Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyngor Sir Ynys Môn yn ymrwymo rhagor o gyllid ar gyfer Banciau Bwyd Ynys Môn

Wedi'i bostio ar 18 Mawrth 2020

Heddiw, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cadarnhau ei fod yn ymrwymo £30,000 i helpu i gefnogi Banciau Bwyd Ynys Môn.

Yn ystod yr amser tyngedfennol hwn bydd Banciau Bwyd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu'r rheini sydd mewn angen a byddant yn achubiaeth i lawer o deuluoedd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Ni ddylai neb yn ein cymuned orfod wynebu llwgu a dyna pam rydym yn ymrwymo'r arian hwn, er mwyn caniatáu i'r banciau bwyd barhau â'u gwaith anhygoel. "

Mae'r galw eisoes wedi cynyddu ym manciau bwyd Amlwch a Chaergybi yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac mae'r galw’n debygol o dyfu wrth i ni symud ymlaen trwy’r sefyllfa Coronafeirws; ar ôl y cyhoeddiad y dylai bod pobl dros 70 oed a’r rheini â chyflyrau iechyd cronig hunanynysu am gyfnodau hir, a rŵan bod yr ysgolion wedi cau.

Mae'r awdurdod wedi ymrwymo i gefnogi'r rheini sydd eisiau helpu mewn partneriaeth â Menter Môn a Medrwn Môn, ac rydym eisoes wedi gweld haelioni rhai unigolion a grwpiau cymunedol.

Ychwanegodd Llinos, “Rwy’n falch o weld sut mae cymunedau Ynys Môn wedi dod at ei gilydd. Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf yn unig mae Neuadd y Dref Caergybi wedi rhoi eu holl stociau bwyd i'r banciau bwyd ac mae'r elusen leol, Cefnogi Elusen hefyd wedi bod mor garedig â rhoi £1,000 i ganiatáu i'r banciau bwyd brynu cynhyrchion hylendid. Heb anghofio’r holl gefnogaeth gan fusnesau lleol a haelioni staff Cyngor Ynys Môn, sydd wedi rhoi  amser, arian a bwyd. ”

“Mae'r Cyngor bellach yn gweithio gyda chyflenwr lleol i brynu stociau o fwyd ar gyfer poblogaeth yr ynys. Fodd bynnag, ni fydd y rhain yn para'n hir iawn a dyna pam rwyf hefyd yn annog y cyhoedd i roi'r hyn y gallant. Mae Menter Môn wedi sefydlu Tudalen Go Fund Me i gefnogi’r banciau bwyd ac wedi gosod targed uchelgeisiol o £20,000 a fydd yn mynd tuag at gefnogi’r rheini sydd mewn angen.”

“Edrychwch ar ôl eich gilydd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y dudalen Go Fund Me.  I gael gwybodaeth am Fanciau Bwyd Ynys Môn dilynwch y ddolen hon: https://anglesey.foodbank.org.uk/

DIWEDD: 18/03/2020


Wedi'i bostio ar 18 Mawrth 2020