Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

CThEM yn gwahodd y diwydiant lletygarwch i gofrestru ar gyfer y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Wedi'i bostio ar 13 Gorffennaf 2020

Gall bwytai a sefydliadau eraill, sy’n gweini bwyd i’w fwyta ar y safle, gofrestru nawr ar gyfer menter newydd gan y llywodraeth sydd â’r nod o ddiogelu swyddi yn y diwydiant lletygarwch ac annog pobl i ddychwelyd i fwyta allan yn ddiogel.

Cafodd tudalen gofrestru’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan ei chyhoeddi y bore yma ar wefan GOV.UK, gan alluogi busnesau i ymuno â’r cynllun a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Rishi Sunak AS, Canghellor y Trysorlys.

Bydd bwytai, bariau, caffis a sefydliadau eraill sy’n defnyddio’r cynllun yn cynnig gostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o £10 yr un, i bob person sy’n bwyta a/neu’n yfed ar y safle drwy gydol mis Awst.

Ni fydd angen taleb ar gwsmeriaid gan y bydd y sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn cynnwys y gostyngiad ar eu bil. Yn syml, mae busnesau’n adennill y gostyngiad drwy wasanaeth ar-lein, a gynhelir gan Gyllid a Thollau EM (CThEM). Gellir cyflwyno hawliadau yn wythnosol a chânt eu talu i gyfrifon banc cyn pen pum diwrnod gwaith.

Mae’r cynllun ar gael i sefydliadau cymwys ledled y DU a gellir ei ddefnyddio drwy’r dydd, bob dydd Llun i ddydd Mercher, rhwng 3 a 31 Awst 2020.

Bydd busnesau’n cael sticer i roi yn eu ffenestr i ddangos eu bod yn defnyddio’r cynllun, a gallant lawrlwytho deunydd hyrwyddo o GOV.UK.

Meddai Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:

“Mae bwytai a sefydliadau cymwys eraill bellach yn gallu cynnal swyddi trwy gofrestru i gael lle ar y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.

“Bydd tudalen gofrestru CThEM, sy’n gyflym a hawdd ei defnyddio, yn eich rhoi ar ben y ffordd yn fuan iawn er mwyn croesawu’ch cwsmeriaid yn ôl gyda phrydau am bris gostyngol bob dydd Llun i ddydd Mercher drwy gydol mis Awst. Yn ogystal, bydd proses syml er mwyn adennill y gostyngiadau hyn gan y llywodraeth bob wythnos.”

Meddai Jim Harra, Prif Weithredwr a Phrif Ysgrifennydd Parhaol CThEM:

“Mae’r diwydiant lletygarwch ymhlith y sectorau y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt waethaf. Bydd y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan yn rhoi cymorth i oddeutu 130,000 o fusnesau, gan gynnwys bwytai, caffis a bariau sy’n gweini bwyd a diod, gan helpu i ddiogelu 1.8 miliwn o swyddi ledled y DU.

“Mae cofrestru yn hawdd, ac rydym yn annog busnesau i gofrestru’n gynnar er mwyn iddynt fod yn barod i ddefnyddio’r cynllun pan fydd yn dechrau ar 3 Awst.

“Mae busnesau wedi ymdrechu’n fawr i ailagor eu gwasanaethau eistedd-i-lawr yn ddiogel, yn unol â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, fel bod pobl yn gallu teimlo’n hyderus i fwyta allan eto.

“Gall busnesau ddod o hyd i wybodaeth am y cynllun a sut i gofrestru ar-lein ar wefan GOV.UK.”

Pwy all gofrestru?

Gallwch gofrestru ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan os yw’ch sefydliad:

  • yn gwerthu bwyd sydd i’w fwyta ar y safle pan gaiff ei brynu
  • yn darparu ei ardal fwyta ei hun, neu’n rhannu ardal fwyta gyda sefydliad arall, ar gyfer prydau sydd i’w bwyta ar y safle
  • wedi cofrestru fel busnes bwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol ar neu cyn 7 Gorffennaf

Sut i gofrestru:

Gall busnesau gofrestru i fod yn rhan o’r cynllun ar-lein yn GOV.UK.

Bydd twlsyn er mwyn dod o hyd i fwytai ar gael i’r cyhoedd cyn lansio’r cynllun ar 3 Awst.

Gall y cynllun gael ei ddefnyddio gan bobl sy’n archebu bwyd a/neu ddiodydd i’w bwyta neu yfed ar y safle. Mae alcohol wedi’i eithrio o’r cynnig.

Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau, gan gynnwys sut i gofrestru a chyflwyno hawliad, ar gael ar-lein yn GOV.UK.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan: https://www.gov.uk/government/publications/get-more-information-about-the-eat-out-to-help-out-scheme/get-more-information-about-the-eat-out-to-help-out-scheme
  2. Cael gwybod sut i gofrestru’ch sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan: https://www.gov.uk/guidance/register-your-establishment-for-the-eat-out-to-help-out-scheme.cy
  3. Mae’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan ar gael i fwytai a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd i’w fwyta ar y safle. Gall sefydliadau ddarparu eu hardal fwyta eu hunain, neu ei rhannu gyda sefydliadau eraill sy’n caniatáu i gwsmeriaid fwyta ar y safle.
  4. Ni all asiantau treth gofrestru na chyflwyno hawliadau ar ran eu cleientiaid. Bydd hyn yn sbarduno rhybudd o dwyll, a bydd yn arwain at oedi wrth gofrestru a hawlio. Bydd yn rhaid i gleientiaid y mae rhybudd o dwyll wedi effeithio arnynt gysylltu â ni ar wahân i ddatrys hyn.
  5. Gellir defnyddio’r gostyngiad yn ddiderfyn, a bydd yn ddilys o ddydd Llun i ddydd Mercher ar unrhyw brydau sydd i’w bwyta ar y safle, gan gynnwys diodydd di-alcohol, drwy gydol mis Awst 2020, ledled y DU.
  6. Nid oes angen taleb ar gwsmeriaid. Mae busnesau cofrestredig, yn syml iawn, yn gostwng y bil yn ôl y swm priodol, a gellir defnyddio’r cynnig ynghyd â hyrwyddiadau a chynigion eraill y mae’r busnes yn eu derbyn. 
  7. Mae arweiniad ar gyfer busnesau bwyd i’w weld ar GOV.UK
  8. Yr help sydd ar gael i fusnesau:
    • Mae arweiniad ar sut i gofrestru a chyflwyno hawliad ar wefan GOV.UK
    • Bydd gweminarau byw, sy’n rhad ac am ddim, yn egluro sut mae’r cynllun yn gweithio. Bydd y gweminarau hyn yn rhoi enghreifftiau ac yn eich galluogi i ofyn cwestiynau
    • Fideo YouTube sy’n egluro sut mae’r cynllun yn gweithio
    • Gwasanaeth sgwrsio dros y we
    • Llinell gymorth benodol ar gyfer bwytai [0300 200 1900] ar gael o 8am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
    • Deunydd hyrwyddo y gellir ei lawrlwytho’n rhad ac am ddim i helpu busnesau i hyrwyddo’r cynllun
  9. Bydd CThEM yn gwirio hawliadau ac yn cymryd camau priodol i atal neu adennill taliadau y canfyddir eu bod yn anonest neu’n anghywir.

Wedi'i bostio ar 13 Gorffennaf 2020