Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ffioedd a phrisiau yn seiliedig a risg


Mae’r drefn Caniatâd Amgylcheddol yn gweithredu’n unol â’r egwyddor “Y llygrwr sy’n talu” ac mae’r gost o reoleiddio sefydliadau a ganiatawyd yn cael ei chynnwys mewn ffi gynnal flynyddol a delir gan y gweithredwr i’r Awdurdod Lleol.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu ar y ffioedd bob blwyddyn (yn dilyn cyfnod o ymgynghori) ac yn eu cyhoeddi ar ei gwefan.

Bob blwyddyn, rhaid i’r Awdurdod Lleol ddefnyddio dull asesu risg (a luniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru) i benderfynu ar lefel yr ymdrech reoleiddio (Uchel, Canolig neu Isel) a aseiniwyd i bob proses ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Y categori risg a aseinir i bob process sy’n penderfynu ar lefel y ffioedd cynnal y bydd raid eu talu a’r nifer debygol o archwiliadau a wneir yn ystod y flwyddyn i ddod.  Trwy gyflwyno dull o’r fath, gobeithir y byddai: lleihad yn y baich rheoleiddiol ar gyfer busnesau (trwy dargedu adnoddau at y pethau hynny sy’n peri’r risg fwyaf), anogaeth ar gyfer gwelliant mewn perfformiad amgylcheddol a gwelliant mewn cysondeb o safbwynt rheoleiddio.

Rhennir yr asesiadau risg yn ddwy ran:-

  1. Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA), sy’n ymwneud ag effeithiau amgylcheddol posibl y broses o safbwynt ei math, lefel y gwaith uwchraddio i gwrdd â gofynion rheoleiddiol, a’i lleoliad, a
  2. Gwerthusiad o Berfformiad Gweithredwr (GBG) sy’n dweud pa mor dda mae’r gweithredwr yn rheoli’r effeithiau a gaiff y broses o bosib ar yr amgylchedd.

Rhaglen archwiliad

Mae angen archwiliadau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gydag amodau’r drwydded ac er mwyn sicrhau na fu unrhyw newidiadau i’r sefydliad a ganiatawyd neu’r cyfarpar symudol.

Mae angen archwiliadau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gydag amodau’r drwydded ac er mwyn sicrhau na fu unrhyw newidiadau i’r sefydliad a ganiatawyd neu’r cyfarpar symudol.

Rhaid i’r Awdurdod Lleol ddatblygu rhaglen archwilio flynyddol ac mae hon yn seiliedig ar y dull asesu risg.  Yn achos caniatadau safonol, byddai risg uchel yn golygu dau archwiliad llawn bob blwyddyn, byddai risg canolig yn golygu un archwiliad llawn ac un archwiliad siecio a byddai risg isel yn golygu un archwiliad llawn.
 
Ystyrir bod y risg sydd yn gysylltiedig â rhai sefydliadau’n is na’r risg safonol ac er bod dulliau asesu risg tebyg yn berthnasol iddynt, mae’r ffioedd ac amlder yr archwiliadau’n is.  Yn achos  llosgyddion gwastraff olew bychan, sychlanhawyr, gorsafoedd petrol ac ‘odorisers’ nwy, byddid yn archwilio pob tair blynedd yn achos y categori risg isel a byddid yn archwilio pob dwy flynedd yn achos ‘refinishers’ cerbydau a chyfarpar symudol.

Er mwyn sicrhau gwerth gorau, bydd y Swyddog Petroliwm fel arfer yn archwilio Gorsafoedd Petrol ym Môn yn ystod yr archwiliadau trwyddedu blynyddol.

Byddai archwiliad fel arfer yn golygu:

  • adolygu’r dogfennau priodol cyn yr archwiliad gan gynnwys adroddiadau blaenorol, data monitro  ac asesiadau risg
  • cyfarfod yn swyddfa’r safle yn cadarnhau pwrpas yr archwiliad, yn nodi’r newidiadau ac unrhyw weithredu sy’n parhau i fod angen sylw o archwiliadau blaenorol
  • cerdded o gwmpas y safle
  • adolygu cofnodiadau perthnasol y safle gan gynnwys cofnodiadau archwilio neu gynnal a chadw
  • adolygiad o’r asesiad risg am y 12 mis nesaf
  • nodi camau y bydd angen i’r gweithredwr a’r Awdurdod Lleol eu cymryd yn dilyn yr archwiliad
  • darparu atborth ar lafar ar ddiwedd y cyfarfod a darparu cadarnhad ar bapur i ddilyn

Ac eithrio yn achos Gorsafoedd Petrol, caiff archwiliadau arferol eu trefnu fel rheol drwy wneud apwyntiad ymlaen llaw.