Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyfyngiadau cŵn ar draethau Môn


Gwaherddir cŵn rhag mynd ar rannau o saith o draethau yn Ynys Môn.

Mae arwyddion ar yr holl draethau gyda mapiau arnynt yn dangos lle mae’r gwaharddiad ac yn nodi’r mannau hynny lle gall cŵn a’u perchenogion fwynhau’r traeth.

Ym mha draethau y mae’r cyfyngiadau’n berthnasol?

  • Biwmares
  • Benllech
  • Cemaes
  • Llanddwyn, Niwbwrch
  • Llanddona
  • Porth Dafarch
  • Trearddur

Beth os wyf eisiau mynd â’r ci am dro ar y promenad?

Yn y Benllech, Cemaes a Threarddur mae’n rhaid cadw cwn ar dennyn ar y promenadau.

Pa bryd mae’r cyfyngiadau mewn grym?

Mae’r cyfyngiadau hyn mewn grym o 1 Mai i 30 Medi bob blwyddyn.

A oes cyfyngiadau eraill ar gŵn ar draethau?

Mae perchenogion cwn yn cyflawni trosedd dan Orchymyn Cyngor Sir Ynys Môn (Cŵn yn Baeddu Tiroedd) 1997 trwy beidio â chlirio i fyny ar ôl eu cwn mewn mannau penodol, sy’n cynnwys traethau.

Oni fyddwch yn clirio i fyny ar ôl eich ci efallai y byddwch yn agored i ddirwy sefydlog o £75 neu erlyniad yn y llys a allai olygu dirwy o hyd at £1000.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n warden cŵn.

Atodir hefyd mapiau sy’n dangos ble nad oes mynediad i gŵn ar draethau Benllech, Cemaes, Llanddona a Threarddur. Cyflwynir y mapiau fel ffeiliau PDF.