Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Diogelu data mewn ysgolion


Mae deddfwriaeth Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018) mewn grym yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhain yn ei wneud yn ofynnol i unrhyw sefydliad sy’n ymdrin â data personol, gan gynnwys ysgolion, fod yn atebol am y ffordd y maent yn cadw ac yn rheoli’r data hwnnw.

Mae gan blant yr un hawliau ag oedolion dros eu data personol y gallent eu harfer cyn belled ag y bônt yn gymwys yn feddyliol i wneud hynny. Lle na ystyrir plentyn i fod yn gymwys, gan amlaf gall oedolyn â chyfrifoldeb rieniol arfer hawliau diogelu data plentyn ar ei ran.

Mae pob ysgol gynradd ac uwchradd unigol ym Môn wedi ei chofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) gan eu bod yn prosesu data personol.

Mae gan bob ysgol Hysbysiad Preifatrwydd sy’n rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r data y maent yn ei gadw amdanoch, sut y maent yn ei ddefnyddio, eich hawliau yn ei gylch a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu. Mae gan bob ysgol unigol Hysbysiad Preifatrwydd a Pholisi Diogelu Data. Cyfeiriwch at wefan neu gyfryngau cymdeithasol yr ysgol berthnasol am y rhain neu gofynnwch am gopi gan yr ysgol.

Os oes gennych bryder neu gŵyn ynglŷn â’r ffordd y mae ysgolion yn casglu neu ddefnyddio eich data personol, dylech godi eich pryder gyda’r ysgol unigol yn y lle cyntaf, fel y gallent geisio datrys unrhyw broblemau.

Swyddog Diogelu Data Ysgolion

Mae gan ysgolion cynradd ac uwchradd Môn Swyddog Diogelu Data Ysgolion dynodedig drwy Gyngor Sir Ynys Môn.

Mae’r Swyddog Diogelu Data Ysgolion yn annibynnol ar yr ysgolion ac yn gyfrifol am: 

  • hysbysu a chynghori ysgolion ar ddeddfwriaeth a gofynion diogelu data;
  • monitro cydymffurfiad â deddfwriaeth diogelu data;
  • cynorthwyo ysgolion i sefydlu polisïau a gweithdrefnau diogelu data;
  • hyfforddi staff ysgolion ar eu rhwymedigaethau diogelu data;
  • fod yn bwynt cyswllt rhwng Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a chi fel y gwrthrych data.

Gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data dros e-bost, post neu ffôn os oes gennych unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol ac os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r data personol y mae’r ysgol yn ei gadw amdanoch.

Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data Ysgolion:

E-bost: dpoysgolionmon@ynysmon.llyw.cymru

Rhif ffôn: 01248 751833

Cyfeiriad:

Gwasanaeth Dysgu
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Gobeithio y bydd yr ysgolion a’r Swyddog Diogelu Data Ysgolion yn gallu datrys unrhyw ymholiad neu bryder y byddwch efallai yn eu codi ynglŷn â’r defnydd o’ch data personol a gadwir gan yr ysgolion.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Mae’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GDPR) hefyd yn rhoi’r hawl i chi wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y rheolydd annibynnol dros ddiogelu data yn y DU.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

E-bost: casework@ico.org.uk

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Cyfeiriad:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Gwefan: https://ico.org.uk/concerns