiffyn ein trigolion a’n cymunedau lleol.”

Diwedd 23.12.20


Wedi'i bostio ar 23 Rhagfyr 2020