Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Sut i delio gyda niwsans statudol


Os ydych yn cael eich poeni gan niwsans statudol - pa gamau ddylech eu cymryd?

Nid yw’r canlynol ond yn ddyfyniad cryno a syml o’r gyfraith a sut byddai modd i chi gael cymorth i atal niwsans rhag digwydd. Gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth trwy gysylltu gyda’r Adran Iechyd yr Amgylchedd.

Yn y lle cyntaf y peth gorau i’w wneud yw trafod y broblem gyda’r sawl sy’n gyfrifol am y niwsans.  Efallai nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn amharu arnoch a phobl eraill ac efallai y byddant yn fodlon ei atal.  Gwnewch nodyn o ddyddiad eich trafodaeth gyda’r sawl sy’n gyfrifol am y niwsans a’r hyn a ddywedwyd.  Os yw’r styrbans a achosir gan y niwsans yn debygol o fod yn eang, efallai y byddai o fudd cysylltu gyda chymdogion eraill sydd, efallai’n cael eu heffeithio gan y niwsans hefyd.

Os, ar ôl eich sgwrs, bydd y niwsans yn parhau, dylech ysgrifennu at y sawl sy’n gyfrifol am achosi’r niwsans gan ddweud eich bod yn ystyried ei fod yn gyfrifol am greu niwsans ac na fydd gennych, oni bai y bydd yn rhoi gorau iddi, ddim opsiwn ond cyflwyno cwyn i’r awdurdod lleol neu’n uniongyrchol i’r Llys Ynadon.

Os yw niwsans statudol yn cael effaith ar sawl aelwyd, efallai y byddai o fudd i aelod o bob aelwyd arwyddo’r llythyr.  Fel arall, dylai pob aelwyd ystyried ysgrifennu ar wahân.  Er nad oes rhaid i chi gymryd y camau uchod yn ôl y gyfraith, mae’n debygol o gryfhau eich achos os gellwch ddangos eich bod wedi ymddwyn yn rhesymol ac wedi rhoi cyfle i’r sawl sy’n gyfrifol am y niwsans gywiro’r sefyllfa cyn i chi droi at gamau cyfreithiol.  Ni ddylid anfon llythyrau dienw nac ymosodol oherwydd eu bod yn debygol o lesteirio eich achos yn hytrach na’i gynorthwyo.

Gwnewch nodyn o ddyddiad ac amseroedd y niwsans (yn achos niwsans sŵn, dylech cymharu’r sŵn gyda synau eraill a styrbans a achosir ganddo e.e. gwich uchel o lif - yn methu cynnal sgwrs).  Dylech ysgrifennu unrhyw nodiadau cyn gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad.  Efallai y bydd rhaid i chi gyflwyno nodiadau o’r fath ar lw neu mewn Llys felly dylent fod yn syml ac yn ddealladwy.

Os ydych yn credu y gallai Swyddog Amgylcheddol eich cynorthwyo, cysylltwch â’r Adran trwy lythyr gan amlinellu manylion y gwyn gyda nodiadau unrhyw ddigwyddiadau yr ydych wedi eu cofnodi.  Dylech ddweud wrth yr Adran pa bryd ac yn lle y gellid cysylltu â chi yn ystod y dydd.  Bydd y swyddog wedyn yn trafod y niwsans ac fel arfer yn dod i’ch gweld.

Bydd y Cyngor yn cyflwyno Rhybudd Atal os yw’n fodlon bod niwsans statudol yn digwydd. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, cyn y gellid cyflwyno’r Rhybudd Atal, bydd angen i’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd dystio i’r niwsans drosto’i hun.

Efallai y byddwch yn dymuno cwyno’n unongyrchol i’r Llys Ynadon neu gymryd camau sifil.

Gall achos sifil o’r fath fod yn ddrud iawn ac mae’n werth gofyn am gyngor Cyfreithiwr.  Gellir cael cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim efallai neu am gost is dan y cynllun cyngor a chymorth cyfreithiol.  Gall y Cyfreithiwr hefyd rhoi cyngor ynghylch y posibilrwydd o hawlio cyngor cyfreithiol ar gyfer yr achos.  Gall Cyngor ar Bopeth hefyd eich cynorthwyo i gael cyngor cyfreithiol. 

    1. Rhaid i chi roi gwybod i’r sawl sy’n gyfrifol am y niwsans a rhoi Rhybudd o Fwriad iddynt, gan nodi’n union yr hyn yr ydych yn cwyno amdano.  Rhaid i chi roi mwy na 3 diwrnod o rybudd iddynt ynghylch pa bryd yr ydych yn bwriadu cysylltu â’r Llys.
    2. Cysylltwch â Chlerc y Llys a dywedwch wrtho eich bod yn dymuno gwneud cwyn dan Adran 82 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’n debyg y bydd yn gwneud apwyntiad i chi ei weld fel y gall esbonio’r drefn a gofyn i chi gyflwyno’r dystiolaeth fel sydd wedi ei ddisgrifio uchod i ddangos i’r Ynadon bod gennych achos dilys.

    Os yw’r Ynadon yn penderfynu bod gennych achos dilys (nid oes rhaid i chi brofi eich achos ar hyn o bryd), cyflwynir gwys i’r sawl sy’n gyfrifol am y niwsans, a fydd yn nodi dyddiad ac amser y gwrandawiad yn y Llys. Mae’n debyg y bydd yn dod i’r Llys i amddiffyn ei hun a gwneud gwrthgyhuddiadau.Nid oes rhaid i chi gael Cyfreithiwr i’ch cynrychioli yn y gwrandawiad, er y gallwch wneud hynny os ydych yn dymuno.

    Os byddwch yn cyflwyno eich achos eich hun, bydd Clerc y Llys yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi neu mi fedrwch gysylltu gyda Chyngor ar Bopeth a fedr rhoi cymorth i chi efallai. Os yw’r Ynadon yn penderfynu o’ch plaid, bydd y Llys yn gwneud Gorchymyn yn dweud bod rhaid i’r diffynnydd atal y niwsans a bydd y Gorchymyn hefyd yn nodi pa fesurau yn ei farn ef sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn.

    Gall y Gorchymyn hefyd wahardd neu gyfyngu niwsans, ac eto gall benodi sut y dylid gwneud hyn.  Mae unrhyw un sydd, heb reswm da, yn tynnu’n groes i ofynion Gorchymyn o’r fath yn euog o drosedd dan y Ddeddf a gellir ei ddirwyo.