Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun seddi gweigion: taflen ffeithiau

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn darparu cludiant i ddisgyblion sy’n gymwys i deithio am ddim rhwng y cartref a’r ysgol dan y polisi presennol.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn darparu cludiant i ddisgyblion sy’n gymwys i deithio am ddim rhwng y cartref a’r ysgol dan y polisi presennol. Er mwyn gwneud hyn, mae coetsis, bysiau mini a thacsis yn cael eu pwrcasu yn arbennig ar gyfer cludiant ysgol a chaiff y rhwydwaith trafnidiaeth ei ddylunio i redeg yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol bosibl er mwyn gwasanaethu’r disgyblion sy’n gymwys am gludiant am ddim.

Gellir cynnig unrhyw seddi sbâr ar y cludiant i ddisgyblion nad oes ganddynt hawl i deithio am ddim. Gelwir y lleoedd hyn yn seddi gweigion.

Mewn rhai achosion, rhoddir tocyn teithio i ddisgyblion sydd â hawl i deithio am ddim i'w ddefnyddio ar wasanaethau bws lleol. Nid yw seddi gweigion ar gael ar wasanaethau bws lleol, ond gall disgyblion nad oes ganddynt hawl i deithio am ddim deithio ar y gwasanaethau hyn drwy dalu'r ffi briodol ar gyfer y bws.

Nid yw seddi gweigion yn cael eu gwarantu. Gellir eu tynnu'n ôl (a rhoi ad-daliad os oes taliad wedi ei wneud) os oes angen y sedd yn ddiweddarach ar gyfer disgybl sydd â hawl i sedd am ddim. Nid yw'r rhwydwaith trafnidiaeth wedi'i gynllunio i greu seddi sbâr i ymateb i’r galw. Caiff gwasanaethau cludiant eu hadolygu'n rheolaidd a gellir tynnu gwasanaethau'n ôl os nad oes digon o blant â'r hawl i deithio.

Disgwylir i rieni wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer sicrhau bod eu plentyn yn teithio i'r ysgol ac oddi yno ac mae angen iddynt sicrhau bod ganddynt gynlluniau eraill ar waith os nad ydynt yn gallu cael sedd wag neu os nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol.

Mae seddi gweigion ar gerbydau contract yn gyfyngedig, felly os oes angen y sedd honno ar blentyn â hawl yn y dyfodol, mae’n bosibl y bydd sedd plentyn yn cael ei thynnu’n ôl gyda rhybudd o bythefnos. Mae’n bosibl y bydd manylion llwybrau ac amseroedd bysiau yn newid os oes angen gwneud hyn er mwyn diwallu anghenion teithio yn effeithlon. Nid yw dyraniadau sedd yn cael eu gwarantu, ac mae gan y Cyngor yr hawl i symud disgyblion rhwng cerbydau neu newid llwybr cerbydau er mwyn rheoli llwythau.

Os oes mwy o deuluoedd am gael seddi gweigion nag sydd o seddi ar gael, bydd plant oedran ysgol statudol yn cael eu hystyried o flaen myfyrwyr ôl-16. Yna bydd ymgeiswyr yn cael blaenoriaeth yn unol â'r meini prawf canlynol, yn eu trefn:

  • Plant sydd eisoes yn derbyn sedd wag.
  • Plant â brawd neu chwaer sydd eisoes yn teithio ar y cerbyd.
  • Plant nad oes cludiant cyhoeddus arall ar gael iddynt i deithio i'r ysgol.
  • Plant yn seiliedig ar bellter llinell syth o'u cyfeiriad cartref i'r ysgol, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r rhai sy'n byw bellaf o'r ysgol.

Bydd seddi gweigion yn cael eu rhoi ar y rhagdybiaeth y bydd y plentyn yn teithio 5 diwrnod bob wythnos. Os oes seddi gweigion ar ôl ar gerbyd unwaith y bydd ceisiadau seddi 5 diwrnod yr wythnos wedi'u prosesu, gellir ystyried seddi gweigion am ran o’r wythnos yn ôl disgresiwn. Fodd bynnag, lle gwneir sedd wag ar gael am ran o'r wythnos yn unig, gellir tynnu'r sedd wag yn ôl os derbynnir cais i blentyn arall deithio 5 diwrnod yr wythnos ac nid yw rhiant y plentyn presennol yn dymuno cynyddu ei sedd gonsesiynol i 5 diwrnod.

Wrth gael eu hystyried ar gyfer sedd wag, naill ai ar sail 5 diwrnod yr wythnos neu am ran o’r wythnos, rhaid i rieni ymrwymo i o leiaf hanner tymor o deithio ac ni fydd newidiadau ad hoc i drefniadau teithio o fewn y cyfnod hwnnw yn cael eu hystyried.

Cynhelir adolygiadau rhwydwaith rheolaidd a all arwain at ddileu lleoedd sbâr. Wrth gyhoeddi seddi gweigion, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn glir i rieni y byddant yn cael pythefnos o rybudd os yw'r consesiwn i gael ei dynnu'n ôl.

Rhoddir pob sedd ar 2 wythnos o rybudd. Gall y cyfnod rhybudd gynnwys penwythnosau, gwyliau banc, gwyliau cyhoeddus a gwyliau ysgol.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd yn bosibl cynnig sedd sbâr tan ar ôl i'r tymor ddechrau nes bod y Cyngor yn gwybod am y nifer llawn o ddisgyblion cymwys sy'n teithio.