Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Sut i dwyn gontract meddiannaeth i ben


Rhaid i denantiaid rhoi o leiaf 28 diwrnod clir o rybudd i derfynu eu contract meddiannaeth.

  • Rhaid i’r 28 diwrnod yma ddod i ben ar ddiwedd y cyfnod rhentu llawn yn unol â’r gontract meddiannaeth.
    Sylwer: Os ydych yn gwneud camgymeriad wrth lenwi y ffurflen, byddwn yn eich hysbysu ynghylch y dyddiad terfyn cywir yn ysgrifenedig.
  • Os yw’n gontract meddiannaeth ar y cyd, bydd y rhybudd yn dod â’r gontract cyfan i ben hyd yn oed os nad yw’r cyfan o’r cyd-deiliwyr contract yn ei arwyddo. Mae hyn yn golygu y bydd raid i bawb sy’n byw yn yr eiddo adael erbyn y daw’r denantiaeth i ben.
  • Os ydych yn fodlon caniatau i ddarpar deiliwyr contract ddod i weld yr eiddo yn ystod y cyfnod rhybudd (gyda Swyddog Tai), bydd gennych hawl i dderbyn talebau siopa gwerth £60 pan fyddwch yn rhoi’r goriadau yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth. Nodwch, os gwelwch yn dda, os oes gennych unrhyw ddyledion tai (ôl-ddyledion rhent, tâl am waith trwsio, costau Llys), bydd y taliad yn cael ei roi yn erbyn y dyledion. 

I derfynu'ch contract meddiannaeth, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein. (Rhaid i chi gofrestru os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.)