Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Dathlu Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn

Wedi'i bostio ar 15 Hydref 2021

Mae Oriel Môn yn falch o gyhoeddi agoriad pumed Arddangosfa Gwobr Lluniadu Kyffin Williams.

Sefydlwyd ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ gan Ymddiriedolaeth Kyffin Williams ac Oriel Môn, mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, er cof am un o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru.

Cynhelir y gystadleuaeth lluniadu clodfawr pob tair blynedd. Mae gwobr o £3,000 ar gael i enillydd y gystadleuaeth agored a £1,000 yr un i enillwyr y gystadleuaeth i fyfyrwyr.

Eleri Mills, yr artist adnabyddus, yw enillydd y wobr agored eleni am ei lluniad inc arbennig ‘Yn y Dyffryn – Tuag at y Bont’.

Dywedodd Eleri, sy’n hanu o ganolbarth Cymru, “Rydw i wrth fy modd fy mod wedi ennill Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2021, yn enwedig gan fy mod wedi dod i nabod Kyffin yn y 1990au. Cefais wahoddiad i’w gartref, Pwllfanogl, ar sawl achlysur ac rydw i’n trysori’r llythyrau a dderbyniais ganddo. Roedd Kyffin mor gefnogol o fy ngwaith a fo wnaeth fy nghyflwyno i Oriel Thackery, Llundain. Fe wnaeth hefyd ysgrifennu cyflwyniad i fy arddangosfa gyntaf yno yn 2003. Mae ennill yn golygu hyd yn oed mwy i mi oherwydd fy nghyswllt personol â Kyffin”.

Zack James Robinson ac Orestas Norkus, myfyrwyr talentog yng Ngholeg Menai, Bangor, yw enillwyr y gystadleuaeth i fyfyrwyr.

‘Replica Van Gogh’ yw teitl y lluniad buddugol gan Zack, myfyriwr Celfyddyd Gain a gychwynnodd ail flwyddyn ei gwrs gradd ym mis Medi. Meddai, “Mae celf wastad wedi bod o ddiddordeb i mi fel ffordd o fynegi teimladau sy’n ehangu pob math o bosibiliadau. Mae’r darn yr ydw i wedi’i greu ar gyfer y gystadleuaeth yn replica o’r paentiad poblogaidd gan Van Gogh, ‘Cae Gwenith gyda Chypreswydd’”.

Mae’r darn buddugol gan Orestas yn lluniad pensaernïol o’r enw ‘Des Attentes Elevees’. Eglurodd Orestas, “Cychwynnodd fy niddordeb mewn pensaernïaeth a strwythurau gwahanol adeiladau pan roeddwn yn tyfu i fyny yn Lithwania. Mae fy ngwaith celf wedi’i ddylanwadu gan fy astudiaethau i wahanol strwythurau ar draws y byd a’r dylanwad y mae siapiau a ffurfiau llinellog yn ei gael ar y gwyliwr”.

Mae’r wobr eleni wedi noddi’n hael gan y Pensaer Rhyngwladol, Mr Mike Davies, a dderbyniodd yr anrhydedd ‘Légion d'Honneur’ gan Lywodraeth Ffrainc, ac un o sylfaenwyr y cwmni ‘Rogers, Stirk, Harbour and Partners’ sef y penseiri a ddyluniodd Adeilad y Senedd, Caerdydd.

Dywedodd David Meredith, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, “Mae’n hyfrydwch gan Ymddiriedolaeth Kyffin Williams gael gweithio mewn partneriaeth ag Oriel Môn, Llangefni i drefnu’r Wobr Lluniadu unwaith rhagor eleni”.

“Yr hyn sy’n ein hysbrydoli ni oll yw egwyddorion artistig creadigol gwych Syr Kyffin eu hun, gyda’i bwyslais ar bwysigrwydd y weithred o luniadu yn y byd celf. Llongyfarchiadau mawr i’r buddugwyr, un sy’n artist cydnabyddedig (enillydd y wobr gyntaf), ac enillwyr y ddwy wobr i fyfyrwyr”, 

“Diolch yn arbennig i’r noddwr 2021, sef Mike Davies y Cymro a Phensaer o enwogrwydd rhyngwladol, oedd yn ddisgybl i John Kyffin Williams pan oedd o yn athro celf yn ysgol Highgate Llundain yn y 50au. Mae ein diolch hefyd i’n partneriaid gydag Oriel Môn, i Esther Roberts, Uwch Reolwr a’i staff, ac yn benodol i Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr am ei gwaith trefnu manwl a hefyd i’r beirniaid”.

Fe ychwanegodd, “Tra gall yr Ymddiriedolaeth ledaenu bendithion iachusol creadigrwydd, fe wnawn”.

Eleni roedd panel beirniadu ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’, a gadeiriwyd gan David Meredith, yn cynnwys Lisa Taylor, Owein Prendergast, Gareth Parry a John Smith.

Ers i’r Gystadleuaeth Lluniadu gael ei chynnal am y tro cyntaf yn 2009, mae mwy a mwy o artistiaid o bob rhan o Gymru a Lloegr wedi ymgeisio. Roedd y gystadleuaeth yn heriol eleni gan fod orielau ac amgueddfeydd wedi gorfod cau oherwydd y pandemig, fodd bynnag er gwaetha’r ddau gyfnod clo llwyddodd y wobr i ddenu dros 150 o geisiadau a dewiswyd 63 o’r lluniadau gorau ar gyfer yr arddangosfa.

Bydd gwaith yr artistiaid buddugol, Eleri Mills, Zack James Robinson ac Orestas Norkus, a’r artistiaid eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer, yn cael ei arddangos yn Arddangosfa Gwobr Lluniadu Kyffin Williams yn Oriel Môn, rhwng 16 Hydref 2021 a 31 Ionawr 2022. Mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim; fodd bynnag os na allwch ymweld â’r oriel, gallwch weld yr arddangosfa gyfan ar-lein yn www.orielmon.org.

Mae Oriel Môn ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sul, rhwng 10am a 5pm. Gofynnir i gwsmeriaid lynu wrth y gweithdrefnau diogelwch pan fyddant ar y safle.

Bydd Caffi Dewi Oriel Môn yn gweini rhwng 10am a 3.45pm (archeb olaf 3.15pm). Mae seddi ar gael tu mewn a thu allan ond fe’ch cynghorir i archebu ymlaen llaw rhag cael ei siomi. Cewch aros wrth eich bwrdd am 1½ awr. I archebu bwrdd yn y caffi, ffoniwch Caffi Dewi Oriel Môn: 01248 751 516.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch:01248 724444/oriel@ynysmon.llyw.cymru 

Diwedd 15 Hydref 2021

Am ragor o wybodaeth:
Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr
01248 752014
NicolaGibson@ynysmon.llyw.cymru


Wedi'i bostio ar 15 Hydref 2021