Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ynglŷn â Moderneiddio


Mae ar Gyngor Sir Ynys Môn eisiau i bob plentyn, unigolyn ifanc a dysgwr, lle bynnag y maent gyrraedd eu potensial a bod yn barod i chwarae eu rhan fel dinasyddion cyfrifol a phencampwyr cymunedol.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r Cyngor yn dymuno sicrhau bod ysgolion modern yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg fodern. Bydd hyn yn:

  • arwain at safonau uwch
  • ymateb i’r newidiadau sy’n digwydd yn y gymdeithas, mewn cymunedau ac yn yr economi
  • gwella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn arbennig torri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyflawniad isel. 

Mae’r Awdurdod hefyd yn dymuno bod yn rhagweithiol mewn sicrhau bod plant, lle bo modd, yn cael eu haddysgu o fewn eu dalgylch leol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen cyfundrefn ysgol sy’n fwy effeithiol ac effeithlon – un sy’n sicrhau bod ysgolion wedi eu lleoli yn y lle cywir ac yn cael eu harwain gan brifathrawon ysbrydoledig sydd â digon o amser arweinyddiaeth i gwblhau’r dasg.

Yn 2012, beirniadwyd y Cyngor gan Estyn am beidio â symud yn ddigon cyflym gyda moderneiddio ysgolion. O ganlyniad, datblygwyd Strategaeth Foderneiddio Ysgolion sy’n gosod rhaglen 15 mlynedd ar gyfer moderneiddio’r ystâd o ysgolion ar Ynys Môn.