Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymorth ariannol arall


Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr 16+

Gall disgyblion o deuluoedd gydag incwm isel sy’n dymuno aros yn yr ysgol y tu draw i’r oedran gadael ysgol statudol hawlio Lwfans Cynnal Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag ysgol uwchradd eich plentyn neu ymwelwch â gwefan LCA Cymru

Mae gwefan LCA Cymru yn rhoi help a gwybodaeth i:

  • Fyfyrwyr. Darganfyddwch sut y gallech gael lwfans wythnosol drwy barhau mewn addysg.
  • Rhieni a gwarcheidwaid. Darganfyddwch sut y gall LCA helpu myfyrwyr gyda chostau parhau â’u haddysg o ddydd i ddydd.
  • Canolfannau Dysgu (Colegau, Ysgolion a sefydliadau eraill). Darganfyddwch beth y mae LCA yn ei olygu i’ch myfyrwyr a’ch rôl chi.

Mewnrhwyd - dim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.

Cyllid myfyrwyr

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru, sydd wedi ei leoli yng Nghyffordd Llandudno, nawr yn gyfrifol am brosesu, asesu a thalu cyllid i fyfyrwyr ar gyfer pob cais.

Am fanylion ar sut i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr, trowch at www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Os oes gennych ymholiad am eich cyfrif cyllid i fyfyrwyr, dylech nawr gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.

All tudalennau Facebook (facebook.com/SFWales) a Twitter (Twitter.com/SF_Wales) CMC hefyd ddarparu gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd.

Mewnrhwyd - dim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.