Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Annog darparwyr llety twristiaeth i gau

Wedi'i bostio ar 22 Mawrth 2020

Mae Cyngor Môn heddiw (Dydd Sul, Mawrth 22) wedi cysylltu gyda Darparwr Twristiaeth a Lletygarwch i’w hannog i gau er mwyn helpu warchod iechyd y cyhoedd ym Môn.

Daw’r cais ar ôl galwad ddoe gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng Llinos Medi, yn erfyn ar dwristiaid ac ymwelwyr i gadw draw o'r Ynys hyd nes bod yr argyfwng Coronafeirws drosodd. 

Mae ebost sydd wedi ei yrru i dros 400 o fusnesau ar ran y deilydd portffolio Datblygu’r Economi, y Cyng Carwyn Jones.

Mae ei neges yn datgan: ‘Yn wyneb yr argyfwng Coronafeirws presennol mae gan bob un ohonom ran bwysig i’w chwarae i warchod ein hiechyd ein hunain ac iechyd preswylwyr a chymunedau’r ynys.’

‘Rwyf yn eich annog i wneud eich rhan yn y gwaith o atal y feirws hwn rhag lledaenu drwy gau eich darpariaeth sy’n cynnig llety i ymwelwyr. Bydd hyn yn sicrhau y bydd cymaint o bobl â phosib yn cadw at arweiniad Llywodraeth Prydain, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog pawb i ynysu’n gymdeithasol a lleihau teithio di-angen.’

‘Mae hon yn neges anodd, ond yn un sydd rhaid gweithredu arni. Rhaid i chi atal ymwelwyr rhag dod i’ch safle ar unwaith.’

Bydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn rhoi straen ychwanegol aruthrol ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn cynnwys yr ysbytai lleol a’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyffredinol.

Mae’r Cyng Jones yn cloi drwy ychwanegu, ‘Hoffwn eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i ymatal y Coronafeirws rhag lledaenu yma ym Môn. Unwaith y bydd hyn wedi dod i ben, edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda chi i groesawu ein hymwelwyr yn ôl.’

Mae’n hanfodol bod pawb yn dilyn canllawiau Llywodraeth y DU a Chymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn perthynas ag ynysu cymdeithasol a chwtogi ar deithio oni bai am deithio hanfodol.

Gellir gweld diweddariadau am wasanaethau'r Cyngor yn ystod yr achosion o Coronafeirws ar ein gwefan www.ynysmon.gov.uk/coronafeirws

Diwedd 22.3.20


Wedi'i bostio ar 22 Mawrth 2020