Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Bydd pawb yn cael budd o Gyfrifiad 2021

Wedi'i bostio ar 19 Chwefror 2021

Bydd gofyn i gartrefi ar draws Ynys Môn gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021 y gwanwyn hwn.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi cael ei gynnal bob 10 mlynedd ers 1801, ac eithrio 1941.

Mae deall anghenion y genedl yn helpu pawb, o'r llywodraeth ganolog i sefydliadau fel cynghorau ac awdurdodau iechyd, i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a Lloegr. Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn llywio ble y caiff biliynau o bunnoedd o gyllid cyhoeddus ei wario ar wasanaethau fel trafnidiaeth, addysg ac iechyd – ar lwybrau beicio, ysgolion a deintyddfeydd.

Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad hefyd yn bwysig wrth helpu llawer o bobl a sefydliadau eraill i wneud eu gwaith.

Bydd elusennau a sefydliadau gwirfoddol yn defnyddio'r wybodaeth yn aml fel tystiolaeth i gael cyllid. Bydd yn helpu busnesau i ddeall eu cwsmeriaid ac, er enghraifft, i benderfynu ble i agor siopau newydd. Hefyd, bydd y rhai sy'n gwneud ymchwil, fel myfyrwyr prifysgol a phobl sy'n hel achau, yn defnyddio data'r cyfrifiad. Mae'n rhoi gwybodaeth bwysig am amrywiaeth y boblogaeth, fel bod sefydliadau yn gwybod a ydynt yn cyflawni eu cyfrifoldebau a bydd yn sbarduno camau gweithredu lle bo angen.

Cyfrifiad 2021 fydd yr un cyntaf i gael ei gynnal ar lein yn bennaf. Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw a fydd yn eu galluogi i lenwi'r holiadur ar eu cyfrifiaduron, eu ffonau neu eu llechi.

”Mae'r cyfrifiad yn cynnig ciplun unigryw o'n cymunedau,” meddai Iain Bell, y dirprwy ystadegydd gwladol yn SYG. “Mae o fudd i bawb. Yn seiliedig ar y wybodaeth y byddwch chi'n ei rhoi, bydd yn sicrhau bod miliynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau brys, gofal iechyd meddwl, lleoedd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai, tai, ffyrdd, gwasanaethau meddygfeydd a gwasanaethau deintyddol.

“Ni ddylai neb golli'r cyfle. Gall pawb gwblhau'r cyfrifiad ar lein gyda chyfleuster chwilio-wrth-deipio newydd a bydd ffurflenni papur ar gael i'r rhai fydd eu hangen.”

Bydd Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth, ond bydd cartrefi yn cael llythyrau â chodau ar-lein yn fuan yn esbonio sut y gallant gymryd rhan. Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy'n dymuno cwblhau'r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar lein ac ar bapur. Mae botymau "Cymraeg" ac "English" er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un ffurflen.

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am sut i ateb y cwestiynau, ewch i cyfrifiad.gov.uk

 


Wedi'i bostio ar 19 Chwefror 2021