Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Arweinydd y Cyngor yn cefnogi’r alwad i amddiffyn Porthladdoedd Cymru

Wedi'i bostio ar 28 Ionawr 2021

Mae Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, wedi cefnogi’r alwad ar Lywodraeth y DU i weithredu er mwyn amddiffyn dyfodol porthladdoedd Cymru.

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi’r angen am weithredu gan Lywodraeth y DU er mwyn datrys yr ‘effaith anghymesur’ y mae gadael yr UE wedi’i gael ar borthladdoedd Cymru, yn cynnwys Caergybi.

Mae Mr Skates wedi gofyn i Lywodraeth y DU sut mae’n bwriadu newid y gostyngiad yn y defnydd o borthladdoedd Cymru a digolledu’r cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan y polisïau hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Medi, “Mae lefelau’r llwythi sy’n cael eu cludo rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon wedi gostwng yn sylweddol ac mae hyn yn cael effaith negyddol iawn ar Gaergybi. Mae’n amlwg bod cwmnïau yn osgoi’r ardal sydd o bwysigrwydd mawr i borthladd Caergybi ac mae’r lefelau croesi i Ddulyn wedi gostwng ers i adael yr Undeb Ewropeaidd ddod yn realiti.”

“Rwy’n croesawu ac yn cefnogi’r llythyr a anfonwyd ddoe gan y Gweinidog Ken Skates at Lywodraeth y DU. Ein blaenoriaeth o’r dechrau oedd sicrhau masnach a symudiadau traffig diogel ac effeithlon drwy borthladd Caergybi wrth amddiffyn ein cymunedau lleol.”

Ychwanegodd, “Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn amddiffyn sefyllfa Caergybi fel porth rhyngwladol. Mae’n amlwg bod angen ymdrech sector cyhoeddus ar y cyd gydag ymyraethau effeithiol i amddiffyn holl borthladdoedd Cymru ynghyd â’r cymunedau lleol a’r swyddi y maent yn helpu i’w cynnal.”

Bydd Cyngor Môn yn parhau i drafod â Llywodraeth Cymru, awdurdod y porthladd a phartneriaid allweddol eraill er mwyn asesu unrhyw ddatblygiadau pellach mewn perthynas â phorthladd Caergybi.

 

Diwedd 28.1.21


Wedi'i bostio ar 28 Ionawr 2021