Bydd Cynllun Bioamrywiaeth sydd newydd ei gymeradwyo yn helpu’r Cyngor Sir i ymateb i effeithiau newid hinsawdd.
Ym mis Medi 2020, mi wnaeth Ynys Môn ddatgan ei gefnogaeth ffurfiol i newid hinsawdd ac i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.
Bydd y Cynllun Bioamrywiaeth newydd yn gwneud cyfraniad hanfodol at gyflawni Cynllun Newid Hinsawdd sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Ei nod yw sicrhau bod y Cyngor Sir yn cynnal ac yn ehangu’r cyfoeth o fioamrywiaeth amrywiol ar yr Ynys wrth wneud ei waith ac, wrth wneud hynny, yn hyrwyddo gwytnwch ecosystemau lleol.
Dywedodd Christian Branch, Pennaeth Dros Dro Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, “Dyma gynllun Bioamrywiaeth gyntaf y Cyngor Sir a bydd ei nodau a’i amcanion yn cael eu hadlewyrchu yng ngwaith pob un o’n Gwasanaethau.”
“Mae cyfoeth o fioamrywiaeth yn darparu nifer o’r adnoddau pwysig sydd eu hangen arnom mewn bywyd megis bwyd, meddyginiaethau, ynni a deunyddiau crai. Bydd amddiffyn a gwella bioamrywiaeth yr Ynys yn sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael i ni yn y dyfodol.”
Mae amcanion y Cynllun Bioamrywiaeth yn cynnwys:
- Sicrhau bod yr effeithiau a’r cyfleoedd cysylltiedig â bioamrywiaeth yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel
- Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd allweddol
- Cynyddu gwytnwch yr amgylchedd naturiol drwy adfer cynefinoedd sydd wedi eu diraddio a chreu cynefinoedd newydd
- Mynd i’r afael â phwysau allweddol ar rywogaethau a chynefinoedd
- Gwella sail tystiolaeth, monitro a chynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o fioamrywiaeth
Ychwanegodd y Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Richard Dew, “Bydd cyflawni nodau’r cynllun yn cryfhau bioamrywiaeth a fydd, yn ei dro, yn gwella’r amodau a fydd yn cyfrannu at lesiant cymunedau Ynys Môn.”
Mae mwy o wybodaeth am Gynllun Bioamrywiaeth y Cyngor ar gael yma.
Diwedd 05.02.21