Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ymholiadau'r Dreth Gyngor - cwestiynau cyffredin


Mae’r cyngor yn cydnabod yr anhawster y gallai trethdalwyr ei gael yn talu’r Dreth Gyngor oherwydd costau byw.

Fodd bynnag, mae’r Dreth Gyngor yn ffurfio tua 30% o incwm y cyngor, incwm a fydd yn hanfodol er mwyn ariannu gwasanaethau hanfodol dros y misoedd nesaf. Rydym felly yn disgwyl i drethdalwyr geisio parhau i dalu eu taliadau misol, fel y nodir yn eu biliau Treth Cyngor.  

Os bydd trethdalwyr yn cael anhawster talu oherwydd eu bod wedi colli eu gwaith a gostyngiad mewn incwm, mae cymorth ar gael drwy’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a fyddai’n lleihau biliau unigol neu’n lleihau’r atebolrwydd i £0. 

Lle nad yw trethdalwyr yn gymwys am gymorth o dan y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, maent yn cael eu hannog i gysylltu gyda'r tim Treth y Cyngor i drafod dulliau amgen o dalu cyn gynted â phosibl drwy gysylltu ar 01248 750 057 neu drwy ebost: refeniw@ynysmon.gov.uk Byddai’r trefniadau amgen yn dibynnu ar amgylchiadau unigol y trethdalwr. 

Os oes gennych ymholiad am eich bil Treth Cyngor neu Cyfradd Busnes darllenwch ein atebion i'r cwestiynau cyffredin isod.

Creu cyfrif gyda'r cyngor.

Bydd hyn yn eich galluogi i gwblhau ffurflenni ar-lein ynglŷn â’r Dreth Gyngor.

Drwy gofrestru am gyfrif, byddwch hefyd yn gallu cysylltu ag adrannau arall o fewn y Cyngor a chael mynediad i’w ffurflenni ar-lein.  

Mae’r wybodaeth yma hefyd ar gael ar gefn eich bil.

Debyd Uniongyrchol ­ - hwn yw’r math o dalu a ffafrir gan y Cyngor, tra mae’n helpu i ostwng costau gweinyddu. I dalu eich bil drwy Ddebyd Uniongyrchol, os gwelwch yn dda a wnewch ffonio 01248 750 057 gyda’ch manylion banc wrth law neu gwblhau’r ffurflen amgaeëdig gyda’ch bil a’i anfon yn ôl i’r Cyngor, gan ddyfynnu eich rhif cyfrif.

Taliadau ar lein - gallwch dalu eich Dreth Gyngor ar-lein drwy ymweld â www.ynysmon.gov.uk. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma i dalu nifer o filiau eraill y Cyngor yn ychwanegol i’r Dreth Gyngor, drwy ddefnyddio Visa (cardyn debyd/credyd) neu Mastercard.

Gwasanaeth taliadau ffôn – gallwch ddefnyddio ein system taliadau awtomatig, gan wneud taliadau gyda cardiau debyd neu gredyd. Mae’r gwasanaeth yma ar gael 24 awr y dydd ar 0300 1230800.

Swyddfa Bost – gallwch wneud taliad gyda cerdyn debyd, arian neu siec (taladwy i Swyddfa Bost Cyf) mewn unrhyw Swyddfa Bost. Byddwch angen eich bil i wneud taliad. Petaech yn dymuno gwneud taliad yng nghanol y flwyddyn a nid oes gennych bil hefo côd bar, gallwch ofyn am gerdyn talu, sydd ar gael gan y Cyngor.

PayPoint – gallwch wneud taliadau mewn arian parod yn unrhyw safle PayPoint. Byddwch angen eich bil i wneud taliad. I ddarganfod eich safle PayPoint, agosaf, ewch i safle we: www.paypoint.co.uk

Banc – gallwch dalu trwy BACS i gyfrif banc cyffredinol y Cyngor rhif 79118615 yn Natwest, Cangen Llangefni rhif côd 53-81-02. Wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, eich bod yn dyfynnu rhif eich cyfrif Dreth Gyngor wrth wneud taliad. Fe all y banc godi tâl arnoch am y gwasanaeth yma.

