Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cludiant ysgol: cwestiynau cyffredinol


Cymhwysedd

Mae’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn amodi mai dim ond i ddysgwyr o oed ysgol statudol (hyd at Flwyddyn 11) fydd trafnidiaeth am ddim yn cael ei darparu, os yw’r pellter o’u cartref i’r ysgol addas agosaf o leiaf:

  • 2 filltir i ddisgyblion ysgol gynradd
  • 3 milltir i ddisgyblion ysgol uwchradd

Gallwch hefyd gael mynediad at ein polisi cludiant.

Mae’r awdurdod lleol hefyd yn darparu trafnidiaeth am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol statudol:

  • lle mae’r llwybr i’r ysgol yn cael ei ystyried fel llwybr peryglus gan yr awdurdod lleol mewn ymgynghoriad â’r Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo
  • lle mae trafnidiaeth i’r ysgol a enwir yn cael ei hadnabod yn Natganiad anghenion addysgol arbennig disgybl. Byddai hyn fel arfer ar sail feddygol neu addysgol a byddai’n cael ei ystyried yn hanfodol yng nghyd-destun meini prawf eraill a adnabyddir yn y polisi
  • lle mae plentyn angen trafnidiaeth ar sail feddygol ac nid oes trafnidiaeth gyhoeddus addas yn bodoli

Mae rhieni'n gyfrifol am:

  • gael eu plentyn i'r ysgol ac oddi yno lle nad ydynt yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim
  • gwneud cais am gludiant am ddim lle mae eu plentyn yn gymwys
  • hysbysu'r ALl a'r ysgol o amgylchiadau sydd wedi newid a allai effeithio ar gludiant
  • sicrhau bod eu plentyn yn barod ac yn aros am gludiant ar yr adeg ac yn y lle priodol. Cyfrifoldeb y rhiant yw mynd gyda'r plentyn at y cerbyd ac oddi arno
  • sicrhau bod ymddygiad eu plentyn wrth ddefnyddio cludiant ysgol yn dderbyniol

Wrth bennu’r math o gludiant sydd ei angen, bydd yr egwyddorion canlynol yn cymhwyso:

  • yr angen am gludiant arbenigol
  • anghenion ychwanegol disgybl fel y diffinnir yn natganiad/CDU disgybl

Ym mhob achos, bydd defnyddio adnoddau'n effeithlon yn pennu'r dull o deithio (yn amodol ar yr amodau uchod). Gellir darparu cludiant drwy gyfrwng gwasanaethau cludiant contract ysgol neu wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus presennol a fydd, ynghyd â'r math o drafnidiaeth (bws, bws mini, trên, tacsi ac ati) yn cael eu pennu gan gost-effeithiolrwydd. Mewn rhai achosion, gall un bws contract gludo gwahanol ddisgyblion i fwy nag un safle ysgol.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall taliad arian parod (30c y filltir ar hyn o bryd) fod ar gael ar gyfer cludo disgyblion sy'n bodloni'r holl feini prawf, os bernir gan yr ALl ei fod yn fwy cost-effeithiol.

Gwneir pob cyfrifiad o bellter gan ddefnyddio pecyn meddalwedd dewisol yr awdurdod.

Bydd y llwybr i'r ysgol yn cael ei fesur o ffin y cartref i giât agosaf yr ysgol, a gall gynnwys llwybrau cyhoeddus a llwybrau eraill, yn ogystal â ffyrdd wedi'u mabwysiadu. Nid dyma'r pellter byrraf ar y ffyrdd o reidrwydd.

Asesir llwybrau peryglus o'r man casglu/safle bws i'r ysgol (nid o’r cyfeiriad cartref). Os ystyrir bod y llwybr yn beryglus ar ôl asesiad, yna bydd yr Awdurdod Lleol yn darparu cludiant o'r man casglu agosaf.

Fodd bynnag, pe bai'r llwybr yn cael ei ystyried yn beryglus, cyfrifoldeb y rhiant o hyd fyddai trefnu bod eu plentyn/plant yn teithio hyd at bellter o 2 filltir i gwrdd ag unrhyw gludiant a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol.

