Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Tai Amlbreswyliaeth (HMO)


Tai Amlfeddiannaeth (HMO)

Mae tŷ amlfeddiannaeth (HMO) yn dŷ neu fflat sydd ag o leiaf tri thenant yn byw ynddo sy’n ffurfio mwy nag un aelwyd (un teulu, neu berson sengl), lle mae’r tenantiaid yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.

Er mwyn i eiddo fod yn dŷ amlfeddiannaeth, mae’n rhaid iddo gael ei ddefnyddio fel unig neu brif breswylfa'r deiliaid contract (tenantiaid), a dylai gael ei ddefnyddio i gartrefu tenantiaid yn unig neu’n bennaf. Mae eiddo sy’n cael ei osod i fyfyrwyr a gweithwyr mudol yn cael ei drin fel eu hunig neu brif breswylfa. Mae hyn yn wir hefyd am eiddo sy’n cael ei ddefnyddio fel lloches ddomestig.

Beth yw tŷ amlfeddiannaeth (HMO)?

Yn unol â Deddf Tai 2004, er mwyn i adeilad, neu ran o adeilad, ffurfio tŷ amlfeddiannaeth mae’n rhaid iddo ddod o fewn ystyr un o’r disgrifiadau canlynol:

  • adeilad lle mae dwy aelwyd neu fwy yn rhannu cyfleuster sylfaenol e.e. ystafell ymolchi, toiled neu gyfleusterau coginio
  • fflat lle mae dwy aelwyd neu fwy yn rhannu cyfleuster sylfaenol (gyda’r cyfan ohonynt wedi eu lleoli yn y fflat) e.e. ystafell ymolchi, toiled neu gyfleusterau coginio
  • adeilad sydd wedi cael ei drosi sydd ddim yn cynnwys fflatiau hunangynhwysol yn unig ac sy’n cael ei feddiannu gan bobl nad ydynt yn ffurfio un aelwyd
  • adeilad, neu ran o adeilad, sydd wedi cael ei drosi’n fflatiau hunangynhwysol lle nad yw’r gwaith trosi yn cwrdd, fel gofyn sylfaenol, â’r safon ofynnol o dan Reoliadau Adeiladu 1991, a lle mae llai na dwy ran o dair o’r fflatiau yn cael eu meddiannu gan y sawl sy’n berchen arnynt, a lle mae mwy na dau berson sy’n ffurfio mwy nag un aelwyd yn byw yn yr adeilad (mae’r math hwn o adeilad hefyd yn cael ei adnabod fel Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO) adran 257).

Beth yw un aelwyd?

Nid yw pobl nad ydynt i gyd yn aelodau’r o’r un teulu yn ffurfio un aelwyd. Mae rheoliadau’n bodoli sy’n disgrifio amgylchiadau penodol lle bydd pobl yn cael eu hystyried fel un aelwyd er nad ydynt yn perthyn i’w gilydd. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae llety’n cael ei ddarparu ar aelwyd person ar gyfer nani, au pair neu ofalwr.

Pa amodau y mae Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) yn ddarostyngedig iddynt?

Mae’n rhaid cael trwydded ar gyfer pob tŷ amlfeddiannaeth sydd â thri neu fwy o loriau a lle mae pum person neu fwy yn byw ynddynt sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Trwyddedu tai mewn amlfeddiannaeth (HMO): canllawiau i denantiaid | LLYW.CYMRU

Troi eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth (HMO)

Bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio os ydych yn ystyried newid defnydd annedd ar gyfer un teulu yn dŷ amlfeddiannaeth (HMO).

Mae cyfraith gynllunio’n defnyddio’r diffiniad a nodir yn adran 254 Deddf Tai 2004. Felly, mae angen caniatâd cynllunio ar wahân ar gyfer tai a rennir sydd â thri neu fwy o bobl yn byw ynddynt, neu eiddo sy’n cael ei drosi’n fflatiau neu’n fflatiau un ystafell. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Cynllunio@ynysmon.llyw.cymru

Asesiadau Risg Diogelwch Tân

Un o’ch ymrwymiadau cyfreithiol chi fel landlord HMO yw sicrhau bod yr holl eiddo trwyddedig, sy’n cynnwys HMO, yn cael asesiad risg tân gan y “person cyfrifol” er mwyn nodi unrhyw risgiau tân a lleihau’r risgiau hynny. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) (2005), a adwaenir yn gyffredinol fel y Gorchymyn Diogelwch Tân (FSO). 

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch hefyd i ddarparu tystiolaeth o’ch Tystysgrifau Diogelwch ar gyfer cynnal a chadw Systemau Larwm Tân yr Eiddo, archwiliadau Cyfnodol o Oleuadau Argyfwng a’r profion arnynt (os yn berthnasol) i’r awdurdod lleol. 

Pecyn Diogelwch Tân

Er mwyn cynorthwyo Deiliaid Trwyddedau a Rheolwyr, mae pecyn diogelwch tân ar gael isod ac mae’n cynnwys ffurflen Asesu Risg Tân a’r nodiadau canllaw cysylltiedig. Ceir hefyd nodiadau manwl ar osod, cynnal a chadw ac archwilio drysau tân. Yn ogystal, mae templed Asesiad Risg Tân ar gael i chi ei ddefnyddio.   