Gallwch wneud hyn ar eich cyfrif ar-lein neu drwy cysylltu atom yn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-Daliadau.

Gweler y manylion cyswllt ar y tudalen hwn 

Byddwch angen cadarnhau'r dyddiad rydych eisiau’r disgownt gychwyn a’r rheswm am y newid.

Gallwch wneud hyn ar eich cyfrif ar-lein (Ffurflen Canslo Disgownt) neu drwy cysylltu atom yn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-Daliadau.

Gweler y manylion cyswllt ar y tudalen hwn 

Byddwch angen cadarnhau'r dyddiad rydych eisiau’r disgownt gychwyn a’r rheswm am y newid.

Gallwch wneud hyn ar eich cyfrif ar-lein (Ffurflen Newidiadau’r Dreth Gyngor) neu drwy cysylltu atom yn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-Daliadau.

Gweler y manylion cyswllt ar y tudalen hwn 

Bydd angen i chi gadarnhau'r dyddiad y digwyddodd y newid yn ysgrifenedig a'r rheswm dros y newid.

Gallwch wneud hyn ar eich cyfrif ar-lein (Ffurflen Newidiadau’r Dreth Gyngor) neu drwy cysylltu atom yn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-Daliadau.

Gweler y manylion cyswllt ar y tudalen hwn 

Bydd angen i chi gadarnhau'r dyddiad y digwyddodd y newid yn ysgrifenedig a'r rheswm dros y newid.

Os yw’n dweud ar waelod eich bil “Rhandaliadau i’w dalu drwy: Debyd Uniongyrchol yn Fisol.”, yna bydd y taliadau’n cael eu gwneud yn awtomataidd ar y dyddiadau hynny ac am y symiau a nodir a chymerir eich rhandaliadau o’r un rhif cyfrif â’r flwyddyn flaenorol.

Gallwch wneud hyn drwy cwblhewch y ffurflen daeth hefo’ch bil a’i ddychwelyd i ni neu 

Gweler y manylion cyswllt ar y tudalen hwn 

Mae yna falans ar waelod y bil gan mai dyna’r sefyllfa ar 1 Mawrth, 2022.

Os ydych wedi gwneud unrhyw daliadau ar ôl y dyddiad yma, ni ddangosir hwy ar y bil.

Ar eich bil Dreth Gyngor mae yna côd bar - dylech fynd a’r bil yma hefo chi i’ch galluogi i dalu yn y Swyddfa Bost neu unrhyw leoliad Paypoint. Nid ydych angen cerdyn.

Ydi. 

Gweler y manylion cyswllt ar y tudalen hwn 

Efallai byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth tuag at eich Dreth Gyngor.

O 1 Ebrill, 2017, penderfynodd y Cyngor godi premiwm o 25% ar gartrefi gwag hirdymor a chartrefi sydd wedi’u dodrefnu ond heb eu meddiannu, e.e. cartrefi haf.

Yn dilyn adolygiad o’r flwyddyn gyfan lawn gyntaf o weithredu’r premiymau, mae’r Cyngor nawr wedi penderfynu, o 1 Ebrill 2019, i godi premiwm o 100% ar eiddo gwag hirdymor a 35% ar gartrefi sydd wedi’u dodrefnu ond heb eu meddiannu, e.e. cartrefi haf.

Mae yna nifer o eithriadau o’r premiwm a dylech gysylltu â Gwasanaeth Refeniw a Budd-Daliadau am ragor o wybodaeth.

Gweler y manylion cyswllt ar y tudalen hwn 

Dylech gysylltu â Gwasanaeth Refeniw a Budd-Daliadau.

Gweler y manylion cyswllt ar y tudalen hwn