Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Mynediad i ysgolion


Yr awdurdod lleol yw’r awdurdod derbyn mewn perthynas â’r 5 ysgol uwchradd a 38 o’r 40 ysgol gynradd yn Ynys Môn.

Y corff llywodraethu perthnasol yw'r awdurdod derbyn mewn perthynas â'r un ysgol wirfoddol â chymorth (Ysgol y Santes Fair, Caergybi), a'r un ysgol sylfaen (Ysgol Caergeiliog).

Gwneud cais am le mewn ysgol

Yr Awdurdod Lleol yw'r awdurdod derbyn mewn perthynas â'r 5 ysgol uwchradd, 36 o ysgolion cynradd cymunedol a 2 ysgol reoledig wirfoddol yn Ynys Môn.

Y corff llywodraethu perthnasol yw'r awdurdod derbyn mewn perthynas â'r un ysgol wirfoddol â chymorth (Ysgol y Santes Fair, Caergybi), a'r un ysgol sylfaen (Ysgol Caergeiliog).

Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a’r Rheoliadau cysylltiedig yn sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer derbyniadau i ysgolion. Bwriad y trefniadau ydi :

  • sicrhau trefniadau derbyn lleol sy’n eglur, yn wrthrychol ac yn rhoi cyfle teg i bob plentyn gael lle boddhaol mewn ysgol
  • rhoi gwybodaeth lawn i alluogi rhieni i wneud dewis goleuedig o safbwynt dewis ysgol
  • sicrhau cyd-gordio trefniadau derbyn lleol a sicrhau trefniadau sydd yn hawdd i’w deall, gyda’r lleiafswm o fiwrocratiaeth a hyd y bo modd yn sicrhau cwrdd â dewis rhieni o ysgol
  • sicrhau hawl statudol ac effeithiol i apelio os na chaiff rhieni eu bodloni

Yn unol â gofynion Deddf 1998 (fel y’i diwygiwyd gan adran 40 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006) mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Y Cod Derbyn i Ysgolion sydd yn rhoi canllawiau i awdurdodau derbyn ynglŷn â chyflawni swyddogaeth derbyn o fis Gorffennaf 2013 ymlaen. Mae Polisi Ysgolion Cyngor Ynys Môn yn seiliedig ar y Cod yma.

Mae polisi mynediad ysgolion cynradd ac uwchradd Ynys Môn yn cydymffurfio a gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Hawliau’r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ac nid yw’n gwahaniaethu ar sail

  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol

yn erbyn unigolyn yn y trefniadau a’r penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod derbyn ynghylch pwy y dylid cynnig ei dderbyn yn ddisgybl.

Bydd ceisiadau am fynediad ar ran disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, ond heb ddatganiad, yn cael eu hystyried ar yr un sail ag ymgeiswyr eraill.

Cais (hwyr) am fynediad i ddosbarth meithrin Medi 2024

Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 a fydd yn cychwyn meithrin rhan-amser ym mis Medi 2024.

Dyddiad cau: Y dyddiad cau oedd 01 Chwefror 2024, fodd bynnag, gall rhieni wneud cais o hyd

Bydd unrhyw gais neu newid dewis a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael ei farcio fel “Hwyr”.

Bydd ceisiadau “Hwyr” heb reswm da yn cael eu hystyried ar ôl y disgyblion y cyflwynwyd eu ceisiadau cyn y dyddiad cau.

Diwrnod cynnig cenedlaethol 16 Ebrill 2024

Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' a gwirio'r ardal dalgylch ysgol gan ddefnyddio MapMôn cyn gwneud cais.

Ysgol Santes Fair ac Ysgol Caergeiliog

I wneud cais am fynediad i Ysgol Santes Fair neu Ysgol Caergeiliog, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol. Mae dolenni i wefannau'r ysgolion hyn yn adran dolenni'r dudalen we hon.

Ysgolion y tu allan i Ynys Môn

Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag Awdurdod Lleol yr ysgol.

Gwnewch gais - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Cais (hwyr) am Fynediad i Ddosbarth Derbyn Medi 2024

Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 01 Medi 2019 a 31 Awst 2020 a fydd yn cychwyn addysg llawn-amser ym mis Medi 2024.

