Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hawl i brynu


Mae'r hawl sydd gan denantiaid cynghorau a chymdeithasau tai i brynu neu gaffael eu cartref wedi dod i ben ar 26 Ionawr, 2019.

Ffyrdd eraill o brynu cartref

Mae’n bosibl y bydd mathau eraill o gymorth ar gael i’ch helpu i brynu cartref. Siaradwch â’ch landlord neu ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth

Cyngor ariannol a chyfreithiol

Mae prynu cartref yn ymrwymiad mawr. Mae costau yn ogystal â buddion i berchentyaeth. Mae’r costau’n cynnwys: pris y cartref (ar ôl tynnu’r gostyngiad priodol), costau cyfreithiol, costau arolwg, ac o bosibl rhai trethi, er enghraifft Treth Trafodiadau Tir. Ar ôl ei brynu, bydd taliadau misol am y dreth gyngor, cyfraddau dŵr, biliau ynni, a morgais (os oes un gennych). Bydd costau parhaus eraill hefyd, sydd wedi’u cynnwys yn eich rhent ar hyn o bryd; er enghraifft, atgyweiriadau, cynnal a chadw ac yswiriant adeiladau. Fel perchennog y cartref, bydd rhaid ichi dalu am y rhain. Cofiwch hefyd, y gallai cyfraddau llog morgeisi godi ar ryw adeg, a gallai eich cartref gael ei adfeddiannu os nad ydych chi’n gallu parhau i dalu ad-daliadau’r morgais yn y dyfodol.

Mae’n bwysig cael cyngor proffesiynol, er enghraifft ar faterion ariannol, i gael gwybod a yw eich amgylchiadau penodol yn addas ar gyfer prynu cartref, ac i ystyried yr holl gostau sy’n ymwneud â’r dewisiadau sydd ar gael. Dylech hefyd ystyried cael cyngor cyfreithiol er mwyn cael help gyda’r broses o brynu cartref.

Mae’n bosibl y bydd sefydliadau fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gallu esbonio’r ffordd orau i fynd ati. Mae cael cyngor annibynnol proffesiynol yn arbennig o bwysig os bydd rhywrai wedi dod atoch a chynnig eich helpu i brynu eich cartref (efallai yn gyfnewid am drosglwyddo perchnogaeth ar y cartref iddynt yn nes ymlaen) neu gynnig yngor yn gyfnewid am ffi. Mae’n debygol y byddan nhw’n codi tâl am eu gwasanaethau, a gallen nhw fod yn cynnig telerau sy’n well iddyn nhw nag ichi.

Fan leiaf, dylech bob amser gael gwybod yn y lle cyntaf a oes unrhyw gostau neu amodau ynghlwm wrth y cynnig, a siarad â’ch landlord cyn llofnodi unrhyw gynnig.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn cynnig gwasanaeth diduedd ac am ddim i helpu pobl i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â rheoli eu harian.

Gallwch gael gwybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan, neu gallwch eu ffonio ar 0300 500 5000.