Caiff y SLCT ei chefnogi bob blwyddyn gan Gynllun Gweithredu a ddatblygir i gefnogi chwe amcan allweddol y SLCT ac yn unol â chynllun busnes y Cyfrif Refeniw Tai.
Yn y Cynllun Gweithredu, ceir manylion am y gwaith y bwriedir ei wneud mewn cysylltiad â chyfranogiad tenantiaid.
Caiff y SLCT a’r Cynllun Gweithredu eu monitro’n chwarterol gan Lais Tenantiaid a Swyddogion Môn (MTOV), sef grŵp ffocws ac arno denantiaid a swyddogion tai. Eu swyddogaeth yw:
- Monitro a gwerthuso’r cynnydd a wnaed o ran y SLCT a
- Chytuno ar y blaenoriaethau o ran gweithgareddau cyfranogiad tenantiaid a neilltuo adnoddau er mwyn “sicrhau gwerth am arian a gwelliant parhaus”
I fonitro’r strategaeth, mae’r grŵp yn edrych ar yr adroddiadau cynnydd a ddatblygir gan y Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid mewn perthynas â’r Cynllun Gweithredu; mae hyn yn cynnwys trafod arfer dda ac awgrymu gwelliannau.
Mae’r grŵp hefyd yn cefnogi hyblygrwydd y cynllun gweithredu drwy gytuno ar flaenoriaethau ar gyfer gweithgareddau cyfranogiad tenantiaid yn unol ag anghenion y busnes sy’n newid.
Caiff cynnydd o ran y strategaeth ei monitro unwaith y flwyddyn yn y Pwyllgor Sgriwtini Tai lle bydd y Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid yn cyflwyno adroddiad gan ddefnyddio’r wybodaeth yn yr adroddiadau chwarterol ac yn y cofnodion MTOV.