Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cais llywodraethwr awdurdod lleol


Mae cod ymarfer yr awdurdod lleol ar gydberthnasau ysgol yn nodi y dylai llywodraethwyr ALl gael eu penodi’n seiliedig ar y sgiliau a’r profiad y gallant eu cynnig i gorff llywodraethu ysgol ac mae proses benodi’r cyngor yn adlewyrchu’r gofyniad hwn.

I fod yn aelod o'r corff llywodraethu bydd angen i chi fod:

  • yn ymroddedig ac sydd â diddordeb mewn addysg yn y sector cyhoeddus
  • â brwdfrydedd ac egni i gefnogi ysgolion
  • â sgiliau/profiad perthnasol mewn gwaith sy’n gysylltiedig â llywodraethwyr y byddai o fudd i’r ysgol
  • yn gallu gweithio fel aelod o dîm
  • yn barod i addasu trefniadau personél i gwrdd ag anghenion aelodaeth y corff llywodraethu 

Ar hyn o bryd, does dim seddi gweigion mewn ysgolion.

Os ydych yn teimlo y gallwch fodloni'r meini prawf a nodwyd a bod gennych ddiddordeb mewn cael eich ystyried fel llywodraethwr ALl yn un o'r ysgolion uchod, cwblhewch ffurflen gais.

Pan fydd swydd wag yn bodoli, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan aelod etholedig lleol a'r pennaeth, a fydd yn penderfynu ar addasrwydd. Os yw'r ymgeisydd yn addas, caiff ei enwebu a'i gyflwyno i’r Deilydd Portffolio Addysg a'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.