Gweld Y Gofrestr Llawn

Os dymunwch drefnu i weld y gofrestr lawn neu ofyn am gopïau ardystiedig ohoni yn unol â'ch hawl i wneud hynny o dan Ddeddf Tai 2004, anfonwch e-bost at ehealth@ynysmon.llyw.cymru. Ni chodir tâl i weld y gofrestr, ar yr amod na wneir unrhyw ymgais i'w chopïo. Gallwch wneud apwyntiad rhwng 9yb a 4yp yn ystod yr wythnos i edrych ar y gofrestr yn Swyddfeydd y Cyngor. Ni chodir tâl am hyn, ond ni fyddech yn gallu ei gopïo. Mae'n bwysig gwneud apwyntiad gan fod y gofrestr yn cael ei chadw'n ddiogel ac ni fydd ar gael os byddwch yn dod heb apwyntiad.

Mae enwau a chyfeiriadau deiliaid y drwydded wedi'u cynnwys fel y mae'n ofynnol eu cynnwys gan y rheoliadau. Mae enwau a chyfeiriadau perchnogion tai amlfeddiannaeth yn ddata personol ac felly nid ydynt yn cael eu datgelu.

Prynu Copi PDF O'r Gofrestr Lawn

Gellir anfon y gofrestr Tai Amlfeddiannaeth atoch fel fersiwn PDF o'r gofrestr trwy e-bost. Awdurdodir y cyngor yn Neddf Tai 2004 (adran 232) i adennill ei gostau cynhyrchu ac anfon copi o'r gofrestr Tai Amlfeddiannaeth, a'r gost yw £50.74.

Y rheswm pam rydym yn darparu’r Gofrestr i fformat PDF yw oherwydd bod y cyngor gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn 2017 ynghylch a datgelu enwau a chyfeiriadau landlordiaid fel a ganlyn:

“Gan mai dyletswydd y cyngor o dan Ddeddf Tai 2004 yw darparu copi o’r gofrestr (a fydd yn cynnwys enw a chyfeiriad pob deiliad trwydded yn rhinwedd y ddyletswydd honno) i geisydd, megis bod datgelu data personol yn gyfreithlon a ni fyddai'r egwyddor diogelu data gyntaf yn cael ei thorri. Fodd bynnag, dyma'r ffurf y darperir y gofrestr ynddi lle y gellir ei hystyried yn annheg ac wedyn yn torri'r Ddeddf Diogelu Data, megis cyhoeddi'r gofrestr lawn ar y rhyngrwyd. Y gofyniad o dan y Ddeddf Tai yw darparu copi o’r gofrestr ar gais yn unig, nid oes unrhyw rwymedigaeth i’w gwneud ar gael yn electronig gan y gallai ei chyhoeddi ar y rhyngrwyd fod yn annheg ac yn ormodol o ystyried y posibilrwydd y bydd nifer fawr o bobl yn gallu cael gafael arni’n rhwydd.”

Felly nid oes rheidrwydd ar y cyngor i sicrhau bod y wybodaeth ar gael i chi mewn fformat excel neu csv gan y gallai ffurflenni o'r fath ddatgelu fod yn groes i'r Ddeddf Diogelu Data gan ei fod yn gwneud yr enwau a'r cyfeiriadau yn rhy hygyrch.

Os penderfynwch eich bod am brynu copi PDF o’r gofrestr Tai Amlfeddiannaeth, anfonwch e-bost at ehealth@ynysmon.llyw.cymru a byddwn yn trefnu i aelod o staff gysylltu â chi dros y ffôn i gymryd y taliad cerdyn o £50.74.

Mae enwau a chyfeiriadau deiliaid y drwydded wedi'u cynnwys fel y mae'n ofynnol eu cynnwys gan y rheoliadau. Mae enwau a chyfeiriadau perchnogion Tai Amlfeddiannaeth yn ddata personol ac felly nid ydynt yn cael eu datgelu.

Gwybodaeth sydd wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae ceisiadau i weld y gofrestr Tai Amlfeddiannaeth lawn wedi'u heithrio rhag cael eu datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, oherwydd rhwymedigaethau'r cyngor o dan adran 232 o Ddeddf Tai 2004 i rywun a ofynnodd am gopi o'r Gofrestr Tai Amlfeddiannaeth ac a dalodd y ffi ofynnol.

Byddai'r cyngor felly'n cynghori eich bod yn e-bostio ehealth@ynysmon.llyw.cymru i drefnu gweld y gofrestr neu i ofyn am gopïau ardystiedig o'r gofrestr yn unol â'ch hawl i wneud hynny o dan Ddeddf Tai 2004. Y ffi ofynnol am gopi o’r gofrestr yw £50.74, er na chodir tâl am weld y gofrestr, ar yr amod na wneir unrhyw ymgais i'w chopïo.

Yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gan y cyngor ddyletswydd i ddarparu cyngor a chymorth i chi, cyn belled ag y bo’n rhesymol i wneud hynny. Felly byddwn yn eich cynghori nad yw'r gofrestr Tai Amlfeddiannaeth sy’n cynnwys cyfeiriad y safle, dyddiad cyhoeddi a dyddiad dod i ben ond gyda'r data personol fel enw'r trwyddedai wedi'i gynnwys ar gael.

Am fwy o fanylion am Landlordiaid gweler y linc yma

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.