Dyddiad cau: Y dyddiad cau oedd 01 Chwefror 2024, fodd bynnag, gall rhieni wneud cais o hyd

Bydd unrhyw gais neu newid dewis a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael ei farcio fel “Hwyr”.

Bydd ceisiadau “Hwyr” heb reswm da yn cael eu hystyried ar ôl y disgyblion y cyflwynwyd eu ceisiadau cyn y dyddiad cau.

Diwrnod cynnig cenedlaethol: 16 Ebrill 2024

Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' a gwirio'r ardal dalgylch ysgol gan ddefnyddio MapMôn cyn gwneud cais.

Ysgol Santes Fair ac Ysgol Caergeiliog

I wneud cais am fynediad i Ysgol Santes Fair neu Ysgol Caergeiliog, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol. Mae dolenni i wefannau'r ysgolion hyn yn adran dolenni'r dudalen we hon.

Ysgolion y tu allan i Ynys Môn

Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag adurdod lleol yr ysgol.

Gwneud cais - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Cais (Hwyr) i Flwyddyn 7 mewn Ysgolion Uwchradd - Medi 2024

Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2012 a 31 Awst 2013.

Dyddiad cau:

Y dyddiad cau oedd 22 Rhagfyr 2023, fodd bynnag, gall rhieni wneud cais o hyd.

Bydd rhieni’n cael eu hysbysu o’u canlyniad trwy e-bost o fewn 15 diwrnod ysgol.

Rydym yn cynghori rhieni’n gryf i ddewis mwy nag un dewis gan fod lleoedd wedi’u dyrannu ar Ddiwrnod Cynnig Cenedlaethol 01 Mawrth 2024.

Rhaid rhoi unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a roddwch ar y cais hwn i'r Gwasanaeth Dysgu drwy e-bostio ⁠mynediad@ynysmon.llyw.cymru  

Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' a gwirio'r ardal dalgylch ysgol gan ddefnyddio MapMôn cyn gwneud cais.

Mae'r cais hwn ar gyfer blwyddyn 7 yn un o'r ysgolion canlynol yn unig.

  • Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch
  • Ysgol Uwchradd Caergybi
  • Ysgol Gyfun Llangefni
  • Ysgol David Hughes
  • Ysgol Uwchradd Bodedern

Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag awdurdod lleol yr ysgol

Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd

Ysgol Syr Thomas Jones

Amlwch
Cemaes
Carreglefn
Moelfre
Llanfechell
Penysarn
Rhosybol
Goronwy Owen

Ysgol Uwchradd Caergybi

Rhoscolyn
Rhosneigr
Y Fali
Llanfawr
Y Tywyn
Kingsland
Cybi
Santes Fair
Caergeiliog

Ysgol Gyfun Llangefni

Bodffordd
Esceifiog
Llanbedrgoch
Y Graig
Henblas
Talwrn
Corn Hir
Santes Dwynwen

Ysgol David Hughes

Beaumaris
Brynsiencyn
Llanfairpwll
Llangoed
Pentraeth
Llandegfan
Y Borth
Parc y Bont

Ysgol Uwchradd Bodedern

Bodedern
Bryngwran
Y Ffridd
Llannerchymedd
Pencarnisiog
Morswyn
Rhyd Y Llan

Gwneud cais - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Nid yw cwblhau’r ffurflen hon yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol.

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Ynys Môn ar hyn o bryd, bydd yr wybodaeth rydych yn ei rhoi ar y cais hwn, gan gynnwys y rheswm dros wneud cais, yn cael ei rhannu â phennaeth ysgol bresennol eich plentyn yn ogystal â phennaeth/penaethiaid eich dewis/dewisiadau newydd.

Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi drafod newid ysgol gydag uwch aelod o staff yn ysgol bresennol eich plentyn er mwyn osgoi oediad diangen.

Mae nifer o resymau pam efallai y byddwch yn dymuno newid ysgol eich plentyn yn ystod y flwyddyn academaidd, ond mae’n bwysig eich bod yn ystyried ai trosglwyddo yw’r opsiwn gorau mewn gwirionedd.

