Arolwg addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith yn Ynys Môn: Hysbysiad preifatrwydd
Y cyngor yw’r rheolydd data ar gyfer yr arolwg 'Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n gysylltiedig â Byd Gwaith yn Ynys Môn'.
Yr hysbysiad preifatrwydd hwn
Pwrpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw dweud wrthych sut y bydd y cyngor yn prosesu eich data personol at ddiben cynnal arolwg 'Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n gysylltiedig â Byd Gwaith' yn Ynys Môn. Bydd yr arolwg yn cefnogi'r cyngor i ddeall anghenion busnesau lleol ar Ynys Môn ac yn adnabod sut gall cyflogwyr ac ysgolion gydweithio er mwyn gwella cyfleoedd sy’n ymwneud â gwaith ar gyfer gweithlu'r dyfodol ar yr ynys.
Mae gennych hawliau o ran sut y caiff eich data ei gasglu a'i ddefnyddio at y diben hwn. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi yma beth yw’r hawliau hynny a sut y gallwch eu harfer.
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol.
Ni chaniateir i’r cyngor ddefnyddio, casglu na rhannu gwybodaeth bersonol oni bai bod gennym sail gyfreithiol briodol dros wneud hynny. Dim ond er mwyn cyflawni ein swyddogaethau cyfreithiol a swyddogol y byddwn yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol. Ni fyddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol oni bai y bydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny a lle mae’n angenrheidiol ac yn gymesur i wneud hynny.
Enw a manylion cyswllt swyddog diogelu data’r cyngor
Mae’r cyngor wedi penodi Swyddog Diogelu Data i gynorthwyo gyda sicrhau ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol wrth brosesu data personol. Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy’r cyfeiriad e-bost DPO@ynysmon.llyw.cymru
Pa ddata personol ydym yn ei gasglu a pham?
Mae eich data personol yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio i gynnal Arolwg Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n gysylltiedig â Byd Gwaith yn Ynys Môn. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich data personol i gysylltu â chi am faterion cysylltiedig.
Rydym yn casglu eich enw, cyfeiriad, cod post, manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) fel rhan o’r arolwg. Mae’r data hwn yn berthnasol i'ch busnes ond gall fod yn ddata personol os yw eich busnes wedi ei leoli yn eich cyfeiriad cartref.
Sut ydym yn defnyddio eich data personol?
Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal er mwyn cefnogi un o'r pum thema drawsbynciol yn y Cwricwlwm i Gymru, addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith (CWRE), sy'n ceisio helpu dysgwyr i ddeall y berthynas rhwng eu dysgu a'r byd gwaith. Mae hyn yn cefnogi disgyblion i adnabod cyfleoedd a llwybrau yn eu gyrfaoedd a chyflogaeth pan fyddant yn gadael addysg lawn-amser.
Mae’r cyngor yn casglu eich data personol drwy’r arolwg er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn ag a oes gan eich busnes ddiddordeb ai pheidio mewn cefnogi pobl ifanc sy’n mynychu ysgolion Ynys Môn gyda profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith sy’n ymwneud a Cwricilwm i Gymru.
Bydd y cyngor yn rhannu eich gwybodaeth, os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi’r bobl ifanc, gydag ysgolion unigol fel bod yr ysgolion yn cysylltu â chi’n uniongyrchol ynglŷn â chyfleoedd gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith posibl ar gyfer eu disgyblion. Am fwy o wybodaeth o sut bydd eich data yn cael ei ddefnyddio, gwelir 'Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Ddata Gwybodaeth Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n gysylltiedig â Byd Gwaith yn Ynys Môn' . Am restr o’r ysgolion unigol bydd yn derbyn y gwybodaeth, gwelir Atodiad A.
Hefyd, os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig cyfleon prentisiaeth, bydd y cyngor yn rhannu eich gwybodaeth hefyd ar Gwefan Llwybrau Môn, sef llwyfan sydd yn hysbysu gwahanol opsiynau ôl-16 i ddysgwyr Ynys Môn a Gwynedd. Mi fydd y wefan yn mynd yn fyw ar ddechrau 2024 ac mi fydd mwy o wybodaeth ar gael ar sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio bryd hynny.
Sail gyfreithlon dros brosesu’r data
Rydym yn defnyddio’r sail gyfreithlon a ganlyn dan GDPR y DU dros brosesu data personol:
6(1)(e) o GDPR y DU - mae prosesu’n angenrheidiol ac yn ymgymryd â thasg ym muddiannau’r cyhoedd neu’n ymarfer awdurdod swyddogol.
Ni fyddwn yn fwriadol yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth sy’n cael ei chategoreiddio fel data personol categori arbennig.
