Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Benthyciadau Canol Tref


Amcan y Cynllun hwn gan Gyngor Sir Ynys Môn, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yw lleihau’r nifer o safleoedd ac adeiladau gwag sydd yn cael ei danddefnyddio neu le nad oes angen amdanynt bellach yng nghanol trefi.

Mae yn cynnig benthyciadau di-log er mwyn ailddatblygu neu ailwampio eiddo yng nghanol trefi Caergybi, Llangefni neu Amlwch. Mae’r pwyslais ar adnewyddu unedau preswyl presennol er mwyn eu gwneud yn addas i rywun fyw ynddynt eto neu eiddo masnachol sy’n addas ar gyfer eu troi’n unedau preswyl/masnach. Fodd bynnag, gellir rhoi ystyriaeth i unrhyw gynllun arall sy’n cynnig ffyrdd o wneud defnydd mwy cynaliadwy o safleoedd cyfredol yng nghanol y trefi.

Fe ddylai ymgeiswyr llenwi Ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb Cychwynnol (gweler y ffurflen isod). Unwaith y bydd y ffurflen wedi’i chyflwyno, bydd y Swyddog Tai Gwag yn cysylltu i drefnu dyddiad ac amser cyfleus er mwyn eich cyfarfod yn yr eiddo am ymweliad safle ac i drafod y prosiect a’r broses ymgeisio gyda chi mewn mwy o fanylder.

Noder na ellir gwarantu unrhyw gynnig o fenthyciad tan y byddwch wedi derbyn cadarnhad ffurfiol gan y Cyngor.

Benthyciadau Canol Tref

  • Mae’r math hwn o gymorth yn ddewisol
  • Y gwaith a ystyrir yn gymwys yw’r holl waith y tybir y bydd angen ei wneud er mwyn dod â’r eiddo yn ôl i ddefnydd
  • Os nad yw’r benthyciad yn talu am holl gost y gwaith, bydd angen tystiolaeth o gyllid digonol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn ymarferol yn ariannol
  • Lleiafrif lefel y benthyciad sydd ar gael yw £5,000 hyd at uchafswm o £250,000 ar gyfer pob ymgeisydd
  • Bydd benthyciadau’n cael eu diogelu fel pridiant cyntaf neu ail bridiant yn erbyn y teitl Cofrestrfa Tir
  • Bydd telerau ad-dalu benthyciad unrhyw gynllun a gymeradwyir yn cael ei gytuno ar sail achos wrth achos, gyda’r opsiwn i ad-dalu’r swm yn llawn ar ddiwedd y tymor (uchafswm o 5 mlynedd) neu trefnu taliadau yn ystod cyfnod y benthyciad
  • Gellir defnyddio opsiynau ariannu eraill ynghyd â’r benthyciad cyn belled â’u bod yn ariannu gwaith ar wahân
  • Bydd angen talu costau gweinyddol a chostau cyfreithiol
  • Bydd gwerth yr eiddo ac unrhyw fenthyciadau presennol yn ei erbyn yn cael eu hystyried
  • Bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw waith y byddwch yn ymgymryd ag ef cyn derbyn cadarnhad

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Tai Gwag:

Gwasanaethau Tai
Cyngor Sir Ynys Môn
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Ffôn: 01248 750057

Ebost: swyddogtaigwag@ynysmon.llyw.cymru

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.