Nid oes disgwyl i bob plentyn gerdded i'r mannau casglu, oherwydd mewn rhai achosion bydd hyn yn amhriodol. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod oedolyn cyfrifol i gwrdd â'i blentyn ar y daith yn ôl.

E-bostiwch AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru fel y gall yr awdurdod drefnu i ymchwilio a phenderfynu a oes angen unrhyw drefniadau cludiant amgen.

Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi darpariaeth addysgol berthnasol i’r holl blant ag anghenion addysgol arbennig i sicrhau eu bod yn gallu datblygu i’w llawn botensial.

Asesir lefel yr angen gan weithwyr proffesiynol yng ngwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Môn a Gwynedd, ac mae hyn yn pennu’r math o gludiant a ddarperir. Bydd cludiant yna’n cael ei ddarparu yn unol â’r cyngor a roddir a’i adolygu’n rheolaidd.

Os oes gan blentyn Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU), efallai y bydd cludiant ysgol yn cael ei gynnwys fel rhan o'r darpariaethau anaddysgol a wneir ar gyfer y plentyn fel rhan o'u datganiad/Cynllun CDU. Os ydyw, yna darperir cludiant.

Os nad yw cludiant ysgol wedi'i gynnwys yn Natganiad/Cynllun CDU plentyn, yna efallai y bydd ganddynt hawl o hyd i gludiant ysgol o dan y polisi ar yr amod mai'r ysgol y maent yn ei mynychu yw'r ysgol briodol agosaf gyda lle neu os ydynt wedi mynychu ysgol fwydo gynradd ddynodedig ar gyfer ysgol uwchradd benodol; yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd. Bydd unrhyw gais am gludiant yn cael ei wneud drwy adolygiad o anghenion y disgybl gan yr ysgol. Yna bydd yr ysgol yn cyflwyno'r cais i'w ystyried i'r Panel Cymedroli drwy'r Cynllun Datblygu Unigol. Cysylltwch â Chydlynydd ADY eich ysgol er mwyn trafod y mater ymhellach.

Cewch eich cynghori ei bod yn bosibl na fydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu os yw rhieni/gofalwyr yn arfer eu hawl i ddewis ysgol nad yw hi'r ysgol addas agosaf.

Mae gan rieni/gofalwyr yr hawl i fynegi dewis ar gyfer mynediad eu plentyn i unrhyw ysgol, yn amodol ar argaeledd lleoedd.

Fodd bynnag, os derbynnir y cais, bydd y dysgwr yn colli ei hawl i gludiant am ddim os nad dyma'i ysgol addas agosaf neu’r ysgol uwchradd ddynodedig ar gyfer yr ysgol fwydo gynradd yr oeddent yn ei mynychu.

Nid oes gan yr Awdurdod gyfrifoldeb i ddarparu cludiant i ddisgyblion sy'n dewis mynychu ysgol mewn awdurdod lleol gwahanol. Mewn amgylchiadau o'r fath, cyfrifoldeb y rhieni fydd sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gludo'n ddiogel i'r ysgol ac oddi yno.

Na.

Nid yw'r awdurdod yn darparu cludiant i blant sy'n mynychu ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin yn 3 neu 4 oed.

Darperir cludiant i blant cymwys o ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r plentyn yn troi’n 5 oed ac yn dechrau addysg orfodol amser llawn, fel arfer yn y dosbarth derbyn.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn darparu tocynnau bws i ddisgyblion sy’n gymwys am gludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol dan y polisi presennol.

I wneud hyn, pwrcasir coetsis (coaches), bysiau mini a thacsis yn arbennig ar gyfer trafnidiaeth ysgol a dylunnir y rhwydwaith trafnidiaeth i redeg yn y modd mwyaf cost-effeithiol posibl i wasanaethu disgyblion sy’n gymwys am gludiant am ddim.

Caiff unrhyw seddi sbâr ar y cludiant eu cynnig ar sail cyntaf i’r felin i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i deithio am ddim. Mae’r lleoedd hyn ar gael dan y Cynllun Seddi Gweigion.

