Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rhentu Doeth Cymru (RhDC)


Cynllun cofrestru a thrwyddedu Landlordiaid yw Rhentu Doeth Cymru (RhDC).

rent smart wales

I gydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014, mae’n rhaid i bob landlord sydd ag eiddo yng Nghymru gofrestru, ac mae’n rhaid i landlordiaid sy’n hunan-reoli ac asiantau gael trwydded.

Mae gweithredu heb drwydded yn drosedd.

Mae’r grymoedd gorfodi dan y ddeddf bellach yn weithredol. Mae hyn yn golygu ei bod nawr yn drosedd peidio â chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

Os ydych chi’n landlord neu’n asiant a heb gydymffurfio eto, darganfyddwch beth i’w wneud nesaf.

Tenantiaid, i weld a yw eich landlord/asiant yn gofrestredig neu'n drwyddedig gweler safle we Rhentu Doeth Cymru.

Er mwyn cysylltu â RhDC, ewch i’r dudalen “cysylltwch â ni”, neu cysylltwch â nhw drwy ffonio 03000 133344.

Côd Ymarfer

Mae’r fideo yn cynnwys crynodeb byr o’r ddogfen Côd Ymarfer ac yn atgoffa deiliaid trwyddedau bod dyletswydd arnynt i lynu wrth y côd fel rhan o’u hamodau trwydded.