Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cadarnhau achos Coronafeirws positif arall mewn plentyn ysgol gynradd

Wedi'i bostio ar 22 Medi 2020

Mae disgybl ifanc sydd yn mynychu Ysgol Gymuned y Fali hefyd nawr wedi derbyn prawf positif am Goronafeirws.

Cafodd rhieni a staff eu hysbysu ddoe (Dydd Llun, Medi 21ain) ac maent wedi derbyn cyngor a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru wedi derbyn manylion yr achos positif ac mae disgyblion a staff perthnasol wedi derbyn cyngor i hunan-ynysu am 14 diwrnod; ac i gadw llygad am unrhyw rai o symptomau’r feirws, gan gynnwys:

  • peswch newydd neu gyson
  • tymheredd uchel neu
  • colli synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu, neu newid iddynt

Dylai’r rhai sydd wedi eu cynghori i hunan-ynysu wneud cais am brawf Coronafeirws os ydynt yn datblygu unrhyw rai o’r symptomau yma, hyd yn oed os nad ydynt yn ddifrifol:

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan, “Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion ac mae gan bob un mesurau yn eu lle er mwyn ceisio cyfyngau ar ledaeniad posib y feirws. Mae'r rhain yn cynnwys glanhau ychwanegol, rhannu dosbarthiadau a hyrwyddo hylendid da ymysg disgyblion.”

“Er hynny, trist yw gweld plentyn arall o un o’n hysgolion cynradd yn derbyn prawf positif. Rydym yn estyn ein dymuniadau gorau i’r plentyn, y teulu a chymuned yr ysgol.”

Ychwanegodd, “Ein blaenoriaeth yw lles ein disgyblion, staff a’r gymuned ehangach, a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yma, yn ogystal ag ysgolion eraill sydd wedi’u heffeithio, er mwyn gweld os oes angen gweithredu pellach.”

Mae gwaith olrhain cysylltiadau yn parhau a bydd unrhyw sydd yn cael eu hadnabod fel cysylltiad o achos positif yn derbyn cyngor priodol.

Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth i awgrymu fod unrhyw ymlediad o fewn y sefydliad a mae Ysgol Gymuned y Fali yn parhau i fod ar agor ar gyfer y dosbarthiadau sydd heb eu heffeithio.

Mae’r wybodaeth a roddwyd i rieni a staff wedi ei gyhoeddi dan gyfarwyddyd Tîm rhanbarthol Profi, Olrhain a Diogelu ar ran Tîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Diwedd 22.9.20


Wedi'i bostio ar 22 Medi 2020