Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun cefnogaeth tasgmon


Mae’r Cynllun Tasgmon yn gynllun cefnogaeth gan yr AdranDai er mwyn cefnogi tenantiaid y cyngor.

Rydych yn gymwys i’r gefnogaeth hon os ydych un ai:

  • yn hŷn na 70 oed
  • yn byw mewn stad tai gwarchod
  • wedi cofrestru yn anabl (yn derbyn gofal graddfa uwch, lwfans symudedd byw i’r anabl neu daliadau annibyniaethpersonol uwch)

Gyda beth gall y tasgmon helpu?

Unrhywwaith nad yw’n cymryd mwy o amser na’r oriau perthnasol. Gallai rhai enghreifftiau gynnwys:

  • gosod polion i hongian llenni
  • gosod set toiled
  • gosod silffoedd
  • hongian lluniau
  • rhoi dodrefn at ei gilyddneu eu tynnu o’i gilydd
  • gwaith paentio bach

Gallwch drefnu apwyntiad argyfer y ‘Cynllun Cefnogaeth Tasgmon’ yn yr un ffordd ag ybyddech yn trefnu i wneud gwaithtrwsio:

  • 08081685652
  • trwsiotai@ynysmon.llyw.cymru

    Byddwn yn trafod mewn mwy o fanylder â chi pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad Tasgmon.

    Bydd y cyngor yn darparu llafuryn unig.

    Fodd bynnag, fel rheol bydd einstaff sy’n gwneud y gwaith yn cario pethau megis sgriwiau, hoelion, plygiau wal, seliwr ac ati.

    Byddant hefyd yn cario tŵls efo nhwer mwyn gallu gwneud y gwaith. Eich cyfrifoldeb chi fydd darparu’r deunyddiau megis y silffoedd, cabinet, sedd toiled,polion i hongian llenni, paent ac ati.

    Mae hwn am ddim i denantiaid cymwys y cyngor.

    Gallwch un ai ddefnyddio’r cynllun cefnogaeth hwn unwaith y flwyddyn am gyfnod o 4 awr neu ddwywaith y flwyddyn am gyfnod o 2 awr.

    Bydd eich apwyntiad tasgmon yn cael ei gyflawni gan un o’n gweithwyr cynnal a chadw cymwys.

    Byddwch yn gallu adnabod einstaff drwy eu gwisg, cerbydau a bathodynnau adnabod sydd i gyd yn cynnwys logo'r cyngor.

    Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am gael gweld eu cerdyn adnabod neu ffoniwch08081685652 am gadarnhad er mwyn tawelu eich meddwl.

    Peidiwch â gadael unrhyw un yr ydych yn amheus ohonynt i mewn i’ch cartref.