Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Tocynnau bws ysgol


Bydd angen tocyn bws ar bob disgybl sy’n teithio ar fws ysgol

Bydd angen tocyn bws ar bob disgybl sy’n teithio ar fws ysgol erbyn 1 Medi 2024.

Ni fydd modd teithio ar fws ysgol heb docyn ar ôl y dyddiad hwn. Mae hyn am resymau diogelwch.

Ni fydd yr awdurdod yn codi tâl am docynnau bws ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025, oherwydd deddfwriaeth Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR).

Bydd angen i chi gwblhau cais ar wahân ar gyfer pob dysgwr ond peidiwch â ail-chyflwyno eich cais oherwydd bydd yn cymryd mwy o amser inni ddod yn ôl atoch.

Edrychwch ar yr holl wybodaeth ar y dudalen hon cyn gwneud cais.

Disgyblion heb hawl i gludiant am ddim

Bydd angen i bob disgybl nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim o dan y polisi presennol wneud cais am docyn bws.  

Mae disgyblion nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim yn perthyn i un o'r 3 chategori canlynol.

  • dysgwyr Blwyddyn 7 i 11 sy'n byw llai na 3 milltir o'u hysgol dalgylch
  • dysgwyr Blwyddyn 12 a 13
  • dysgwyr sy'n byw y tu allan i'r dalgylch ac sy'n dymuno manteisio ar y cynllun seddi gweigion

Os bydd eich plentyn yn perthyn i un o'r 3 chategori uchod, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais. Fodd bynnag, os bydd eich cais yn llwyddiannus, ni chodir tâl arnoch am y flwyddyn academaidd hon.

Dim gwarant

Nid oes modd gwarantu seddi gweigion ac nad yw gwneud cais yn gwarantu y byddwch yn cael tocyn bws.

Gellir eu tynnu'n ôl (a rhoi ad-daliad os oes taliad wedi ei wneud) os oes angen y sedd yn ddiweddarach ar gyfer disgybl sydd â hawl i sedd am ddim.

Nid yw'r rhwydwaith trafnidiaeth wedi'i gynllunio i greu seddi sbâr i ymateb i’r galw. Caiff gwasanaethau cludiant eu hadolygu'n rheolaidd a gellir tynnu gwasanaethau'n ôl os nad oes digon o blant â'r hawl i deithio.

Cyfrifoldeb rhiant

Disgwylir i rieni wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer sicrhau bod eu plentyn yn teithio i'r ysgol ac oddi yno ac mae angen iddynt sicrhau bod ganddynt gynlluniau eraill ar waith os nad ydynt yn gallu cael sedd wag neu os nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol. 

Plant blynyddoedd 7 i 11 yn byw mwy na 3 milltir o'r ysgol

Nid oes angen i ddysgwyr blynyddoedd 7 i 11 gyflwyno cais ar gyfer Medi 2024 os ydynt yn byw mwy na 3 milltir o’u hysgol ddalgylch - byddent yn derbyn, neu wedi derbyn, tocyn yn barod. 

Gwiriwch y dyddiad terfynu ar docyn bws presennol y dysgwr cyn gwneud cais newydd.

Yn unol â’r polisi, disgwylir y bydd rhieni yn gwneud trefniadau ar gyfer y 2 filltir gyntaf i gwrdd ag unrhyw gludiant a ddarperir gan yr Awdurdod. 

Mae croeso i chi gysylltu â'r Adran Drafnidiaeth ar 01248 752 456 a fydd yn gallu eich cynorthwyo i lenwi'r ffurflen, os oes angen.

Gallwch hefyd gyflwyno unrhyw ymholiad drwy e-bost i: AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru

Cynhelir gwiriadau rheolaidd er mwyn sicrhau fod gan bob dysgwr sy’n teithio ar fws ysgol docyn bws dilys.