Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

‘Croesi Traethau’ yn Oriel Kyffin Williams

Wedi'i bostio ar 15 Gorffennaf 2019

Ar 20 Orffennaf, mi fydd Oriel Môn yn agor drysau Oriel Kyffin Williams i arddangosfa drawiadol iawn sef ‘Croesi Traethau’.

Casgliad preifat Ken Owen a’r diweddar Sian Owen ydyw o tua 90 o weithiau celf a gasglwyd dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.  Ymhlith y paentiadau mae gwaith rhai o artistiaid amlycaf Cymru o Augustus John i Kyffin Williams, Ed Povey i Meirion Ginsberg, Shani Rhys James i Claudia Williams a llawer mwy. 

Mi ddechreuodd Sian a Ken Owen gasglu lluniau yn 1990, sef y flwyddyn y priodwyd.  Eglurodd Ken, “Y rheswm dros alw’r arddangosfa yn ‘Croesi Traethau’ ydi mai ‘Traeth Gwyllt’ gan Selwyn Jones oedd y llun cyntaf un i ni ei brynu, a ‘Traeth Glas’ (Lesley Birch) yr un diwethaf. Daw teitl yr arddangosfa o gerdd enwog Gwyn Thomas, ‘Croesi Traeth’:

Y mae hen ddihareb Rwsiaidd sy’n dweud,

“Nid croesi cae yw byw.”

Cywir: croesi traeth ydyw.

Wrth ddechrau casglu tua deng mlynedd ar hugain yn ôl, doedd gan Ken na Sian ddim syniad y byddai ganddynt dros 90 o luniau rhyw ddydd.  “Mi dyfodd y casgliad yn raddol, o lun i lun.  Prynu o ran gwefr wnaethant bob tro. Rhaid i lun roi pleser, herio, ennyn chwilfrydedd - neu beth yw’r pwynt?”

“Mae Oriel Môn yn falch iawn i allu cynnal arddangosfa fel hyn - i roi cyfle i bobl weld gwaith celf a chasgliad sydd mewn dwylo preifat.  Mae yma baentiadau trawiadol dros ben gan rhai o artistiaid amlycaf sydd yn gweithio yng Nghymru” meddai Esther Roberts Prif Reolwr ar ran yr Oriel.  “Mae’n sioe sydd hefyd yn codi cwestiynau am gasglu a churadu, yr angerdd, chwant a rhesymau sydd tu cefni i gasgliad fel hyn.” 

Mae Ken yn egluro; “Daeth ambell lun yn uniongyrchol o stiwdio’r artist heb ymddangos mewn unrhyw arddangosfa erioed. Mae lluniau eraill yn rhoddion gan artistiaid a rhai wedi’u comisiynu’n arbennig. Mi fydd yn braf cael pobl eraill i roi eu llinyn mesur arnyn nhw a, gobeithio, eu gwerthfawrogi.”

Dywedodd Ken “Ar ôl prynu lluniau gyda’n gilydd am chwarter canrif, profiad rhyfedd wedyn oedd mynd ati fy hun i brynu, heb allu manteisio ar lygad arbennig Sian at gelf.  Wrth edrych ar y casgliad, rwy’n rhyfeddu ac yn teimlo balchder mawr. ‘Croesi Traethau’ yw gwaddol Sian a minnau”

Gellir gweld arddangosfa ‘Croesi Traethau’ tan Ionawr 19, 2020. Mae Oriel Môn ar agor bob dydd rhwng 10.00 a 5.00pm ac mae mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01248 724444 neu ewch i www.orielynysmon.info

Am ragor o wybodaeth:

Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr

01248 752014 / NicolaGibson@ynysmon.llyw.cymru


Wedi'i bostio ar 15 Gorffennaf 2019