Gall newid ysgol gael effaith negyddol ar eich plentyn, megis:

  • Amharu ar eu haddysg, y gall effeithio ar eu cynnydd academaidd
  • Effaith ar eu hamgylchedd cymdeithasol, eu grwpiau ffrindiau a’u gweithgareddau allgwricwlaidd
  • Efallai na fydd lle ar gael i’ch plentyn yn eich ysgol ddewisol, ac os ydych yn gobeithio trosglwyddo brodyr ac/neu chwiorydd hefyd, efallai na fyddant i gyd yn cael cynnig yr un ysgol
  • Bydd y nifer o gymwysterau y gall eich plentyn eu cyflawni ym Mlwyddyn 10/11 yn cael eu heffeithio os nad oes gan yr ysgol newydd yr un opsiynau academaidd ar gael. Bydd angen i chi ystyried y goblygiadau posibl o’ch plentyn yn peidio â gallu parhau i astudio’r un pynciau neu ddewisiadau pwnc, a’u gwaith cwrs presennol ddim yn gymwys i gorff arholi arall

Oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol e.e. ar ôl symud tŷ, fe'ch cynghorir yn gryf i weithio gydag ysgol bresennol eich plentyn yn hytrach na throsglwyddo.

Efallai y bydd siarad â'ch plentyn a staff yn ysgol bresennol eich plentyn yn osgoi'r angen am drosglwyddiad.

Os yw eich rheswm dros drosglwyddo’n cael ei amlinellu isod, dylech gymryd y camau a nodir cyn gwneud cais.

Dylech gael gwybod am ganlyniad eich cais dros e-bost o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod gwaith (pa bynnag un sydd gyntaf).

Rhesymau cyffredin dros wneud cais i drosglwyddo

Anfodlonrwydd â’r ysgol

Dylech: Drafod eich pryderon â’r pennaeth blwyddyn, athro dosbarth neu’r pennaeth. Os ydych yn teimlo nad yw’r ysgol wedi ymateb yn briodol, dylech ofyn i’r ysgol am gopi o’i gweithdrefn cwynion ysgol a dilyn y camau yr amlinellir. Mae’n rhaid cymryd cwynion ysgol o ddifrif.

Ein cyngor: Yn ein profiad, nid yw symud oherwydd anfodlonrwydd â’r ysgol yn datrys y broblem. Rydym yn aml yn gweld y math hwn o broblem yn dod i’r wyneb eto yn yr ysgol newydd, a dyna pam mae’n well mynd i’r afael â’r broblem cyn i chi symud.

Diffyg presenoldeb yn yr ysgol

Dylech: Eistedd i lawr gyda’ch plentyn a cheisio canfod pam nad yw’n mynychu’r ysgol. Siaradwch ag athrawon eich plentyn. A oes unrhyw bynciau y mae’r plentyn yn poeni amdanynt?

Ein cyngor: Mae’n rhaid i blant fynychu’r ysgol. Yn aml, rydym yn gweld y gellir adnabod y broblem a rhoi camau ar waith wrth siarad â’ch plentyn a’r ysgol. Gofynnwch i’r ysgol ddarparu manylion cyswllt ei Swyddog Lles Addysg.

Bwlio ysgol a lles emosiynol

Dylech: Gysylltu â’r ysgol a gofyn am gopi o’i pholisïau diogelu, gwrth-fwlio neu les emosiynol (byddai bwlio’n cael ei ystyried fel ymddygiad gan unigolyn neu grŵp, wedi’i ailadrodd dros amser, sy’n brifo eraill yn fwriadol yn gorfforol neu’n emosiynol).

Os ydych yn teimlo nad yw’r polisïau hyn wedi cael eu dilyn, dylech hysbysu’r ysgol.

Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i fynd i’r afael â bwlio, ac mae pob ysgol wedi’u cyfarparu i ddelio â hyn.

Os ydych yn teimlo nad ydynt wedi gwneud hyn, cysylltwch â’r pennaeth neu’r corff llywodraethol. Os yw’r bwlio’n benodol ddifrifol, gallwch hefyd gysylltu â’r heddlu, h.y. os yw hefyd yn digwydd y tu allan i’r ysgol.

