Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cefnogaeth i fusnesau lleol yn sgil y clefyd Coronafeirws

Wedi'i bostio ar 30 Mawrth 2020

Grantiau i fusnesau wedi’u cofrestru i dalu trethi busnes yng Nghymru 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dau grant nad oes raid eu talu’n ôl, sy’n gysylltiedig i’r eiddo sy’n talu trethi busnes.

Heddiw (Dydd Llun, Mawrth 30ain) fe gychwynodd Cyngor Sir Ynys Môn weinyddu’r grantiau yma ar ran busnesau lleol.

Bydd y ddau grant yma’n berthnasol i fusnesau oedd ar y rhestr ardrethu ar 20 Mawrth 2020.

Grant 1

Grant o £25,000 ar gyfer busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu eiddo gyda gwerth trethiannol o rhwng £12,001 a £51,000.  Amcangyfrifir y Cyngor fod yna 240 eiddo cymwys ar yr Ynys, gan olygu taliad grant o £6m.

Mae’r eiddo sy’n gymwys am y rhyddhad yma yn cael eu defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf:

  • Siopau, bwytai, caffis, sefydliadau yfed, sinemâu a lleoliadau cerddoriaeth fyw;
  • Ar gyfer ymgynulliad a hamdden;
  • Gwestai ac eiddo preswyl a llety hunanarlwyo.

Bydd yr holl eiddo sy’n cyflawni’r meini prawf cymhwysedd yn gallu cael mynediad i’r cyllid grant.

Grant 2

Telir grant o £10,000 i’r holl fusnesau ar yr Ynys sy’n gymwys i dderbyn rhyddhad trethi busnesau bach gyda gwerth trethiannol o £12,000 neu lai. Amcangyfrifir fod hyd at 2,300 eiddo cymwys ar yr Ynys, gan olygu taliad grant o £23m.

Bydd yr un trethdalwr ond yn derbyn grant tuag at uchafswm o ddau eiddo.

Sut telir y grantiau?

Fe’i telir i’r busnes derbynnydd cymwys, o ddewis drwy drosglwyddiad uniongyrchol i gyfrif banc y busnes. Ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau, unai nid oes gennym y manylion banc perthnasol neu nid yw’r wybodaeth sydd gennym yn gyfredol i wneud y taliad. Felly, mae angen i ni gasglu gwybodaeth ychwanegol i’n galluogi i brosesu a thalu’r grant. Bydd rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn talu’r busnesau cywir.

Am gyngor pellach, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Economaidd ar 01248 750057 neu e-bostiwch DATECONDEV@ynysmon.llyw.cymru

Dywedodd deilydd portffolio Datblygu Economaidd Môn, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Mae hwn yn gyfnod anodd dros ben i nifer o fusnesau lleol, yn enwedig y rhai sydd wedi gorfod cau o ganlyniad i’r argyfwng Coronafeirws. Heddiw, fe ddaru ni gychwyn gweinyddu’r ddau grant pwysig yma fel bod busnesau Môn yn derbyn y cymorth maent yn ei angen a’i haeddu gan Lywodraeth Cymru.”

Fe ofynnir i fusnesau gwblhau ffurflen arlein ar wefan y Cyngor Sir https://www.ynysmon.gov.uk/cy/Busnes/COVID-19-Grantiau-ar-gyfer-busnesau-sydd-wedi-cofrestru-i-dalu-ardrethi-busnes-yng-Nghymru.aspx er mwyn sicrhau bod gennym y wybodaeth diweddaraf amdanynt.

Cefnogaeth i fusnesau – cynllun newydd rhyddhad trethi

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cynllun gwell o gefnogaeth i fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan yr argyfwng coronafeirws parhaus.

Bydd busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn rhyddhad trethi busnes o 100%. Bydd hyn ar gyfer y flwyddyn drethol 2020/21.

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn dyfarnu’r rhyddhad yn awtomatig. Ar gyfer y busnesau sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd, ni fyddwn yn galw taliadau debyd uniongyrchol cyn i ni roi’r meini prawf rhyddhad i’w biliau.

Am ragor o gyngor, cysylltwch â’r Tîm Refeniw ar 01248 750057 neu drwy e-bost refeniw@ynysmon.llyw.cymru 

Ychwanegodd y deilydd portffolio Cyllid, y Cyng Robin Williams, “Dwi’n gwybod bod hwn yn gyfnod sydd yn peri gofid mawr i bawb ac ei fod yn cael effaith ar fusnesau lleol, cyflogwyr a gweithwyr. Dwi’n cydnabod y bydd busnesau Môn yn awydd i dderbyn y gefnogaeth grant yma cyn gynted a phosib, ond gofynnwn plis i chi fod yn amyneddgar hefo ni. Hoffwn eich sicrhau bod ein staff yn gweithio galed yn y cefndir er mwyn sicrhau eich bod yn dergyn y grantiau yma mor fuan â phosib.” 

Diwedd 30.3.20


Wedi'i bostio ar 30 Mawrth 2020