Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Deddf Rhentu Cartrefi Cymru


Beth yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?

Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi gyda’r nod o wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiaid i rhentu cartrefi yng Nghymru.

Mae’n cyflwyno nifer o newidiadau i ddeddfau tenantiaeth ac mae’n berthnasol i’r sector rhent cymdeithasol a phreifat.

Pryd fydd yn digwydd?

Bydd hyn yn digwydd o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen.

Beth yw pwrpas y Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?

  • Symleiddo cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhentu Cymru.
  • Cynnig fwy o ddiogwelwch a sicrwydd i denantiad ac landlordiaid.

Pwy fydd hyn yn effeithio? 

  • Pob landlord – preifat a chymdeithasol.
  • Pob tenant – preifat a chymdeithasol.

Pam fod hyn yn ddigwydd?

I wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiad i rentu cartrefi yn Nghymru.

Beth sydd yn newid?

  • Termonoleg newydd, er enghraifft 'cytundeb tenantiaeth' fel 'contract meddiannaeth' â tenant yn cael eu adnabod fel 'deiliad contract'.
  • Contract meddiannaeth yn cymrud lle cytundeb tenantiaeth.
  • Mwy o sicrwydd – 6 mis o rybudd ar yr amod nad yw’r contract yn cael ei dorri.
  • Rhaid bob cartref fod yn ddiogel – er engraifft larymau mwg sy’n gweithio a phrofion diogelwch trydanol.
  • Dulliau teg a chyson i ymddygiad gwrth gymdeithasol.
  • Mwy o hawliau olyniaeth i  basio eich cartref ymlaen.
  • Deiliad Contract yn gallu cael ei ychwanegu neu dynnu heb gorfod dod â contract i ben.
  • Landlordiad yn gallu adfeddiannu eiddo sydd wedi ei adael heb orchymun llys.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi fel tenant?

  • Symleiddo a gwella hawliau chi fel tenant.
  • Gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi yng Nghymru.

Sut fydd y ddeddf yn effeithio arnoch chi?

  • Bydd tenanitiad presennol yn derbyn contact o fewn 6 mis o 1 Rhagfyr, fydd yn cymryd lle eich cytundeb tenantiaeth.
  • Bydd tenantiaid newydd o 1 Rhagfyr yn arwyddo contract yn y ffordd arferol ac o fewn 14 diwrnod.
  • Y contract yn cynnig fwy o ddiogelwch a sicrwydd i chi.

Ydi cydymffurfio hefo’r ddeddf yma yn mynd i gostio arian i mi neu effeithio ar fy rhent?

Na, ni fydd y ddeddf yma yn effeithio ar eich rhent nac yn costio dim i chi.

Fydda i angen gwneud unrhyw beth? 

Yr unig beth fyddwch angen gwneud yw darllen eich contact a chyfarwyddro eich hunain ar eich hawliau a cyfrifoldebau.

Mae’r newidiadau yma wedi cael eu cynllunio gan Lywodraeth Cymru ers peth amser ac maent wedi cael eu craffu a’u cefnogi gan sefydliadau tenantiaid fel TPAS Cymru a Shelter Cymru.

Dweud eich dweud

Mae gan TPAS Cymru arolwg gan Lywodraeth Cymru sy’n eich galluogi i rannu eich gwybodaeth gyfredol am y gyfraith newydd a’r hyn y gall y newidiadau ei olygu i chi.

Daw'r arolwg i ben ar 19 Hydref.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.