Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynnydd yn y Dreth Gyngor mewn ymdrech i warchod gwasanaethau hanfodol

Wedi'i bostio ar 18 Chwefror 2019

Heddiw (Dydd Llun 18 Chwefror), mae Pwyllgor Gwaith Ynys Môn wedi argymell cynnydd o 9.5% yn y Dreth Gyngor er mwyn ceisio gwarchod cyllidebau’r ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill.

Mae’r Cyngor Sir yn wynebu ei her ariannol fwyaf hyd yma ar ôl toriad arall yn y cyllid a gaiff gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n ceisio cwrdd â blwch cyllido £7m cyn unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor yn ystod 2019/20. Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau cymdeithasol; ynghyd â chost y cynnydd yn nyfarniad tâl athrawon, chwyddiant cyflogau a chwyddiant cyffredinol mewn prisiau oll yn gostau y mae’n rhaid cwrdd â nhw.

Eglurodd yr aelod portffolio cyllid, y Cynghorydd Robin Williams, “Mae Cyngor Môn wedi cael ei orfodi i wneud toriadau gwerth mwy na £24m ers 2013/14.

Eleni yn unig, rydym wedi gorfod gwneud gwerth £2.5m o doriadau i wasanaethau. Yr un modd ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, nid ydym wedi gweld diwedd i’r llymder ariannol ac mae’n trigolion a’n cymunedau’n parhau i ddioddef o’r herwydd.”

“Mae’r setliad a gafwyd gan Lywodraeth Cymru eleni wedi arwain at doriad yn y cyllid a gawn, er bod costau’n parhau i godi’n sylweddol. Mae gofyn cynyddol wedi arwain at orwariant mewn rhai gwasanaethau ac mae hynny yn ei dro, wedi erydu ein cronfeydd ariannol wrth gefn sy’n golygu na fedrwn eu defnyddio i gydbwyso cyllideb eleni.”

Ychwanegodd, “Nid oes dewis gennym felly ond codi’r Dreth Gyngor i gwrdd â’r bwlch cyllido ac i warchod gwasanaethau hanfodol y Cyngor.”

Yn ogystal, cefnogodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith gynigion i godi’r premiwm dreth gyngor ar ail gartrefi i 35% a’r premiwm dreth gyngor ar eiddo gwag i 100%.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, “Oherwydd y pwysau ariannol aruthrol sydd arnom, rydym wedi ei chael hi’n anodd iawn gwarchod cyllidebau’r ysgolion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae lleihad yn nifer y staff dysgu’n golygu bod maint dosbarthiadau’n cynyddu a gall hyn yn ei dro gael effaith ar safonau ac arwain at ganlyniadau difrifol i addysg ein plant yn y dyfodol.”

“Rydym yn deall na fydd cynnydd yn y Dreth Gyngor yn boblogaidd, ond mae’n hanfodol fod gwasanaethau megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu gwarchod cymaint â phosib er mwyn diogelu dyfodol ein plant a’n pobl ifanc.”

Bydd argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn awr yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn ar ddydd Mercher, Chwefror 27, i ddwyn i ben y trafodaethau ar Gyllideb 2019/20.

Os bydd cynigion y Pwyllgor Gwaith yn cael eu cefnogi, gyda Chyngor Môn fydd y Dreth Gyngor isaf ond un yng Ngogledd Cymru o hyd a bydd oddeutu £70 yn is na chyfartaledd Cymru.

Diwedd 18.2.19


Wedi'i bostio ar 18 Chwefror 2019