Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnig gwasanaeth difa pla ar gyfer eiddo domestig a masnachol.
Mae gennym dîm cyfeillgar o staff cymwys a phrofiadol i’ch helpu chi i gael gwared â phla yn ddiogel, yn gyflym, yn ddi-lol ac yn ddi-boen
Cysylltwch gyda ni heddiw am gyngor proffesiynol neu i drefnu eich apwyntiad, defnyddiwch y ffurflen ar-lein.
Mae’r gwasanaeth rheoli pla wedi cael ei atal dros dro
Rydym yn delio gyda:
- llygod mawr
- llygod bach
- chwain
- gwenyn meirch
- morgrug
- pryfed heidiog
- chwilod duon
- llau gwely
Mae rhestr o brisiau ar gael gyda phob ffioedd a thaliadau'r Cyngor.
Gwenyn
Nid ydym yn delio hefo gwenyn. Gweler y dolenni ar y dudalen hon am gyngor a rhifau ffôn pobl leol sy’n cadw gwenyn (mae rhai o wybodaeth ar gael yn Saesneg yn unig).
Sut fath o ddifrod allai pla achosi i’ch busnes?
- Gallai ddifrodi eich stoc a’i wneud yn ddi-werth.
- Gall ddifrodi ffabrig yr adeilad (mewn rhai achosion, mae Llygod Mawr wedi cnoi drwy geblau trydan gan achosi tân!).
- Gallai eich cwsmeriaid golli ffydd ynddoch a gallai wneud drwg i’ch enw da oni bai eich bod yn delio gyda’r broblem yn gyflym.
Dyma rai enghreifftiau yn unig o’r modd y gall pla wneud drwg i’ch busnes ac yn yr hinsawdd sydd ohoni, fedr neb fforddio colledion o’r math yma.
Pam ddylech chi ein defnyddio ni
Gyda dros 24 blynedd o brofiad, mae ein staff cymwys a chyfeillgar ond yn rhy barod i helpu eich busnes i barhau i fod yn un di-bla!!
Yng ngwasanaeth rheoli pla Cyngor Sir Ynys Môn, mae gennym ateb i unrhyw broblem sydd gennych oherwydd pla.
Trefnwch apwyntiad
I drefnu apwyntiad, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.
Cyngor rheoli plâu
Am gyngor ar ddelio â gwahanol fathau o blâu, gweler y wefan British Pest Control Association (yn Saesneg yn unig).
Am wybodaeth ynghylch moch daear, tyrchod daear, llwynogod, gwiwerod a chwningod, cysylltwch gyda Thîm Rheoli Bywyd Gwyllt Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar 0845 6014523.