Rhannu eich data personol
Gall y cyngor rannu eich data â phartïon allanol eraill lle mae’n ofynnol iddo wneud hynny neu pan fo’n gyfreithlon ac yn briodol gwneud hynny. Sylwer, lle gallwn rannu eich data yn allanol, y sefydliad hwnnw fydd yn cymryd cyfrifoldeb am eich data bryd hynny a dylech droi at eu hysbysiad preifatrwydd hwy am fanylion ar sut y byddant yn prosesu eich data.
Rydym yn cymhwyso’r egwyddorion canlynol pan ddefnyddiwn wybodaeth bersonol
- Prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw.
- Casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon (‘cyfyngiad pwrpas’).
- Yn ddigonol, perthnasol ac wedi ei chyfyngu i beth sy’n angenrheidiol.
- Yn gywir, a lle bo’n angenrheidiol, yn cael ei chadw’n gyfredol.
- Ei chadw mewn ffurf sy’n caniatáu adnabyddiaeth o wrthrychau data am ddim hirach na sydd angen.
- Yn cael ei phrosesu mewn ffordd sy’n sicrhau diogelwch priodol o’r data personol.
Eich hawliau fel gwrthrych y data
Eich data personol chi yw’r data sy’n cael ei gasglu, ac mae gennych hawliau sy’n cael effeithio ar yr hyn sy’n digwydd iddo. Mae gennych yr hawl i weld y data personol y mae’r cyngor yn ei gadw amdanoch, cael copi ohono a gofyn i’r Awdurdod gywiro eich data personol os oes unrhyw wallau neu os yw wedi dyddio. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl hefyd i ofyn i’r cyngor roi’r gorau i brosesu eich data personol hyd nes y caiff unrhyw wallau eu cywiro, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo, neu (yn anaml iawn) ddileu eich data personol.
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir uchod.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy eu llinell gymorth ffôn 0303 123 1113.
A anfonir unrhyw ddata personol dramor?
Na, ni fydd data personol yn cael ei anfon dramor.
Gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd
Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud am unigolion sy’n seiliedig ar wneud penderfyniadau awtomataidd yn unig (lle gwneir penderfyniad yn eu cylch gan ddefnyddio system electronig heb gysylltiad dynol) ac sy’n cael effaith sylweddol arnynt.
Storio, diogelu a rheoli data
Mae gan y cyngor ddyletswydd i ddiogelu a sicrhau diogelwch eich data personol pan fyddwn yn ei brosesu. Gwnawn hynny drwy gael systemau a pholisïau yn eu lle i gyfyngu ar fynediad i'ch gwybodaeth ac atal ei datgelu heb awdurdod, colled ddamweiniol neu newid eich data. Mae gennym hefyd weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau data personol a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys os torrir y gweithdrefnau lle mae'n ofynnol, yn gyfreithiol, i ni wneud hynny.
Am ba hyd fydd y cyngor yn cadw’r data personol?
Bydd y cyngor yn cadw’r data am dair blynedd ac yna’n cael gwared arno’n ddiogel.
Cwynion a mwy o wybodaeth
Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae’r cyngor wedi gweithredu wrth ddefnyddio eich data personol, gallwch wneud cwyn trwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data.
Os ydych dal yn anfodlon neu’n dymuno cyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545 745
Gwefan: https://ico.org.uk/
Newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd
Rydym yn cadw ein hysbysiad preifatrwydd dan adolygiad parhaus a byddwn yn rhannu unrhyw ddiwygiadau.
Cyhoeddwyd 14 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf 14 Tachwedd 2023
Atodiad A
Ysgol Gynradd Amlwch
Ysgol Llanfechell
Ysgol Beaumaris
Ysgol Llandegfan
Ysgol Gynradd Bodedern
Ysgol Pencarnisiog
Ysgol Esceifiog
Ysgol Talwrn
Ysgol Rhosneigr
Ysgol Kingsland
Ysgol Gyfun Llangefni
Canolfan Addysg y Bont
Ysgol Cemaes
Ysgol Garreglefn
Ysgol Llanfairpwllgwyngyll
Ysgol y Borth
Ysgol Bryngwran
Ysgol Gymraeg Morswyn
Ysgol Llanbedrgoch
Ysgol Corn Hir
Ysgol Gymuned y Fali
Ysgol Cybi
Ysgol Syr Thomas Jones
Ysgol Caergeiliog
Ysgol Goronwy Owen
Ysgol Penysarn
Ysgol Llangoed
Ysgol Parc y Bont
Ysgol y Ffridd
Ysgol Rhyd y Llan
Ysgol y Graig
Ysgol Santes Dwynwen
Ysgol Llanfawr
Ysgol Santes Fair
Ysgol David Hughes
Ysgol Moelfre
Ysgol Rhosybol
Ysgol Pentraeth
Ysgol Brynsiencyn
Ysgol Llannerch-y-Medd
Ysgol Bodffordd
Ysgol Henblas
Ysgol Rhoscolyn
Ysgol y Tywyn
Ysgol Uwchradd Bodedern
Ysgol Uwchradd Caergybi