Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Talu eich Treth Gyngor


Gallwch dalu Treth Gyngor mewn nifer o ffyrdd:

  • Debyd Uniongyrchol
  • Ffôn
  • Swyddfa Bost
  • PayPoint
  • Siec drwy’r post
  • Banc

Os yw hyn yn wir gall talu trwy Debyd Uniongyrchol fod yn hwylus gan mai dyma’r modd fwyaf syml a diogel i chwi dalu Bil y cyngor a dyma pam:

  • Mae’r rheolaeth yn aros gyda chwi.
  • Cewch sicrwydd arian yn ôl.
  • Fe’i telir yn fisol ac fe fydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn gwneud y gweddill.
  • Cewch anghofio sieciau, stampiau ac aros mewn ciw.
  • Mae yn llawer mwy diogel na thalu ag arian parod.
  • Mae’r dull hefyd yn llai costus ac yn fwy syml i’r cyngor ei weinyddu sydd felly yn mynd i fod yn fuddiol i bawb yn y gymuned.

Os oes gennych unrhyw ymholiad, mae gennych amser i archwilio rhywbeth nad ydych yn ei ddeall neu yn cytuno ag ef, ac o dan reolau y Gwarant Debyd Uniongyrchol fe delir yn ôl i’ch cyfrif unrhyw daliad a wnaethpwyd, oedd yn torri termau y cyfarwyddyd.

Sefydlu Debyd Uniongyrchol - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Gallwch wneud eich taliadau ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd Visa a Mastercard.

Talu ar-lein

Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth drwy ffonio 0300 123 0800 ar unrhyw ffôn 'touch-tone' a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ar sut i dalu.

Cofiwch bydd angen eich cerdyn credyd neu ddebyd ynghyd â chyfeirnod eich cyfrif neu anfoneb.

Bydd y gwasanaeth ar gael 24-awr, 7-diwrnod y wythnos. Codir tâl Gradd Cenedlaethol ar y rhif 0300 ar bob galwad yn ddifater os ydynt yn galw o linell ddaearol neu ffôn symudol.

Gallwch wneud taliad gyda cerdyn debyd/arian neu siec (taladwy i Swyddfa Bost Cyf) mewn unrhyw Swyddfa Bost.

Byddwch angen cerdyn talu sydd i’w gael oddiwrth y cyngor. Os oes côd bar ar eich bil, ewch â hwn gyda chi.

Gallwch wneud taliadau mewn arian parod yn unrhyw safle PayPoint.

Cysylltwch â’r cyngor am gerdyn talu.

I ddarganfod eich safle PayPoint agosaf ewch i safle we www.paypoint.co.uk

Gallwch wneud sieciau yn daladwy i ‘Cyngor Sir Ynys Môn’.

Wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod rhif eich cyfrif Treth Gyngor wedi’i ddyfynnu ar gefn y siec.

Fe ddylech bostio eich siec i Gyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7ZF

Mae manylion banc cyfredol y Cyngor ar gael ar gefn  Hysbysiad Treth y Cyngor.