Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Eithriadau'r Dreth Gyngor


Mae eithriad yn golygu efallai na fydd angen i chi dalu unrhyw Dreth Gyngor o gwbl.

Nid yw hyn yr un peth â gostyngiad. Mae gostyngiad yn golygu y gallech dalu llai o Dreth Gyngor, ond byddwch yn talu rhywfaint.

Gallai eiddo gael ei eithrio o’r Dreth Gyngor yn yr amgylchiadau canlynol:​

  • Mae angen gwaith atgyweirio strwythurol mawr arno, neu mae hyn ar waith neu wedi cael ei wneud. Rhaid i'r eiddo hefyd fod yn wag ac heb ei ddodrefnu i raddau helaeth (wedi'i eithrio am hyd at 12 mis).
  • Mae heb ei feddiannu ac yn eiddo i elusen (wedi’i eithrio am hyd at chwe mis).
  • Mae heb ei feddiannu a heb ei ddodrefnu i raddau helaeth (wedi’i eithrio am hyd at chwe mis).
  • Mae wedi’i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sydd yn y carchar.
  • Mae wedi’i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sydd yn yr ysbyty neu mewn cartref nyrsio neu ofal yn barhaol.
  • Mae heb ei feddiannu oherwydd marwolaeth y preswylydd/preswylwyr (wedi'u heithrio am hyd at 6 mis ar ôl profiant/llythyrau gweinyddu). DS Dim ond pan fo'r eiddo wedi bod yn wag ers dyddiad y farwolaeth y mae'r eithriad hwn yn gymwys.
  • Mae’r gyfraith yn gwahardd meddiannu’r eiddo.
  • Mae heb ei feddiannu ac wedi’i ddal ar gyfer gweinidog crefyddol.
  • Mae wedi’i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sy’n derbyn gofal mewn lle arall (heblaw am ysbyty, cartref nyrsio neu gartref gofal).
  • Mae wedi’i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sy’n byw ac yn rhoi gofal yn rhywle arall.
  • Mae heb ei feddiannu ac yn eiddo i fyfyriwr a phan oedd wedi’i feddiannu diwethaf, roedd yn annedd y myfyriwr hwnnw ac nid oedd unrhyw un arall ar wahân i fyfyrwyr yn byw yno.
  • Eiddo a adfeddiannwyd ac heb ei feddiannu​.
  • Mae’n neuadd breswyl yn bennaf ar gyfer llety myfyrwyr.
  • Mae wedi’i feddiannu gan fyfyriwr/fyfyrwyr yn unig. Mae hyn hefyd yn cynnwys gŵr, gwraig neu ddibynnydd myfyriwr nad yw'n Ddinesydd Prydeinig ac sy'n cael ei atal rhag gweithio neu hawlio budd-dal.
  • Mae’n eiddo’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn.
  • Mae wedi’i feddiannu gan aelodau o luoedd sy’n ymweld.
  • Mae heb ei feddiannu ac yn cael ei ddal gan ymddiriedolwr mewn methdaliad.
  • Mae’n llain carafán neu’n angorfa cwch heb ei meddiannu.
  • Mae’n cael ei feddiannu gan berson/bobl dan 18 oed yn unig.
  • Anecs heb ei feddiannu.
  • Mae wedi'i feddiannu ond gan berson/bobl sydd â nam meddyliol difrifol fel y datganwyd gan weithredwr meddygol ac sy'n derbyn budd-daliadau penodol.
  • Mae’n eiddo sydd wedi’i feddiannu gan ddiplomyddion penodol.
  • Mae’n rhandy neu’n rhan hunangynhwysol o eiddo sydd wedi’i feddiannu gan berthynas oedrannus neu anabl i’r preswylydd sy’n byw yng ngweddill yr eiddo.
  • Mae’n eiddo y mae pobl sy’n gadael gofal yn unig yn byw ynddo. 

Os yw eiddo'n cael ei feddiannu gan fyfyrwyr, pobl sy'n gadael gofal neu bobl â nam meddyliol difrifol yn unig neu unrhyw gyfuniad o'r rhain, gall eithriad fod yn berthnasol.​

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.