Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Llawr y Dref - fflatiau stiwdio


Mae tenantiaid cyntaf wedi cael eu croesawu i Llawr Y Dref

SofaMae Cyngor Sir Ynys Môn yn falch o allu cynnig cyfle i unigolion a chyplau dros 60 oed i wneud cais am lety yn Llawr y Dref, Llangefni sydd newydd ei ailwampio.

Mae Llawr y Dref wedi ei ailwampio yn ddiweddar yn dilyn buddsoddiad sylweddol. Mae’r hen fflatiau a oedd wedi dyddio wedi eu trawsnewid i fod yn fflatiau cyfforddus, modern a thrwsiadus.

Ers y lansiad, mae dros hanner y fflatiau hyn wedi eu gosod. Fodd bynnag, mae llond llaw o gyfleoedd ar gael i bobl eraill ymuno â’r gymuned hon sydd newydd ei ffurfio.

Mae Llawr y Dref mewn lleoliad delfrydol, mae nifer o gyfleusterau ar gael ar eich stepen drws.

Mae’r fflatiau yn rhesymol iawn. Dim ond £86.14 yr wythnos yw’r rhent a hynny yn cynnwys costau gwasanaethau.

Pam rhentu gan Gyngor Sir Ynys Môn?

  • Bydd gennych fynediad at ein Swyddogion Cynhwysiant Ariannol arbenigol a fydd yn gallu eich helpu chi i arbed arian ar eich costau nwy, trydan a dŵr
  • Byddwch yn gallu ymuno â’n tîm cyfranogiad tenantiaid hynod lwyddiannus a gwneud ffrindiau newydd
  • Bydd gennych swyddog Rheoli Tai ymroddedig a fydd yn sicrhau eich bod yn mwynhau eich cartref mewn modd heddychlon
  • Bydd gwaith unrhyw trwsio angenrheidiol yn cael ei wneud gan ein gweithlu medrus. Dim angen dod o hyd i arian ychwanegol os bydd pethau’n mynd o’i le
  • Cost rhent fforddiadwy iawn 

BlodauMeddai Aelod Portffolio Tai Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Alun Mummery: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r gwasanaeth gan ein bod ar hyn o bryd yn ceisio cynyddu a gwella ein stoc tai fel rhan o’n cynllun 30 mlynedd uchelgeisiol.” 

“Prif nod y cynllun yw helpu trigolion Ynys Môn a hoffwn ddiolch i staff y gwasanaeth a’n partneriaid am eu gwaith caled hyd yma wrth ein cynorthwyo ni i gyflawni’r nod hwn.” 

Ychwanegodd Ned Michael, Pennaeth y Gwasanaethau Tai, “Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn un o 11 Awdurdod yng Nghymru sydd wedi cadw eu stoc tai ac rydym yn cydnabod yr angen am dai fforddiadwy i’w rhentu.” 

Mae Llawr y Dref wedi ei ailwampio yn llawn yn ddiweddar,  bydd tenantiaid yn elwa o le byw agored, gwres nwy canolog, drysau patio sy’n agor allan ar erddi cymunedol nad oes gwaith gofalu amdanynt, balconïau juliet ar gyfer fflatiau llawr cyntaf a lifft i’r llawr cyntaf.” 

Pobl yn gwenu.

Mae’r gwaith hwn hefyd wedi ein galluogi ni i sicrhau bod yr adeilad yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae’n cynnig mynediad i sgwteri a lle i’w storio. Mae cyfleusterau cymunedol hefyd bellach wedi eu cynnwys yn y pecyn sy’n cynnwys gerddi, tŷ golchi ar y safle a lolfa ar gyfer cymdeithasu.” 

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, neu i drefnu cael gweld y fflatiau, cysylltwch â’r Gwasanaethau Tai un ai drwy e-bost ADRANTAI@ynysmon.llyw.cymru neu drwy ffonio 01248 752200.

Gwyliwch ein fideo hyrwyddo

Rydym hefyd wedi paratoi oriel o ddelweddau, y gellir eu gweld isod.