Oherwydd deddfwriaeth newydd Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR) a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2020, nid yw'r awdurdod ar hyn o bryd yn codi tâl am docynnau bws i'r rhai sy'n gwneud cais llwyddiannus am deithio consesiynol fel rhan o'r cynllun seddi gweigion ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Disgwyliadau

Tocynnau bws

Mae’r ffenestr ar gyfer ceisiadau tocyn bws ysgol yn agor ac mae ffurflenni ar gael o 1 Mawrth i 31 Mai.

  • Dylid cwblhau ceisiadau ar-lein: https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Ysgolion-a-dysgu/Cludiant-ysgol/Tocynnau-bws-ysgol.aspx
  • Byddwch yn derbyn ymateb awtomatig i’r cyfeiriad e-bost rydych wedi’i roi unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais.
  • Bydd yr Awdurdod Lleol yn asesu eich cais unwaith y byddwn wedi derbyn cadarnhad gan yr ysgol bod eich plentyn wedi cael lle.
  • Pan fydd eich cais wedi cael ei asesu, byddwn yn eich hysbysu a yw eich plentyn yn gymwys.
  • Cyn belled â bod eich cais wedi’i gyflwyno ar amser, byddwn yn anelu at eich hysbysu o’r trefniadau cludiant cyn diwedd tymor yr haf (Gorffennaf) ac yn anfon tocyn bws i chi ar gyfer eich plentyn (os yn berthnasol).
  • Noder y bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried ar ôl y rhai a dderbynnir erbyn y dyddiad cau, ond ni allwn warantu y bydd trefniadau cludiant yn eu lle ar gyfer mis Medi.
  • Os ydych yn symud tŷ, bydd rhaid i chdi ail-wneud cais am docyn bws: https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Ysgolion-a-dysgu/Cludiant-ysgol/Tocynnau-bws-ysgol.aspx. Mae hyn oherwydd bod eich cymhwysedd yn ddibynnol ar y pellter rhwng eich cartref a’ch ysgol. Os ydych yn symud i gyfeiriad newydd, bydd yn rhaid i ni wirio eich cymhwysedd eto.
  • Os ydych yn gwneud cais am docyn bws ar ôl symud tŷ yn ystod y flwyddyn ysgol, gwnewch gais cyn gynted â phosibl unwaith fydd eich cyfeiriad newydd wedi’i gadarnhau.
  • Bydd hefyd gofyn i chi ail-wneud cais am docyn bws os oes unrhyw rai o’ch amgylchiadau’n newid yn ystod y cyfnod y mae eich plant yn mynychu’r ysgol, neu os yw ysgol neu gwrs eich plentyn yn newid.
  • Os nad yw eich cyfeiriad cartref na’r ysgol a fynychir gan eich plant yn newid, nid oes angen i chi ail-wneud cais bob blwyddyn, rydych yn parhau i ddefnyddio’r un tocyn bws.
  • Bydd angen i rieni ail-wneud cais am docyn bws os yw eu plentyn yn penderfynu trosglwyddo i’r chweched dosbarth: https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Ysgolion-a-dysgu/Cludiant-ysgol/Tocynnau-bws-ysgol.aspx
  • Dylid cyfeirio ceisiadau am docynnau bws i golegau i’r coleg dan sylw: https://www.gllm.ac.uk. Gellir gwneud ceisiadau ar unrhyw amser o’r flwyddyn, er yr argymhellir i fyfyrwyr wneud cais ar ddiwedd tymor yr haf cyn cychwyn cyrsiau ym mis Medi.

Darperir darpariaeth cludiant yn amodol ar God Ymddygiad wrth Deithio Llywodraeth Cymru.

Sicrhewch eich bod wedi darllen a deall y goblygiadau o beidio â glynu at y cod hwn. Gweler dolenni cyswllt i’r ‘Canllaw i Rieni’ a’r canllaw statudol llawn yn yr adran Dogfennau Defnyddiol.

Anelwn at anfon tocynnau bws allan i’ch cyfeiriad cartref cyn diwedd Gorffennaf yn barod erbyn dechrau’r tymor ysgol ym mis Medi.

Os nad ydych wedi derbyn y tocyn bws cyn yr amser hwn ac os oeddech wedi gwneud cais erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru.

