Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hwb i lywodraethwyr ysgol


Cyn hir ym Môn, dim ond drwy rwydwaith Hwb Llywodraeth Cymru fydd Llywodraethwyr Ysgol yn derbyn e-byst gan yr Awdurdod Lleol. Hwb yw’r llwyfan digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru. Mae’n darparu mynediad at ystod o offer ac adnoddau dwyieithog a digidol sydd wedi'u hariannu'n ganolog i’w ddefnyddwyr:

  • Cwricwlwm i Gymru 2022
  • gwybodaeth ar ddysgu proffesiynol
  • miloedd o adnoddau dwyieithog
  • gwybodaeth ynglŷn â diogelwch ar-lein

Fel Llywodraethwr, gall eich clerc neu Bencampwr Digidol eich ysgol ddyrannu cyfrif Hwb i chi, a fydd hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad at “Microsoft Office 365” a “Google for Education” am ddim.

Cysylltwch â LlywodraethwyrGovernors@ynysmon.llyw.cymru os ydych angen cymorth â hyn.