Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Paneli solar ar dai cyngor


Ar wahân i’r effaith a gaiff o ran gostwng ôl-troed carbon eich aelwyd gan dunelli o allyriadau nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn, gall unedau solar ostwng eich bil trydan yn ddramatig oherwydd wrth gynhyrchu eich trydan eich hun o’r paneli solar, byddwch yn gorfod prynu llai o drydan gan eich cyflenwr ynni.

Oherwydd fod systemau PV solar ond yn cynhyrchu trydan pan mae golau haul arnynt, nid ydynt yn cynhyrchu trydan yn ystod y nos.

Yn ystod y nos, byddwch angen ffynhonnell arall, megis trydan o’r grid.

Mae faint o arian y byddwch yn ei arbed yn dibynnu ar yr ynni y byddwch yn ei ddefnyddio’n gyffredinol a sut a pha bryd y byddwch yn defnyddio trydan.

Byddwch yn gwneud mwy o arbedion os byddwch yn defnyddio peiriannau golchi a pheiriannau sychu ac ati yn ystod y dydd neu’n eu rhaglennu i ddod ymlaen os byddwch allan.

Cofiwch bob amser bod yr amcangyfrif o’r arbedion yn seiliedig ar brisiau cyfredol trydan ond byddant yn codi’n uniongyrchol gyda’r cynnydd disgwyliedig mewn prisiau ynni yn y dyfodol. 

Pan mae’r system yn cynhyrchu trydan sydd ar gael am ddim, mae’n sicrhau yn awtomatig eich bod yn defnyddio’r trydan hwnnw yn gyntaf.

Os ydych chi’n defnyddio mwy o drydan nag y mae’r paneli yn ei gynhyrchu, byddwch yn awtomatig yn defnyddio’r trydan ychwanegol yr ydych ei angen gan eich cyflenwr arferol.

Na.

Am resymau diogelwch, mae’r unedau solar yn cau i lawr hefyd os bydd toriad yn y cyflenwad trydan arferol. 

Mae systemau ffotofoltaïg solar yn dibynnu ar olau haul a phelydrau uwch fioled, nid gwres.

Felly, er bod llai o oriau golau haul yn y gaeaf, nid yw’r newid yn y tymhorau yn cael effaith ar faint o drydan sy’n cael ei gynhyrchu. Fodd bynnag, byddwch yn elwa ar fwy o oriau o olau haul yn ystod yr haf.