Os gwnaethpwyd eich cais ar ôl dechrau’r tymor neu hanner ffordd drwy’r flwyddyn ac mae eich plentyn yn gymwys, anelwn at ddyrannu tocyn o fewn 14 diwrnod. Noder y gall fod oedi ar geisiadau a wneir yn ystod amseroedd prysur a rhieni/gofalwyr sy’n gyfrifol yn y pen draw am wneud trefniadau teithio interim.

Pan fyddwch yn derbyn y tocyn bws, sicrhewch eich bod yn ei gadw mewn lle diogel. Os ydych yn talu tuag at gost trafnidiaeth eich plentyn, ni fydd tocynnau’n cael eu hanfon nes y bydd y taliad sy’n ddyledus wedi cael ei dderbyn.

Cysylltwch â Chludiant Ysgol drwy e-bostio cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru a byddwn yn ymdrechu i drefnu un newydd cyn gynted â phosibl.

Cyflwynir y rhan fwyaf o geisiadau am docynnau bws gan rieni/gofalwyr mewn amser ar gyfer dechrau’r flwyddyn ysgol ym mis Medi, unwaith y bydd lle ysgol wedi ei gadarnhau ar gyfer eu plentyn. I fod yn sicr fod gennych drefniadau cludiant ar waith ar gyfer mis Medi, cyflwynwch eich cais cyn diwedd mis Mai (gorau po gyntaf).

Efallai y bydd amseroedd lle bydd angen i chi wneud cais am docyn bws y tu allan i’r dyddiadau hyn, efallai bod anghenion eich plentyn wedi newid yn ystod y flwyddyn neu eich bod wedi symud tŷ. Gallwch gyflwyno cais ar unrhyw amser. Cofiwch y bydd angen i chi wneud cais rhwng y dyddiadau a ddangosir uchod er mwyn gwarantu cludiant ar ddechrau’r flwyddyn ym mis Medi.

Mae’n well cyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Bydd ceisiadau sy’n cael eu derbyn cyn y dyddiad cau uchod yn cael eu hystyried yn gyntaf.

Os derbynnir eich cais ar ôl y dyddiad cau, ni allwn warantu y bydd yn cael ei ystyried mewn amser i gael trefniadau ar waith erbyn dechrau’r flwyddyn ysgol ym mis Medi ac mae’n bosibl y bydd rhaid chi ddisgwyl cyn hired â hanner tymor mis Hydref.

Mae pob disgybl uwchradd sy’n gymwys am gludiant ysgol am ddim yn cael tocyn bws y mae’n rhaid ei ddefnyddio i gael mynediad at gludiant ysgol bob amser. Mae’n bwysig i bob disgybl gario ei docyn a bod yn barod i’w ddangos i’r gyrrwr bob tro wrth fynd ar y cerbyd. Dylid cadw tocynnau’n ddiogel ac mewn cyflwr da.

Os yw tocyn bws eich plentyn wedi cael ei golli neu ei ddifrodi, mae’n rhaid cael un newydd ar unwaith. Cysylltwch â’r Adran Drafnidiaeth drwy e-bostio cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru neu galw 01248 752 456.

Noder efallai y bydd ffi o £5 am docyn newydd, a bydd disgwyl i ddisgyblion sy’n teithio ar wasanaethau bws masnachol dalu’r ffi briodol nes y derbynnir tocyn newydd a ni fydd unrhyw ad-daliadau’n cael eu talu am unrhyw dreuliau yr achosir.

Os yw eich plentyn yn gymwys am docyn bws am ddim, ac os yw eich plentyn yn dal i fynychu’r un ysgol ac yn byw yn yr un cyfeiriad cartref, nid oes angen gwneud cais am docyn bws bob blwyddyn.

Mae’r awdurdod yn creu tocynnau bws sy’n ddilys am 5 mlynedd ar gyfer y disgyblion sy’n gymwys am docyn am ddim – gwiriwch y dyddiad ar docyn eich plentyn.

Gwneir ceisiadau am gludiant mewn ysgolion cynradd drwy'r ysgol – ni fydd ceisiadau am gludiant a wneir yn uniongyrchol i'r awdurdod gan rieni/gofalwyr yn cael eu derbyn.