Ein cyngor: Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i amddiffyn lles corfforol ac emosiynol eu disgyblion. Os nad yw hyn wedi bod yn wir ar gyfer eich teulu, mae’n rhaid codi hyn â’r ysgol a fydd yn gallu cyfryngu, symud dosbarthiadau, etc.

Materion heb eu datrys

Dylech: Gwneud apwyntiad i siarad â’r pennaeth. Os nad yw hyn yn gweithio, gallwch godi cwyn. Gofynnwch am gopi o’u gweithdrefn cwynion ysgol a dilynwch y camau yr amlinellir. Mae gan yr ysgol gyfrifoldeb i ddatrys problemau gyda’ch plentyn.

Ein cyngor: Rydym yn argymell i rieni drafod y materion gyda’u hysgol bresennol. Ni fyddai’n briodol disgwyl i’ch plentyn symud neu gael ‘llechen lân’ oherwydd na all yr ysgol fynd i’r afael â’ch pryderon (neu heb gael cyfle i ddatrys y broblem).

Eich plentyn o bosibl yn wynebu gwaharddiad

Dylech: Siarad ag athro, pennaeth blwyddyn neu bennaeth eich plentyn. Gwiriwch a oes gan eich plentyn gynllun cefnogaeth fugeiliol, cynllun ymddygiad cadarnhaol neu a ydynt wedi cael eu hadnabod gydag anghenion dysgu ychwanegol. Gofynnwch am adolygiad o’r cynllun cefnogaeth fugeiliol, neu unrhyw gynlluniau eraill sydd ar waith i gefnogi ymddygiad eich plentyn. Os nad ydynt yn derbyn unrhyw gefnogaeth ychwanegol, gofynnwch i siarad ag aelod o staff i drafod hyn.

Ein cyngor: Os oes gan yr ysgol bryderon ynghylch ymddygiad eich plentyn, nid ydym yn argymell eu symud i ysgol arall. Ni ddylai unrhyw ysgol fod yn awgrymu hyn i’ch plentyn. Gallai aflonyddwch waethygu’r broblem. Os ydych angen cymorth â hyn, cysylltwch â ni.

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Dylech: Siarad â’r athro sy’n gyfrifol am Anghenion Dysgu Ychwanegol (cydlynydd ADY) yn yr ysgol ac e-bostio tîm ADY a Chynhwysiad yr Awdurdod Lleol at GweinyddolADYaCH@gwynedd.llyw.cymru

Ein cyngor: Rydym yn argymell bod rhieni’n ymgysylltu â chydlynydd ADY neu dîm cefnogaeth fugeiliol yr ysgol.

Gwneud cais - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Gwybodaeth dalgylch ysgol

Mae'r awdurdod lleol wedi cydnabod ardal ddaearyddol benodol ar gyfer pob ysgol, a elwir yn ddalgylch.

Gwiriwch pa ddalgylch ysgol yr ydych yn byw ynddo gan ddefnyddio MapMôn.

Ysgol David Hughes

  • Ysgol Gynradd Beaumaris
  • Ysgol Gynradd Llangoed
  • Ysgol Gynradd Llandegfan
  • Ysgol Parc y Bont
  • Ysgol Gynradd Brynsiencyn
  • Ysgol Gynradd Llanfairpwll
  • Ysgol Gymuned Pentraeth
  • Ysgol y Borth

Ysgol Gyfun Llangefni

  • Ysgol Gymuned Bodffordd
  • Ysgol Santes Dwynwen
  • Ysgol Gynradd Llanbedrgoch
  • Ysgol y Graig
  • Ysgol Talwrn
  • Ysgol Esceifiog
  • Ysgol Henblas
  • Ysgol Corn Hir

Ysgol Syr Thomas Jones

  • Ysgol Gynradd Amlwch
  • Ysgol Gymuned Garreglefn
  • Ysgol Gymuned Llanfechell
  • Ysgol Goronwy Owen
  • Ysgol Gynradd Cemaes
  • Ysgol Gynradd Moelfre
  • Ysgol Gynradd Penysarn
  • Ysgol Gymuned Rhosybol

