Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cam yn nes at gemau Olympaidd bach i Ynys Môn

Wedi'i bostio ar 14 Mai 2019

Mae Ynys Môn gam yn nes at ei gemau Olympaidd bach ei hun yn 2025 ar ôl i’r Cyngor Sir gymeradwyo cymorth ariannol.

Mae’r Cyngor Llawn heddiw (Dydd Mawrth, Mai 14) wedi cytuno mewn egwyddor i gefnogi cais gan Bwyllgor Bid Ynys Môn i warantu’r gost o gynnal y digwyddiad chwaraeon rhyngwladol hwn.

Roedd y Cynghorwyr yn awyddus i dynnu sylw at y manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol a ddaw yn sgil y Gemau. Fodd bynnag, gyda’r gost o gynnal y Gemau yn oddeutu £1.4m ar hyn o bryd, fe wnaethant hefyd bwysleisio’r angen i Bwyllgor Bid Ynys Môn gyflawni’r targedau incwm sydd wedi eu gosod yn y cynllun busnes.

Mae Ynys Môn yn un o’r aelodau a sefydlodd Gymdeithas Ryngwladol Gemau’r Ynysoedd ac fe gystadlodd yn y Gemau cyntaf yn Ynys Manaw yn 1985. Unwaith bob dwy flynedd, mae miloedd o athletwyr o bob cwr o’r byd – o Sgandinafia i ynysoedd Môr y Canoldir, Gogledd yr Iwerydd a’r Caribî – yn ymweld ag aelod-ynys i gystadlu.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, “Rydym yn falch o gadarnhau a chefnogi bid Ynys Môn, a byddai cynnal digwyddiad mor arbennig yn cynnig buddion sylweddol am flynyddoedd i ddod.”

“Er ein bod wedi cytuno i warantu’r Gemau, bydd yna amodau wrth gwrs i isafu unrhyw gostau posib i’r Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth ar bwyllgor y bid wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau llywodraethu cywir, rheolaeth ariannol a bod gwaith codi arian yn mynd rhagddo.”

Ychwanegodd, “Mae ein Hynys wedi bod yn aelod ffyddlon o Gymdeithas Ryngwladol Gemau’r Ynysoedd ers ei ddechreuad, gyda channoedd o’n hathletwyr yn cystadlu dramor. Byddai gweld Ynys Môn yn gartref i’r Gemau yn 2025 yn ffordd wych o ddathlu pen-blwydd Gemau’r Ynysoedd yn 40 oed ac yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer ein pobl ifanc, athletwyr a chystadleuwyr chwaraeon.”

Ychwanegodd, “Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weld yr hyn all Ynys Môn gyflawni wrth iddi gynnal y twrnamaint peldroed yr Ynysoedd ar gyfer dynion a merched y mis nesaf.”

Mae penderfyniad y Cyngor Llawn hefyd yn amodol ar dderbyn cynllun busnes terfynol cadarn gan Bwyllgor Bid Ynys Môn ac ar gymorth ariannol pellach gan Lywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

Roedd Gareth Parry, Rheolwr Prosiect Ynys Môn 2025 yn croesawu’r gefnogaeth ariannol, gan ddweud fod cynnal y Gemau nawr yn realiti.

Ychwanegodd, “Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a dderbyniwyd gan y swyddogion a’r aelodau yng Nghyngor Môn. Mae ein bid i gynnal Gemau Rhyngwladol yr Ynysoedd yn 2025 yn bwrw ymlaen yn dda, ac mae’r gefnogaeth ariannol hon yn helpu Ynys Môn i oresgyn ei rwystr mwyaf i gynnal y gemau.”

“Byddwn nawr yn symud ymlaen gyda mwy o hyder a byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol, y sector preifat a’r trydydd sector i sicrhau bod gennym ymroddiad drwy’r Ynys gyfan i’r digwyddiad rhyngwladol mawr hwn. Mae Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn yn ffyddiog y daw Gemau’r Ynysoedd â manteision sylweddol i ni ac y byddant yn gadael i’n Hynys a’i hathletwyr ddisgleirio ar y llwyfan rhyngwladol.”

Bydd Cymdeithas Ryngwladol Gemau’r Ynysoedd yn penderfynu a gaiff Ynys Môn gynnal Gemau 2025 yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ynys Guernsey ym mis Gorffennaf 2020.

Diwedd 14.5.19


Wedi'i bostio ar 14 Mai 2019