Cysylltwch â'r person sy'n gyfrifol am gludiant yn eich ysgol i drafod ymhellach.

Os yw eich plentyn yn trosglwyddo i’r sector uwchradd a'ch bod yn byw ymhellach na 3 milltir oddi wrth yr ysgol ddalgylch, nid oes angen gwneud cais am docyn bws am ddim gan y bydd y Gwasanaeth Dysgu yn rhoi gwybod i’r Adran Drafnidiaeth am gymhwysedd eich plentyn am docyn bws am ddim.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Adran Drafnidiaeth drwy cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru.

Os na nodir fel arall, mae tocynnau’n ddilys ar gyfer taith ddychwelyd i ac o’r ysgol neu goleg, ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig. Ymdrinnir â chamddefnydd ac/neu ddefnydd twyllodrus o docyn bws yn ddifrifol a gall arwain at gludiant yn cael ei dynnu’n ôl.

Gall unrhyw un o’r canlynol arwain at atafaeliad:

  • Defnydd gan unrhyw un oni bai am ddeilydd y tocyn a enwir.
  • Ceisio ei ddefnyddio ar gyfer teithiau anawdurdodedig.
  • Defnyddio tocyn bws sydd wedi ei ddifrodi neu ei ddifwyno.
  • Defnyddio tocyn sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad gorffen ac nad yw bellach yn ddilys.

Pwyntiau casglu/gollwng

Bydd yr Awdurdod Lleol yn darparu tocynnau bws i ddysgwyr y gall fod, oherwydd eu hamgylchiadau, yn byw mewn mwy nag un breswylfa; gydag o leiaf un breswylfa ym Môn.

Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar y ffaith mai'r ysgol a fynychir yw'r ysgol addas agosaf o'r brif breswylfa, neu y cytunwyd arni i fod yr ysgol fwyaf addas, gan ystyried lleoliadau'r ddwy breswylfa. Rhaid darparu prawf o breswyliad deuol a'r brif breswylfa fel arfer yw'r eiddo y telir budd-dal plant iddo.

Os yw’r ail breswylfa yn ardal awdurdod lleol wahanol, yna cyfrifoldeb yr awdurdod hwnnw yw ystyried trefniadau trafnidiaeth ar gyfer y llwybr hwnnw i’r ysgol. Dylai rhieni/gofalwyr felly wneud cais i’r awdurdod lleol perthnasol.

Mae’n rhaid adrodd ar newid cyfeiriad neu ysgol fel y gallwn ail-asesu eich manylion a diweddaru ein cofnodion. Cysylltwch â ni drwy e-bostio cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru

Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch cyfeiriad os ydych wedi symud cyfeiriad, er enghraifft copi o fil Treth y Cyngor neu fil cyfleustodau.

Na.

Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i glybiau y tu allan i'r ysgol neu oddi yno (h.y. clwb brecwast, clybiau ar ôl ysgol ac ati) neu weithgareddau allgyrsiol sydd y tu allan i'r cwricwlwm statudol. Cyfrifoldeb y rhiant / gofalwr yw sicrhau bod trefniadau cludiant priodol yn cael eu rhoi ar waith os ceir mynediad at y gwasanaethau hyn.

Na.

Darperir cludiant ysgol ar gyfer dysgwyr cymwys rhwng eu cyfeiriad cartref neu fan casglu penodedig, a'r ysgol gymhwysol lle maent wedi'u cofrestru.

Ni ddarperir cludiant am ddim i neu o gyfeiriadau aelodau eraill o'r teulu neu ffrindiau, cyfeiriadau gwaith rhieni na chyfleusterau gofal plant o unrhyw fath.

Teithio ôl-16

Na. Dim ond ar gyfer plant oed ysgol gorfodol y mae cludiant am ddim ar gael, nid yw ar gael ar gyfer disgyblion ôl-16, (hynny yw ar ôl Blwyddyn 11).

Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu prynu tocyn sedd wag gan yr awdurdod lleol. Bydd yn ofynnol iddynt dalu ffi (adolygir y ffi yn flynyddol).