Ysgol Uwchradd Bodedern

  • Ysgol Gymuned Bryngwran
  • Ysgol Rhyd y Llan
  • Ysgol Gymuned Llannerch-y-Medd
  • Ysgol Gymraeg Morswyn
  • Ysgol y Ffridd
  • Ysgol Pencarnisiog
  • Ysgol Gynradd Bodedern

Ysgol Uwchradd Caergybi

  • Ysgol Cybi
  • Ysgol Gynradd Rhosneigr
  • Ysgol Llanfawr
  • Ysgol y Tywyn
  • Ysgol Rhoscolyn
  • Ysgol Gymuned y Fali
  • Ysgol Kingsland
  • Ysgol Santes Fair
  • Caergeiliog Foundation School

Ysgolion gynradd sy'n bwydo 

Efallai bod achosion pan fo perthynas sefydledig a pharhaus rhwng ysgol gynradd ac ysgol uwchradd benodol sy’n seiliedig ar y ffaith bod y rhan fwyaf o garfan Blwyddyn 6 o’r ysgol gynradd yn pontio i’r ysgol uwchradd benodol honno.

Yr enw ar yr ysgolion hyn yw 'ysgol gynradd sy'n bwydo'.

Disgwylir i'r ysgol gynradd sy'n bwydo gynllun ar waith i gefnogi plant gelynion blwyddyn 6 i flwyddyn 7 pan fyddant yn symud i'r ysgol uwchradd.

Gwiriwch statws ysgol eich plentyn o rhan 'ysgol gynradd sy'n bwydo'. Efallai y bydd yr wybodaeth hon wedi’i chynnwys ym mhrosbectws yr ysgol uwchradd, neu cysylltwch â'ch ysgol gynradd yn uniongyrchol. 

Nid yw’r diffiniad:

  • yn mynd y tu hwnt i’r meini prawf derbyn presennol ar gyfer ysgolion uwchradd
  • yn pennu dalgylch ysgol uwchradd benodol

Cludiant

Cynghorir rhieni/gofalwyr i ystyried y goblygiadau cludiant ysgol cyn mynegi dewis ysgol. 

Os rhoddir caniatâd i ddisgyblion fynychu ysgol all-ddalgylch, yn arferol mae’n ofynnol iddynt wneud trefniadau teithio eu hunain a dwyn y gost.

Gweler ein Polisi Cludiant Ysgol am ragor o fanylion.

Trefniadau cludiant

Mae’r awdurdod lleol wedi adnabod ardal ddaearyddol benodol ar gyfer bob ysgol, a elwir yn ddalgylch.

Mae dalgylchoedd ysgol yn dylanwadu ar weithdrefnau mynediad a pholisïau cludiant ysgolion, fodd bynnag, nid yw byw o fewn dalgylch arbennig yn gwarantu lle yn ysgol yr ardal honno. Gellir gweld mapiau sy’n dangos ffiniau’r dalgylchoedd gan y Gwasanaeth Dysgu neu yn yr ysgol.

Mae disgyblion gan amlaf yn mynychu’r ysgol yn y dalgylch y maent yn byw ynddi a lle bydd yr awdurdod lleol wedi creu darpariaeth gan ystyried llety, staffio ac adnoddau eraill gan gynnwys cludiant ysgol.

Wrth wneud cais am le mewn ysgol uwchradd, dylai rhieni fod yn ymwybodol mai cyfeiriad y cartref sy’n dynodi’r dalgylch ysgol uwchradd yn hytrach na pha ysgol gynradd a fynychwyd gan eu plentyn. Mae hyn yn effeithio b’run ai yw cludiant ysgol yn ddi-dâl ai peidio i ddisgyblion.

Ymweld ag ysgolion

Gallwch edrych ar yr ysgolion ar-lein, gan y bydd llawer o ysgolion eleni yn defnyddio eu gwefannau i arddangos eu hysgolion ac yn ychwanegu adnoddau i gynorthwyo disgyblion Blwyddyn 6 a’u rhieni i gael gweld i mewn i bob ysgol.

Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni 

Mae’r ddogfen 'Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni'  yn rhoi gwybodaeth i rieni am bolisïau a threfniadau addysgol awdurdod lleol Môn yn unol â’i ddyletswydd dan ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, sy’n sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer mynediad i ysgolion.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.