Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Eich Casgliad: dathlu 30 mlynedd o gelf yn Oriel Môn

Wedi'i bostio ar 18 Mehefin 2021

Mae 2021 yn flwyddyn hynod arbennig yn hanes Oriel Môn, wrth i’r Oriel ddathlu 30 mlynedd o gasglu a gofalu am gelf i bobl Ynys Môn. I nodi’r garreg filltir bwysig hon bydd yr Oriel yn arddangos casgliad cyffrous o weithiau celf o’r casgliad. Mae’r arddangosfa yn dweud stori dechrau’r Oriel a’r unigolion oedd yn hollbwysig wrth sicrhau ei llwyddiant fel un o brif amgueddfeydd ac orielau cymru. 

Agorwyd Oriel Môn i’r cyhoedd ar y 25ain o Hydref, 1991. Un o’r prif resymau dros gael Oriel ac Amgueddfa oedd rhoi cartref i gasgliad byd-enwog Charles Tunnicliffe. Dywedodd Ian Jones, Rheolwr Casgliadau ac Adeiladau, Oriel Môn “trwy ddyfalbarhad parhaus edmygwyr o waith Tunnicliffe ac ymdrechion aelodau etholedig y Cyngor Bwrdeistref, ynghyd â chyllid o amrywiol ffynonellau, prynwyd yr holl gasgliad gan ystâd yr arlunydd cyn iddo gael ei werthu gan Christies yn Llundain ym Mai 1981”. Yn dilyn blynyddoedd o gynllunio a gwaith caled mi oedd gan Ynys Môn ei horiel a’i hamgueddfa ei hun, wedi ei dylunio i arddangos celf ac eitemau yn ymwneud â’n hynys unigryw.

Arlunydd Cymreig adnabyddus arall oedd yn hynod gefnogol o sefydlu Oriel Môn oedd Kyffin Williams. Ym 1990, cyn yr agoriad swyddogol, mi roddodd gasgliad o dros 300 o’i ddarluniau a darnau dyfrlliw yn anrheg i’r Oriel. Parhaodd gyda’i haelioni drwy gydol ei fywyd, gan barhau i roddi ei weithiau ei hun ynghyd â darnau gan arlunwyr eraill. Yn 2008, agorwyd Oriel Kyffin Williams fel teyrnged i’w dalent a’i haelioni.

Mae hi felly yn addas fod yr arddangosfa ‘Eich Casgliad’ yn cael ei harddangos yn Oriel Kyffin Williams. Ynghyd â gweithiau gan Kyffin Williams a Charles Tunnicliffe, byddwch hefyd yn gallu gweld gwaith gan Gwilym Pritchard, Wilf Roberts, Mary Lloyd Jones, Karel Lek, Gomer Lewis a Peter Prendergast i enwi ond ychydig. Byddwn hefyd yn dangos darnau a’u rhoddwyd yn hynod garedig gan deuluoedd yr artistiaid Leonard McComb ac Edrica Huws, ynghyd â nifer o gaffaeliadau cyffrous eraill. Ni ddangoswyd erioed gynifer o weithiau o'r casgliad gyda’i gilydd, gan roi digon o ysbrydoliaeth i bobl Ynys Môn ac ymwelwyr â'r ynys.

Mae’r arddangosfa ‘Eich Casgliad’ ymlaen o’r 3ydd o Orffennaf tan y 3ydd o Hydref, 2021, ac mae mynediad am ddim. Bydd Oriel Môn ar agor Dydd Mawrth tan Ddydd Sul, 10.00yb tan 5.00yh. Bydd disgwyl i gwsmeriaid gadw at weithdrefnau diogelwch tra ar y safle. Fe'ch cynghorir i archebu tocyn i'r arddangosfa ymlaen llaw gan fod capasiti ymwelwyr ar y safle wedi ei leihau. I archebu eich tocyn ewch i www.orielmon.org ac yna’r adran ‘Cynllunio eich ymweliad’.

Oriau gweini Caffi Dewi Oriel Môn fydd 10yb tan 3.45yh (archeb bwrdd olaf am 3.15yh). Bydd mannau eistedd tu mewn ac awyr agored ar gael ac fe’ch cynghorir i archebu i osgoi cael eich siomi. Mae pob bwrdd ar gael am 1 ½ awr.

I archebu bwrdd yn y caffi, rhowch alwad i Gaffi Dewi Oriel Môn: 01248 751 516.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni ar 01248 724444 / oriel@ynysmon.llyw.cymru 

DIWEDD


Wedi'i bostio ar 18 Mehefin 2021