Dylid cyfeirio ceisiadau am gludiant i golegau i’r coleg dan sylw. Gellir gwneud ceisiadau ar unrhyw amser o’r flwyddyn er yr argymhellir i fyfyrwyr wneud cais ar ddiwedd tymor yr haf cyn dechrau cyrsiau ym mis Medi.

Coleg Menai
Penmynydd Road
Llangefni
LL77 7HY
Ffôn: 01248 383 348 

Coleg Menai
Ffordd Ffriddoedd
Bangor
LL57 2TP
Ffôn: 01248 370 125 

Coleg Menai
Y Maes
Caernarfon
LL55 2NN
Ffôn: 01286 673 450 

Coleg Glynllifon
Ffordd Clynnog
Llandwrog
LL54 5DU
Ffôn: 01286 830 261 

Coleg Meirion Dwyfor
Penrallt
Pwllheli
LL53 5EB
Ffôn: 01758 701 385 

Coleg Llandrillo
Cefndy Road
Rhyl
LL18 2HG
Ffôn: 01745 354 797

Apeliadau a chwynion

Os nad yw eich cais yn llwyddiannus, efallai y bydd yn bosibl i chi wneud cais am sedd wag.

Mae amseroedd, ar rhai llwybrau, lle mae’r nifer o blant cymwys yn llai na’n nifer o seddi a ddarperir ar y bws. Lle mae hyn yn digwydd, gall y plant nad ydynt yn cwrdd â’r amodau ar gyfer cludiant ysgol am ddim gael cynnig y cyfle i wneud cais am un o’r seddi gweigion hyn.

Os hoffech wneud apêl, yna mae’n rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig a’i gyfeirio at:

Gwasanaeth Dysgu
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW

Gallwch hefyd anfon eich cais ymlaen drwy e-bostio AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru yn nodi eich rhesymau am yr apêl ac yn darparu unrhyw ddogfennaeth berthnasol i gefnogi eich achos.

Cysylltwch â cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru os ydych yn poeni neu'n pryderu am unrhyw agwedd ar daith eich plentyn, gan gynnwys ymddygiad y teithwyr eraill neu ddiogelwch neu ddibynadwyedd y cerbyd.

Gorau po gyntaf y cawn wybod am broblem, y cyflymaf y gallwn weithredu i'w gywiro.

Mae ysgolion yn gyfrifol am ymddygiad eu plant ar y ffordd i'r ysgol ac oddi yno, gan gynnwys wrth deithio ar gludiant ysgol.

Rhowch wybod i'r ysgol am y digwyddiad yn y lle cyntaf ac yna cysylltwch â cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru.

Mater yn ymwneud â'r darparwr cludiant

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i'w leihau, efallai y byddwch weithiau'n profi oedi neu broblemau annisgwyl. Arhoswch am 15 munud ar ôl yr amser casglu a drefnwyd. Os nad yw'r cludiant wedi cyrraedd o hyd, cysylltwch â'r Adran Drafnidiaeth ar 01248 752 455 neu 01248 752 458.

Cysylltwch â ni hefyd os oes cludiant yn hwyr yn gyson drwy e-bostio cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru.

Gallwch naill ai gysylltu â'r cwmni cludiant yn uniongyrchol neu gallwch gysylltu â cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru a byddwn yn rhoi enw a rhif ffôn gweithredwr y cerbyd i chi fel y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol a gwneud trefniadau i gasglu'r eiddo.

Os bydd tywydd garw, a bod yr ysgol neu goleg yn agored, penderfyniad y darparwr cludiant byddai os bydd gwasanaeth cludiant, yn dibynnu ar:

  • yr amodau tywydd ar y pryd
  • y rhagolwg tywydd ar gyfer hyd at 9am ac ar gyfer gweddill y dydd
  • lleoliad y llwybr a lleoliad y gweithredwr
  • ac amodau yn yr ysgol neu goleg.

Dylai rhieni/myfyrwyr wirio'r sefyllfa gyda'r darparwr cludiant neu gysylltu â cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru.

