Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Arddangosfa gyntaf unigol Lisa Eugrain Taylor yn Oriel Môn: ‘Rhwng Dyn a Daear’

Wedi'i bostio ar 5 Chwefror 2020

Eleni, bydd Lisa Eurgain Taylor yn arddangos ei harddangosfa unigol fwyaf erioed yn Oriel Môn.

Bydd yr arddangosfa hirddisgwyliedig yn cael ei lansio ddydd Sadwrn 7 Mawrth am hanner dydd. Caiff yr arddangosfa ei hagor gan yr actores a’r awdures Ceri Lloyd.

Ers graddio o Goleg Celf Wimbledon yn 2013, mae Lisa wedi arddangos gwaith mewn arddangosfeydd unigol ac arddangosfeydd grŵp - yn cynnwys ym Mharis, Rhufain a Llundain. Mae ei lluniau yn bodoli rhywle rhwng realiti a ffantasi. Maent yn lleoedd dychmygol, arallfydol a chyfrin ond maent wedi eu hysgogi gan fynyddoedd trawiadol Eryri. Mae Lisa yn cael ei dylanwadu  gan natur a’r tirlun unigryw sydd o’i chwmpas. 

Mae emynau traddodiadol bob amser wedi gafael yn ei dychymyg ac mae’r gobaith maent yn ei gyfleu yn cael dylanwad cryf ar ei gwaith. Mae caneuon Lleuwen Steffan bellach yn cael eu cydnabod fel emynau cyfoes ac felly mae Lisa wrth ei bodd yn dyfynnu geiriau o'r gân ‘Mynyddoedd’, fel teitlau rhai o’r lluniau, ochr yn ochr â dyfyniadau o emynau traddodiadol. Mae ‘Mynyddoedd’ wedi bod yn wir ysbrydoliaeth iddi ac mae hi wedi gwrando ar y gân nifer o weithiau wrth weithio ar y gyfres hon.

Gall uniaethu â’r gân, yn enwedig wrth iddi gofio’r hiraeth oedd ganddi am y mynyddoedd a chefn gwlad pan oedd hi’n byw yn Llundain. Mae’n ffitio’n berffaith gyda’i theimladau a’r syniadau tu ôl i’w gwaith - y syniad bod yn rhaid i ni adael a dychwelyd eto er mwyn sylwi ar ein mynyddoedd trawiadol; y byddant yn ein hamddiffyn yn barhaus ac yn disgwyl amdanom, hyd yn oed os byddwn yn eu cymryd yn ganiataol ar adegau.  

Mae ei harddangosfa yn Oriel Môn yn cynnwys tirluniau pur a hudolus wedi eu gosod yn y gorffennol pell, heb eu cyffwrdd gan ddyn. Mae’r frwydr ‘Rhwng Dyn a Daear’ wedi cyrraedd pwynt critigol ond mae’r golau dwys yn y llun yn cyfleu’r gobaith y byddwn ni fel pobl yn gofalu am y ddaear ac am ein gilydd. Mae ‘Rhwng Dyn a Daear’ hefyd yn gwneud i ni feddwl am bopeth sy’n bodoli rhwng y ddau: hud, ysbryd ac enaid – pethau sy’n llawer iawn fwy pwerus na ni.   

Meddai Lisa, “Rydw i’n hynod ddiolchgar am y cyfle i gael arddangos fy ngwaith yn Oriel Môn. Ers graddio o Goleg Celf Wimbeldon (UAL) a magu hyder yn fy ngwaith celf, mae arddangos yn Oriel Môn wedi bod yn freuddwyd ac yn nod i mi weithio tuag ato. 

Mae’r oriel yn agos iawn at fy nghalon ac wedi’i lleoli dim ond tafliad carreg oddi wrth fy nghartref a fy stiwdio yn Rhosmeirch ac mae’n lle yr ydw i wedi ymweld ag ef yn aml ers fy mod yn gallu cofio. Mae hefyd yn un o orielau mwyaf mawreddog Cymru a bydd yn fraint cael arddangos gwaith yno.

Dyma’r arddangosfa fwyaf yr ydw i wedi gweithio arni erioed. Mae wedi bod yn her creu gymaint o waith er mwyn gallu llenwi’r holl le ond rydw i wedi mwynhau pob eiliad. Rydw i wrth fy modd yn gweithio ar raddfa fawr felly mae’n wych cael cyfle i arddangos triptychau anferthol yn yr arddangosfa hon. Rwy’n gobeithio y bydd yr arddangosfa yn galluogi pobl i ddianc o’r byd dwys yr ydym yn byw ynddo ac y bydd yn atgoffa pobl na ddylid cymryd ein planed brydferth yn ganiataol.”

Meddai Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr Oriel Môn: “Rydym ni gyd yn gyfarwydd â Lisa yn yr Oriel, yn ferch leol sy’n byw yn llythrennol ‘i fyny’r lôn’! Rydym ni fel staff wedi dilyn ei gyrfa yn agos o’r dechrau ac rydym yn falch iawn o ba mor llwyddiannus yw hi fel artist, nid dim ond yn lleol ond yn rhyngwladol hefyd. Rydym wrth ein boddau yn cael arddangos ei thalentau rhagorol yn yr arddangosfa unigol haeddiannol hon.”

Cynhelir arddangosfa Lisa ‘Rhwng Dyn a Daear’ rhwng 7 Mawrth a 19 Ebrill. Mae’r Oriel ar agor bob dydd rhwng 10:00am a 5:00pm ac mae mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:-  01248 724444 / oriel@ynysmon.llyw.cymru / www.orielynysmon.info 

DIWEDD: 05.02.2020


Wedi'i bostio ar 5 Chwefror 2020