Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Angen i eiddo trwyddedig ddilyn rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru

Wedi'i bostio ar 4 Rhagfyr 2020

Daw rheoliadau Newydd ar gyfer y sector lletygarwch i rym am 6yh heddiw (Dydd Gwener, Rhagfyr 4ydd) er mwyn helpu i atal lledaeniad y Coronafeirws yn ystod tymor y Nadolig.

Mae tîm Gwarchod y Cyhoedd Ynys Môn wedi ysgrifennu at bob eiddo trwyddedig er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru. 

Mae eiddo trwyddedig yn chwarae rôl hanfodol i atal lledaeniad y Coronafeirws. Dilynwch y gofynion isod os gwelwch yn dda.

  • O ddydd Gwener, Rhagfyr 4ydd bydd rhaid cau erbyn 6pm
  • Ar ôl 6pm, dim ond gwasanaeth tecawê y gellir ei ddarparu.
  • Ni fydd hawl ganddynt i weini alcohol yn yr eiddo
  • Dylid cadw pellter cymdeithasol (2 fetr) rhwng byrddau bob amser
  • Bydd angen sicrhau bod pobl yn archebu bwrdd ymlaen llaw a bod manylion y grŵp yn cael eu cadw.
  • Bydd mynediad i'r safle yn cael ei reoli a bydd amser aros yn cael ei gyfyngu.
  • Cyfyngu ar y niferoedd mewn grŵp i 4 (ddim yn cynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) oni bai eu bod o un cartref.
  • Rhaid gwisgo gorchudd wyneb heblaw wrth eistedd i fwyta neu yfed.
  • Yfed/bwyta wrth y bwrdd yn unig.
  • Gweithredu systemau unffordd, lle mae’r adeilad yn caniatáu hynny, a rheoli ciwiau y tu allan er mwyn sicrhau nad ydynt yn achosi risg i unigolion.
  • Glanhau trylwyr a rheolaidd o fannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml, toiledau, byrddau ac ati, yn unol â threfn glanhau sydd wedi cael asesiad risg
  • Annog ffyrdd newydd o weithio, addasu patrymau sifft a bwydlenni er mwyn lleihau cyswllt a nifer y bobl sy’n gweithio yn y gegin ar unrhyw dro.
  • Cymryd yr holl fesurau rhesymol posibl i gynnal pellter cymdeithasol yn y gweithle

Mae Cyngor Môn hefyd yn argymell yn gryf y dylid, lle’n ymarferol bosib, gymryd camau i awyru’r adeilad yn naturiol e.e. drwy agor ffenestr, er mwyn er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws.

Eglurodd Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, Les Pursglove, “Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod hynod o anodd i fusnesau’r diwydiant lletygarwch ym Môn; ond mae’n hanfodol eu bod yn dilyn y rheoliadau Newydd yma sydd wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, sy’n dod i rym heno.”

“Rydym yn falch iawn gyda’r ffordd mae eiddo trwyddedig wedi ymateb i’r gofynion a roddwyd arnynt yn ystod yr argyfwng Coronafeirws, gyda’r mwyafrif helaeth yn ymddwyn yn gyfrifol drwy’r adeg er mwyn cadw cwsmeriaid a staff yn ddiogel.”

Ychwanegodd, “I’r rhai gaiff eu temtio i dorri corneli neu anwybyddu’r rheoliadau yma - plîs peidiwch. Bydd ein swyddogion ynghyd a chydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru yn cadw golwg agos ar eiddo trwyddedig wrth i ni agosáu at y Nadolig.”

“Os ddawn ar draws eiddo trwyddedig sydd ddim yn dilyn y rheoliadau byddant yn wynebu camau gorfodaeth. Byddwn yn cau eiddo trwyddedig trwy ddefnyddio rhybudd cau os oes angen - a hynny er mwyn cadw cymunedau’n ddiogel.”

Os ydych yn bryderus bod eiddo trwyddedig yn rhoi cwsmeriaid a staff mewn perygl drwy dorri’r rheolau ffoniwch 01248 752840 neu anfonwch neges e-bost at Trwyddedu@ynysmon.llyw.cymru

Cewch ragor o wybodaeth yma:
https://llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-busnesau-twristiaeth-a-lletygarwch-coronafeirws

 

Diwedd 4.12.20


Wedi'i bostio ar 4 Rhagfyr 2020