Os bydd tywydd gwael yn atal cludiant ysgol neu goleg rhag gweithredu yn y bore, ni fydd unrhyw wasanaeth dychwelyd y prynhawn hwnnw hyd yn oed os bydd y tywydd yn gwella. Yn yr achosion hyn, os yw rhieni/gofalwyr yn mynd a myfyrwyr i'r ysgol neu goleg eu hunain, maent wedyn yn gyfrifol am ddod â’r myfyrwyr adref eto ar ddiwedd y dydd, neu'n gynharach os bydd yr ysgol neu goleg yn cau oherwydd fod y tywydd yn gwaethygu.

Y pennaeth sy'n gwneud y penderfyniad i gau ysgol, yn dilyn asesiad risg sy'n seiliedig ar nifer o ffactorau. Rhaid gwneud y penderfyniad hwn heb wybod yn union sut y bydd y tywydd yn symud ymlaen yn ystod y dydd.

Bydd gwybodaeth ynglŷn â chau ysgolion/colegau unigol oherwydd tywydd garw yn cael ei rhoi ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn cyn gynted â phosibl a bydd cyhoeddiadau'n cael eu gwneud ar Môn FM. Gweler hefyd wefannau ysgolion unigol.

Ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, dylai teithwyr holi darparwyr cludiant cyn teithio neu gysylltu â:

  • Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752459
  • Traveline Cymru ar 0871 200 22 33

Yn gyffredinol, rydym yn derbyn rhybudd ymlaen llaw am ddigwyddiadau cau ffyrdd sydd wedi eu trefnu ymlaen llaw. Lle’r effeithir cludiant ysgol, efallai y bydd angen i ni drefnu mannau casglu/gollwng amgen gyda'r gweithredwr. Byddem wedyn yn trefnu i rieni/gofalwyr gael gwybod am y trefniadau teithio dros dro.

Os bydd argyfwng, efallai y bydd ffyrdd yn cael eu cau heb rybudd, gan o bosibl achosi oedi i gludiant ysgol. Lle bo’n bosibl, byddwn yn cyhoeddi digwyddiadau o gau ffyrdd argyfwng ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn.

Cysylltwch â cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru os ydych yn pryderu ar unrhyw adeg am eich plentyn/plant yn cyrraedd yn hwyr.

Amrywiol

Os na all eich plentyn fynychu'r ysgol neu os nad oes angen cludiant mwyach, bydd angen i chi gysylltu â cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru cyn gynted â phosibl.

Na.

Dim ond disgyblion cymwys sy'n cael teithio ar y cerbyd cludiant ysgol. Mae'r holl seddi wedi'u dyrannu i ddisgyblion cymwys. Os bydd plant ychwanegol yn teithio yna gall hyn arwain at y cerbyd yn mynd yn orlawn.

Ni chaniateir i rieni deithio ar gludiant ysgol oni bai bod amgylchiadau arbennig a bod cytundeb ymlaen llaw wedi'i roi gan Gyngor Sir Ynys Môn.

Er mwyn sicrhau bod llwybrau trafnidiaeth yn parhau i fod yn effeithlon ac yn gost-effeithiol, mae angen cynnal adolygiadau cyfnodol. O ganlyniad, efallai y bydd newidiadau'n cael eu gwneud o bryd i'w gilydd i gludiant eich plentyn, ond byddwn bob amser yn ceisio rhoi rhybudd ymlaen llaw i chi.

Efallai y bydd goruchwyliwr teithio’n cael ei ddarparu gan yr Awdurdod ar gyfer disgyblion sydd â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig/CDU, sy'n gymwys i gael cludiant o dan y meini prawf diffiniedig.

Bydd goruchwylwyr teithio’n cael eu darparu ar ôl i swyddogion perthnasol ystyried anghenion unigol y disgyblion neu'r grŵp o ddisgyblion a natur y cludiant sydd ar gael.

Os nad yw eich cwestiwn ynglŷn â chludiant ysgol wedi cael ei ateb, gallwch hefyd ein ffonio neu ein e-bostio

Ymholiadau cludiant tacsis: 01248 752458
Ymholiadau tocynnau bws: 01248 752456
Ymholiadau bysiau: 01248 752455

Gellir e-bostio ymholiadau neu bryderon cyffredinol hefyd i'r Gwasanaeth Dysgu drwy AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru.